Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr Bara lawr ffres gyda lemon
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau
Article title

Llwyddiant Llanllyr Yng Ngwobrau Allforio Prydain

Full article

Mae Cwmni Dwr Llanllyr wedi dod â blwyddyn hynod i ben drwy ennill nid un ond dwy wobr yng Ngwobrau Allforio Food from Britain 2007.

Trechodd y cwmni o Geredigion, sy’n arbenigo mewn cynhyrchu d?r potel o’r ansawdd uchaf, gystadleuaeth galed i ennill teitl  ‘Allforiwr Diod y Flwyddyn’. Dilynwyd hyn gan ail anrheg Nadolig cynnar ar wedd gwobr ‘Allforiwr Cymru y Flwyddyn’ a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mewn cwta bedair blynedd, mae’r cwmni o Dalsarn wedi datblygu ei fusnes rhyngwladol sy’n awr yn cynrychioli pumed ran ei holl werthiant, gyda thwf blwyddyn-ar-flwyddyn yn cyrraedd 50 y cant yn y 12 mis diwethaf yn unig.

“Rydym wrth ein bodd,” meddai Patrick Gee, Cyfarwyddwr Llanllyr. “Mae ennill Allforiwr Cymru y Flwyddyn yn wych, ond mae ennill wedyn gwobr allforiwr Diod Gorau Prydain y flwyddyn tu hwnt i’n gobeithion mwyaf.

“Bu’n flwyddyn ardderchog i ni. Roeddem yn enillwyr yng Ngwobrau Busnes Ceredigion, y newydd-ddyfodiad gorau a’r d?r Prydeinig a gafodd sgôr uchaf mewn cystadleuaeth ryngwladol blasu dall Imbibe Magazine, a’r mis diwethaf fe wnaethom ennill gwobr Gwir Flas.”

Cred y bydd ennill y wobr allforio yn hwb pellach i enw da'r cwmni gartref a thramor.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl dim o hyn pan sefydlais y busnes saith mlynedd yn ôl, ac mae’r canmol i’r tîm sydd gennym yn Llanllyr.”

Ychwanegodd Mark Swanwick, Cadeirydd D?r Llanllyr: “Rydym ar ben ein digon i fod wedi ennill y gwobrau hyn.

“Cawsom rhai anawsterau logistaidd mewn marchnadoedd megis Gogledd America a fu’n her fawr, ond rydym wedi adeiladu arnynt ac mae’r busnes rhyngwladol yn awr yn gryfach nag erioed. Mae’r holl dîm wedi rhoi llawer iawn o ymdrech i adeiladu’r cwmni yr ydym mor falch ohono heddiw, felly mae hyn yn wobr berffaith.”

Dywedodd John Adams, Prif Weithredwr Food from Britain, “Mae D?r Llanllyr yn gwir haeddu ennill y gwobrau. Mae’r tîm wedi dangos ymrwymiad go iawn i allforio, gan ddefnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael i sicrhau llwyddiant rhyngwladol parhaus. Fe wnaeth eu cynnig strategol cadarn ynghyd â’r delfrydau uchel argraff fawr ar y beirniad ac mae’r canlyniadau’n dangos yr effaith y gall allforio ei gael ar berfformiad y busnes drwyddo draw.”

Hefyd ar y rhestr fer yng nghategori Allforiwr Cymru oedd cwmni Halen Môn.

Mae Gwobrau Allforio Food From Britain bellach yn eu 11eg blwyddyn lwyddiannus, a deuant ynghyd â goreuon cwmnïau allforio’r wlad i gydnabod llwyddiannau a dathlu llwyddiant o bob rhan o ddiwydiant bwyd a diod Prydain.

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 3 January 2008