Bydd bwyd a diod o Gymru i’w gweld ar y sgrîn fach ar Ddydd G?yl Dewi pan fydd hyrwyddiad arbennig Gwir Flas ar y sianel deledu QVC ar rai gyfer rhai o gynhyrchwyr mwyaf adnabyddus Cymru.
Bydd cynnyrch pum cwmni o Gymru - Clam’s Hand Made Cakes, Cheeses From Wales, Pembertons Chocolates, Harvies Pies, Welsh Farm Organics - yn cael eu dangos mewn sesiwn fyw awr o hyd a ddarlledir ddydd Iau 1 Mawrth am 9pm.
Cyflwynir y rhaglen gan Simon Biagi o QVC gyda Angela Gray, ymgynghorydd, ysgrifenwraig a darlledwraig bwyd. Bydd sioe Gwir Flas Cymru yn dangos cynnyrch unigol gan y cwmnïau yn ogystal â *hamperi a blychau, sy’n galluogi siopwyr cartref o bob rhan o Brydain i brynnu cynnyrch Cymru.
Cyn y rhaglen gall gwylwyr weld cyfres o ddarnau o raglenni a ffilmiwyd yn Sioe gyntaf Gwir Flas Cymru a ddarlledwyd fis Tachwedd diwethaf i gyd-daro gyda phen llanw Gwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru.
MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
I gael gwybodaeth bellach am QVC, cysylltwch â:
Kelly-Ann Teasdale yn Attenborough Saffron
Ffôn: 0207 067 1597
E-bost: kellyannt@attenborough.net
*Hamperi/Blychau
Welsh Farm Organics: Blwch Ham/Gamwn (Eitem rhif:826548 )
Detholiad o 2 ddarn organig o Ham/Gamwn, yn cynnwys Darn Berwi Gamon Organig Welsh Farm Organics. Cyfanswm bwysau cyfartalog 1Kg, Darn o Ham Organig Cartref gyda Glasiad Mêl a Mwstard, pwysau cyfartalog 1Kg.
Welsh Farm Organics: Blwch Byrgyr (Eitem rhif:826549 )
Blwch yn cynnwys 20 x 100g Stêc Cig Eidion Organig Cymreig a Byrgyrs Eidion Nionyn Coch.
Welsh Farm Organics: Hamper Gwir Flas (Eitem rhif:826550 )
Blwch dethol yn cynnwys Byrgyrs Cig Oen Organig Welsh Farm Organics (6 x 100g), Selsig Porc Organic a Marjoram (pecyn o 6), Golwythion Oen Organig (pecyn o 4, cyfanswm pwysau cyfartalog 350g) ynghyd â phecyn triawd o gawsiau cwyr 200g Caws Eryri yn cynnwys: Red Devil (caws Red Leicester gyda Chilli a Phupr, Green Thunder gyda Garlleg a Pherlysiau a Back Bomber Vintage Cheddar.
Harvies Pies : 10 x 200g Pastai Stêc Sawrus (Eitem rhif: 826081 )
Blwch yn cynnwys 2x Stêc Wellington, 2x Stêc a Chwrw, 2x Stêc Marchruddyg a Mwstard Cyflawn, 2 x Stêc Brandi a Phupur Du Cragiog a 2x Stêc ac Aren.
Harvies Pies: 10 x 160g Pastai Ffrwythau (Eitem rhif: 826510 )
2 x Gellyg a Sinsir, 2 x Riwbob a Chwstard, 2 x Afal Bramley, 2 x Afal a Cyrains Duon a 2 x Mefus a Champagne
Cheeses from Wales: 5 x Caws Gwobrwyol o Gymru (Eitem rhif: 826525 )
Perl Las, Cenarth Caerffili, Cerwyn Mwg, Caws y Graig (caws gafr) & Cilowen Organig gyda Chennin.
Clams Handmade Cakes: Hamper teisennau (Eitem rhif: 826446 )
Blwch yn cynnwys 8 teisen: almwn gludiog, bara brith, moron, ffrwythau ecsotig, bisgedi cyffug siocled, tafelli caramel a fflapjacs pwmpen.
Pembertons Chocolates: Hamper Siocledi (Eitem rhif:826564 )
Gyda blwch detholiad siocledi, bariau siocled, caraques blodau a siocled yfed.
Cwmnïau a ddangosir ar QVC
Clam’s Hand Made Cakes
Cyswllt: Lewis Phillips
Ffôn: 01873 812283
Ffacs: 01873 812259
E-bost: lewis@clamscakes.co.uk
Cheeses From Wales
Cyswllt: Gill Pateman
Ffôn: 01974 282572
E-bost: gill@cheesesfromwales.com
Pembertons Chocolates
Cyswllt: Emily Jones
Ffôn: 01994 448800
E-bost: chocolate.farm@btopenworld.com
Harvies Pies
Cyswllt: Carol Harvie
Ffôn / Ffacs: 01352751285
Symudol: 07813 810721
E-bost: Pastry5@btconnect.com
Welsh Farm Organics
Cyswllt: Jonathan Rees
01686 627979
E-bost: sales@welshfarmorganics.co.uk