- Article title
Bwyty Gwobrwyol Yn Paratoi Blas O Sir Gaerfyrddin- Full article
- Caiff rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod Sir Gaerfyrddin sylw mewn noswaith gourmet arbennig (20 Chwefror) yn y Y Polyn, un o brif fwytai Gorllewin Cymru.
Bydd llu o gynhyrchwyr lleol, llawer ohonynt wedi ennill gwobr y Gwir Flas, yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn Y Polyn sy’n anelu i ‘ddathlu’ amrywiaeth cynnyrch o’r sir a sefydlu cysylltiadau agosach rhwng bwytai a chyflenwyr. Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn cysylltiad gyda Y Polyn a’r cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan, a bydd yn cynnwys bwydlen a ddyfeisiwyd gan Simon Wright, cydberchennog y bwyty. Bydd y cynhwysion ar gyfer y seigiau yn cynnwys cwrw Ffos y Ffin, Ham Caerfyrddin, Perl Las Caws Cenarth, cregyn gleision gan Marc Williams Porth Tywyn, porc gan Laugharne Meats, mêl gan Gwenyn Bro Beca ac iogwrt, hufen a menyn o Fferm Cwmheidir. Bydd bwrdd caws yn cynnwys cawsiau gan Kid Me Not, Caws Nantybwla, Gwneuthurwyr Caws Llanboidy a Chwmni Caws Caerfyrddin, gyda siocledi gan Heavenly, y gwneuthurwr siocledi o Landeilo i ddilyn. Dywedodd Barry Davies, Swyddog Bwyd Cyngor Sir Caerfyrddin, “Rwy’n hyderus y bydd y digwyddiad hwn yn llwyddiannus iawn wrth hyrwyddo cynnyrch gwobrwyol Sir Gaerfyrddin.” Ers agor yng Nghapel Dewi ger Nantgaredig ym mis Ionawr 2005, mae Y Polyn wedi derbyn nifer fawr o wobrau a chanmoliaeth yn cynnwys seren Egon Ronay a chymeradwyaeth yng Ngwobrau Bwyd a Diod y Gwir Flas. “Mae hwn yn gyfle gwych i ddangos rhagoriaethau defnyddio cynhwysion lleol mewn seigiau sy’n arddangos yr amrediad gwych o gynnyrch o sir Gaerfyrddin,” meddai Simon Wright, sydd hefyd yn gweithio fel yr ymgynghorydd bwytai ar sioe deledu ‘Ramsay’s Kitchen Nightmares’ ac sy’n gyn-olygydd yr AA Restaurant Guide. “Nid yw bwytai fel ein un ni yn ddim byd heb gynnyrch o’r ansawdd uchel ac rydym yn lwcus i gael cymaint o amrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin. “Rwy’n credu fod y digwyddiad yn gynllun gwych gan ddod â chynhyrchwyr a pherchnogion bwytai ynghyd ac yn rhan o her barhaus i’r ddau gr?p gydweithio wrth hyrwyddo a marchnata’r hyn sydd gan Sir Gaerfyrddin i’w gynnig ar y plât. “Rwyf wedi ymweld â miloedd o fwytai ledled Prydain dros y blynyddoedd ac mae’r deunyddiau craidd sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin yn bendant yna gyda’r gorau.” I gael gwybodaeth bellach am y digwyddiad cysylltwch â: Cyngor Sir Caerfyrddin Datblygu Economaidd Canolfan Busnes Gwledig Nant y Ci Caerfyrddin SA33 5DR Ffôn: 01267 242331 E-bost: BaDavies@carmarthenshire.gov.uk Gwefan: www.carmarthenshire.gov.uk/foodanddrink Cyswllt: Barry Davies Y Polyn Capel Dewi Nantgaredig Sir Gaerfyrddin SA32 7LH Ffôn: 01267 290000 E-bost: info@ypolyn.co.uk Gwefan: www.ypolynrestaurant.co.uk Cyswllt: Simon Wright - Cyhoeddwyd yr erthygl ar:
Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 8 February 2008
|