Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Pastai filo sbiboglys a chaws Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Article title

Llaethdy Gwir Flas Yn Cynyddu'r Galw Am Ddosbarthu Ar Garreg Y Drws

Full article
Mae llaethdy lleol yn dathlu ar ôl ennill gwobr bwysig a mynd yn groes i’r tueddiad o ostyngiad yn y dosbarthiadau i garreg y drws.
 
Enwyd Llaethdy T? Tanglwyst yng Nghorneli, Pen-y-bont ar Ogwr yn Gynhyrchydd Rhanbarthol Gorau De Ddwyrain Cymru yng Ngwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru 2007/2008.
 
Mae’r wobr i gydnabod y llwyddiant rhyfeddol a gafodd y busnes mewn llai na 18 mis.
 
Bu dosbarthu llaeth o ddrws i ddrws yn gostwng am 20 mlynedd ac erbyn hyn dim ond 13 y cant o’r llaeth a werthir ym Mhrydain a ddosberthir i garreg y drws o gymharu â 80 y cant yn y 1980au.
 
Ond mae’n stori wahanol iawn yn Fferm T? Tanglwyst, Corneli. Mae eu llaeth mor boblogaidd fel bod bellach restr aros i gael cyflenwadau. Mae’r llaethdy yn potelu’r holl laeth a gynhyrchir gan ei fuches o wartheg Holstein du a gwyn pedigri - tua 12,000 litr yr wythnos - ac yn cefnogi pedair rownd dosbarthu llaeth ym Mhorthcawl, Pîl, Corneli, Mynydd Cynffig a Chefn Cribwr, gan wasanaethu tua mil o gartrefi.
 
“Mae’r dynion llaeth i gyd wedi gweld cynnydd yn y galw ers iddynt gychwyn dosbarthu llaeth T? Tanglwyst. Oherwydd ein bod yn potelu’r llaeth ein hunain ar y fferm, mae’n debyg mai ef yw’r llaeth mwyaf ffres y medrwch ei brynu oherwydd nad yw wedi teithio cannoedd o filltir o amgylch y wlad mewn tancer,” meddai Rhys Lougher, a lansiodd Laethdy T? Tanglwyst ym mis Mai 2006.
 
Rhys, 26 oed, yw’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i fyw yn Fferm T? Tanglwyst, ond roedd y cwymp ym mhris llaeth ynghyd a chostau cynyddol yn golygu fod dyfodol y fferm yn edrych yn ansicr.
 
Yn benderfynol i aros ar fferm y teulu, aeth Rhys ati i ymchwilio sut y medrai ddatblygu’r fferm fel y medrai gynnig bywoliaeth iddo yntau hefyd.
 
Derbyniodd grant Prosesu a Marchnata gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu adeiladu’r cyfleuster prosesu newydd.
 
Mae bellach yn cyflogi wyth o staff i botelu’r holl laeth ac mae’n ei ddosbarthu i gartrefi a busnesau o fewn cylch pedair milltir o’r fferm.
 
Mae gan y llaethdy hefyd rownd fasnachol yn dosbarthu i siopau lleol, bwytai, caffes, cyrsiau golff a gwneuthurydd hufen iâ lleol.
 
Cafodd pob un o’r 80 o wartheg sydd gan ei fferm ei geni yno ac mae ganddynt oll eu henwau, gyda rhai ohonynt wedi ennill gwobrau mewn sioeau amaethyddol lleol ac eraill yn ymweld ag ysgolion lleol gyda Rhys a’i dad John i ddangos i blant o le y daw llaeth.
 
“Mae Fferm T? Tanglwyst yma ers oes y mynachdai ac roeddwn yn benderfynol i barhau’r traddodiad,” meddai Rhys, oedd hefyd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Ffermwr Ifanc y Flwyddyn Farmer’s Guardian.
 
“Rydym yn cynhyrchu'r hyn y mae pobl leol ei angen - llaeth naturiol sydd yn fwy ffres, yn blasu’n well ac nad yw wedi teithio ymhell.
 
“Maent yn falch i gefnogi eu fferm leol ac yn dweud fod blas gymaint gwell ar ein llaeth.”
 
 
CYSWLLT:
 
Ar gyfer lluniau cysyllter â Leigh Roberts ar 01656 788336 neu e-bost leigh@colemanroberts.co.uk
 
I gael gwybodaeth bellach cysyllter â Rhys Lougher ar 07968 565881
www.tytanglwystdairy.com
Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 5 December 2007