Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Wyau pob organic Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion
Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Article title

Brwsel yn cael blas ar Gymru ar gyfer Dydd Gwyl Dewi

Full article

Caiff Dydd Gwyl Dewi ei ddathlu mewn steil ym Mrwsel gyda chyfres o ddigwyddiadau gyda rhai o’r bwydydd a’r diodydd gorau sydd gan Gymru i’w cynnig.

Bydd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn cychwyn digwyddiadau nawddsant Cymru ddydd Llun 26 Chwefror gyda derbyniad yn tynnu sylw i broffil cynyddol Cymru yn yr Uned Ewropeaidd.

Cynhelir y derbyniad yn Le Bibliotheque Solvay ym Mharc Leopold, yng nghanol ardal Ewropeaidd y ddinas, a bydd yn dangos rhai o’r bwydydd a’r diodydd gorau o Gymru, gyda llawer o’r cynhwysion yn cael eu cyflenwi gan enillwyr Gwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru.

Dywedodd Rhodri Morgan AC: “Caiff Dydd Gwyl Dewi ei ddathlu ledled y byd, ac mae’n gyfle gwych i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru i ddangos diwydiant mor egniol a chyffrous sydd gennym ac ansawdd ac amrywiaeth y cynnyrch sydd ar gael.”

Disgwylir tua 300 o westeion, yn cynnwys diplomyddion, Aelodau Seneddol Ewropeaidd, cynrychiolwyr rhanbarthol, ffurfwyr barn a chyfeillion Cymru; mae bwydlen y derbyniad - a gynlluniwyd gan Angela Gray, sy’n ymgynghori ac yn ysgrifennu am fwyd - yn cynnwys cig baedd gwyllt, madarch shitake organaidd a bwydydd mwg megis hwyaden, hadog a menyn garlleg, ac wrth gwrs gig oen a chig eidion Cymru, ac fe’i noddir gan Hybu Cig Cymru.

Bydd hefyd fwrdd blasu caws yn cynnwys Caws Cenarth Caerffili a Perl Las, Pont Gar, Cerwyn Mwg, Caws Old Shire Special Reserve, Cadog Aeddfed a Thra Aeddfed, Gorau Glas a Chaws Eryri Red Devil a Green Thunder.
Caiff cwrw go iawn o Gymru ei weini diolch i The Hurns Brewing Company o Abertawe. Gall gwesteion flasu gwahanol fathau o gwrw yn cynnwys Chwerw Traddodiadol, Cwrw Braf, Cwrw Haf, Cwrw Gaeaf a’u cynnyrch diweddaraf Chware Teg. Bydd Hugh Longhurst o’r cwmni hefyd yn cyflwyno eu cynnyrch mewn bar lleol sy’n gwerthu dros 2,000 math o gwrw o bob rhan o Ewrop.

Mae’r derbyniad yn Le Bibliotheque Solvay yn un o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ym Mrwsel o amgylch Dydd G?yl Dewi lle gweinir bwyd a diod o Gymru.

Ddydd Mawrth 27 Chwefror, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Addysg Uwch Cymru Brwsel a’r Cyngor Prydeinig yn cynnal cynhadledd yn Ty Cymru yn canolbwyntio ar le diwylliant, creadigrwydd ac arloesedd yn yr Undeb Ewropeaidd.

Gall gynrychiolwyr yn y Gynhadledd Diwylliant a Chreadigrwydd ar gyfer Swyddi a Thwf ddewis o fwydlen Gymreig sy’n cynnwys seigiau megis tartenni Cennin a Caws Cenarth gyda briwsion perlysiau, potiau bwyd môr gyda dresin bara lawr, cytledau cig oen Cymreig wedi’u coginio gyda mêl a rhosmari a ffiled cig eidion Cymreig mân gyda saws stroganoff a hufen sur a reis.

Yn ddiweddarach y noswaith honno agorir ‘Cymru ar Gynfas’, arddangosfa gelf chwech wythnos o hyd a drefnwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn cysylltiad â’r Cyngor Prydeinig ac Oriel Martin Tinney i arddangos chwech artist amlwg o Gymru - Keith Bowen, Harry Holland, Gwilym Pritchard, Shani Rhys James, a’r diweddar Peter Prendergast.

Bydd gwesteion yn medru blasu cynnyrch Cymreig gyda chanapés megis crocetau hadog mwg Mynydd Du gyda saws tartar, cawl cryno madarch shitake organig , hwyaden mwg, a wontons ciwcymbr a sesame.

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474

Cynhadledd Diwylliant a Chreadigrwydd ar gyfer Swyddi a Thwf
Mae’r gynhadledd yn gyfle i drafod lle diwylliant, creadigrwydd ac arloesedd yn yr Undeb Ewropeaidd ac edrych ar y rhan y gall llywodraethau rhanbarthol a lleol ei chwarae i ddatblygu eu diwydiannau creadigol a diwylliannol a thrafod rôl Sefydliadau Addysg Uwch wrth ddarparu sgiliau priodol ar gyfer cyflogadwyedd gweithwyr yn y dyfodol.

Rhestr o gynhyrchwyr Cymreig ar y bwydlenni
Hybu Cig Cymru - Cig Oen a Chig Eidion o Gymru
Caws Cenarth - Perl Las, Cenarth Caerffili
Trealy Farm Charcuterie - Selsig Toulouse
Gorau Glas - Caws
Llaeth Bethesda - Menyn
Harmony Herd - Gamon Baedd Gwyllt
Bacheldre Watermill- Blawd 5 Hedyn Brag Cryf a Blawd Gwenith yr Almaen
Crai Organics - Madarch Shitake
Derimon Smokery - Cig Moch wedi’i Sych Halltu
The Fresh Pasta Company
Little Cefn Smoke House - Menyn Garlleg Mwg
Black Mountain Smokery - Brest Hwyaden Fwg a Hadog Mwg
The Fuller Flavour - Terîn Gêm gyda Relish Sialots a Rhesin, Pastai Eog a Brocoli, Teisen Gaws Siocled Gwyn Dwbl gyda Saws Kumquat Sauce, Tartenni Crymbl Afal a Thaffi
Seidr Gwynt y Ddraig - Black Dragon, Orchard Gold a Gold Medal
Cwmni Caws Sir Gâr - Pont Gâr gwyn a glas
The Patchwork Traditional Food Company - Parfat iau cyw iâr
The Hurns Brewing Company - Chwerw Traddodiadol, Cwrw Haf, Cwrw Braf, Cwrw Gaeaf
Clams Hand Made Cakes- Bara Brith
Caws Pant Mawr - Cerwyn Mwg a Chaws y Graig
Caws Eryri - Red Devil, Green Thunder
Hufenfa De Arfon - Old Shire Special Reserve
Dairy Farmers of Britain - Cadog Cheddar Tra Aeddfed a Cheddar Canolig
D?r Mwyn T? Nant
Sudd Afal Gellirhyd - ‘Cat’s Head’ a ‘Annie Elizabeth’
Parsons Pickles - Bara Lawr
Chocolate Connection - Tryfflau Wisgi Penderyn
The Welsh Whisky Company - Wisgi Penderyn

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 20 February 2007