Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Crempog Cocos wy organig wedi?i ferwi
Caws Pob
Article title

Blas Ar Gymru Ar Gyfer Cyngres Goginio Yn Yr Eidal

Full article

Bydd Gwir Flas Cymru ar gael yn ddiweddarach y mis hwn yn un o brif ddigwyddiadau coginio yr Eidal, Identitą Golose (Ionawr 27-30).

Bydd cwmni Halen Mōn yn arddangos ei amrediad yn y digwyddiad ym Milan. Daw Identitą Golose yn fuan ar ōl g?yl goginiol Ewropeaidd arall bwysig, y Feria de Gastronomķa yn Sbaen lle enwyd y cwmni yn un o bum prif gynnyrch gastronomig y byd.

“Mae hwn yn ddigwyddiad newydd i ni a byddwn yn cael cyfle i gwrdd ā rhai o’r chefs rhyngwladol yr ydym eisoes yn eu cyflenwi drwy ddosbarthwyr,” meddai Alison Lea-Wilson, cyfarwyddwr Halen Mōn.

“Mae Identitą Golose yn nodi dechrau 2008 brysur i ni gan y byddwn drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru yn mynd i Gulfood yn Dubai a sioe fwyd ryngwladol Alimentaria ym Marcelona yn y dyfodol agos.”

Bydd Hybu Cig Cymru, a gynrychiolir fel rhan o’r ddirprwyaeth Brydeinig,  yn tynnu sylw at gig oen a chig eidion Cymru.

Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn mae’r gyngres flynyddol yn ymroddedig i goginio unigryw. Fe’i sefydlwyd gan yr Eidalwr Paolo Marchi, y newyddiadurwr ac ysgrifennwr am fwyd.

Am bedwar diwrnod, bydd yr adeilad - pencadlys hanesyddol Cyfnewidfa Stoc Milan, yn gartref i’r gyngres a ddisgrifiwyd fel y ‘digwyddiad blaenllaw ar gyfer chefs avant-garde’.

Yr ardaloedd y rhoddir sylw iddynt eleni fydd rhanbarth Abruzzo yn yr Eidal a’r Deyrnas Unedig.  Bydd y  chefs Heston Blumenthal, Sat Bains, Shane Osborn, a Sanjay Dwivedi yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig ac yn dangos amrediad ac arbenigedd coginio Prydeinig i’r ymwelwyr.

Bydd dinas Milan yn cymryd rhan amlwg hefyd, gyda chyfres o ddigwyddiadau yn rhai o’i bwytai gorau.

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 23 January 2008