- Article title
Halen Mon Yn Cymryd Enwogrwydd Sioe Deledu'r BBC Gyda Phinsaid O Halen- Full article
- Bydd cynhyrchwyd halen môr byd-enwog Halen Môn yn mwynhau ychydig funudau’n fwy o sylw pan fyddant yn ymddangos ar sioe deledu Ready Steady Cook ar y BBC fis nesaf (4 Mawrth).
Dangosir tîm o’r cwmni - sy’n enillwyr gwobrau Gwir Flas - yn mynd â bag o gynhwysion i’r chefs enwog ar y sioe i’w defnyddio. Roedd y sêr teledu Angus Purden o raglen Cash in the Attic a Dave Harper o raglen Bargain Hunt yn bartneriaid i’r chefs, a fydd yn coginio seigiau yn defnyddio cynhwysion o fag y BBC. Bydd Garrey Dawson a Paul Rankin yn paratoi seigiau gyda chynhwysion ym mag Halen Môn. Byddant yn cynnwys bwydydd lleol o Ynys Môn yn cynnwys, wrth gwrs, Halen Môn Mwg a chaws glas lleol, Gorau Glas. Gwnaeth y chefs salad o gennin a chig moch, gan rostio tomatos ar wahân gyda halen mwg a dresin o gaws Gorau Glas a spagattini, a dilyn hyn gyda orenau a hufen gyda halen mwg wedi’i gymysgu gyda cardamom. Holodd Ainsley Harriott, cyflwynydd y sioe, dîm Halen Môn sut y dechreuodd y cwmni. Ateb David Lea Wilson, sefydlydd y cwmni, oedd “Mae popeth da yn cychwyn yn y gegin ac yn ein cegin ni y cychwynnodd Halen Môn gyda sosban ar yr Aga a llond sosban o heli.” Mae’r cwmni’n cynhyrchu halen môr mewn pum blas: pur, mwg, sbeislyd, fanila ac yn awr seleri. Helpwyd y cwmni gan nifer o raglenni cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y diwydiant bwyd a diod. Yn ddiweddar enillodd y cwmni wobr Feria de Gastronomia, wedi’i dewis gan chefs gyda sêr Michelin fel bod ymysg y pum cynhwysyn gorau ar gael yn y byd - cymeradwyaeth ryfeddol sydd yn sicr o gynyddu’r galw ymhellach byth. Teithiodd David Lea-Wilson, Nicki Hughes, William Burgess, Alison Mummery a Phillip Roberts o Ynys Môn i stiwdio teledu’r BBC yn Llundain. “Roedd yn bwysig i ni ddangos i’r gwylwyr fod ein halen môr yn dda i bawb nid dim ond y chefs enwocaf, felly mae cyrraedd tair miliwn o wylwyr drwy Ready Steady Cook yn hwb enfawr i ni,” meddai David Lea Wilson. “Roedd yn dangos i’r gwylwyr sut y medrir gwneud seigiau syml fel tomatos wedi grilio‘n gofiadwy drwy ychwanegu ein halen mwg, a bydd hyn yn annog mwy o bobl i brofi Halen Môn.” Roedd yn brofiad cofiadwy i’r holl staff, meddai David. “Roedd yn hwyl hefyd gweld pa mor rhyfeddol o broffesiynol yw tîm Ready Steady Cook,” meddai. “Ond roedd yn ddiwrnod hir - 16 awr - i ymddangos ar y teledu am tua munud ond bydd tua thair miliwn o bobl yn ei weld, felly roedd yn werth yr ymdrech!” Darlledir y sioe ddydd Mawrth 4 Mawrth am 4.30pm ar BBC2 Mae llun o dîm Halen Môn gyda Ainsley Harriott yn stiwdio Ready Steady Cook ar gael. E-bost leigh@colemanroberts.co.uk. Sefydlwyd y cwmni yn 1996. Mae’n cyflogi 14 o bobl. Mae trosiant y cwmni dros £600,000 ac yn cynyddu’n gyflym. Mae’n allforio i 21 o wledydd yn bennaf yn Ewrop yn arbennig i’r Eidal a Sbaen, ond hefyd i’r Unol Daleithiau a Hong Kong.
- Cyhoeddwyd yr erthygl ar:
Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 12 February 2008
|