Mae cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn paratoi ar gyfer dathliadau wythnos o hyd yn Efrog Newydd ar gyfer Dydd Gwyl Dewi.
Mae Wythnos Cymru flynyddol Efrog Newydd (23 Chwefror - 3 Mawrth) yn rhoi sylw i oreuon Cymru gyfoes gan gyfuno’r celfyddydau, diwylliant, bwyd a diod, barddoniaeth a llenyddiaeth, busnes, ffilm a cherddoriaeth.
Mae bwyd a diod o Gymru yn rhan bwysig o weithgareddau’r wythnos, gyda nifer o gwmnïau’n arddangos a gwerthu eu nwyddau mewn siopau megis
Zabar's, Fairways, Chelsea Market Baskets a The Amish Market.
Bydd The Patchwork Traditional Food Company, Llanllyr Water Company a The Hurns Brewing Company yn hyrwyddo eu cynnyrch i gynulleidfa America ynghyd â’r Cwmni Wisgi Cymreig a fydd ar 1 Mawrth yn dathlu trydydd pen-blwydd lansio ei Wisgi Cymreig Brag Sengl Penderyn gyda digwyddiad blasu ym mar Gwyddelig a bwyty O’Lunneys ar Times Square.
Rhwng 26 Chwefror hyd 2 Mawrth, bydd Colin Grey a thîm o chefs o Gymru yn paratoi ciniawau Cymreig ganol-dydd yn Ystafell Fwyta’r Cynrychiolwyr yn y Cenhedloedd Unedig, gyda’r seigiau blasus yn cynnwys: Terîn Cennin a Chaws Gafr Pantysgawen, Ffiled Cig Oen a Patchwork Pate Parfait a Llysiau Rhost a Quiche Caws Glas Perl Las.
Uchafbwynt gweithgareddau coginiol yr wythnos fydd cinio pum cwrs gourmet yn adeilad hanesyddol Ty James Beard ddydd Sadwrn 3 Mawrth.
Hefyd i goffau Gwyl Dewi a dathlu Wythnos Cymru yn Efrog Newydd 2007, cyflwynir 1,000 o fylbiau cennin Pedr Dinbych y Pysgod yn yr Ardd Goffa Brydeinig.
MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
I gael mwy o wybodaeth am weithgareddau yn ystod Wythnos Cymru yn Efrog Newydd logiwch i www.walesinny.com