Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Pastai filo sbiboglys a chaws Crempog Cocos
wy organig wedi?i ferwi
Article title

Prifysgolion Yn Hyrwyddo Bwyd Cymru

Full article

Mae prifysgolion Cymru wedi uno i hyrwyddo a dathlu bwyd o Gymru cyn Dydd Gwyl Dewi (1 Mawrth).
 
Mae’r enghraifft hon o gydweithredu yn torri tir newydd, a dyma’r tro cyntaf i un digwyddiad hyrwyddo bwyd o Gymru gael ei lansio ar draws yr holl sector cyhoeddus.
Lansiwyd g?yl fwyd ‘Croeso i Gymru’ gan sefydliadau sy’n aelodau o Gonsortiwm Prynu Addysg Uwch Cymru (HEPCW*) i roi sylw i fwyd o Gymru ac annog mwy o fyfyrwyr i ddewis bwydydd lleol ym mannau bwyta’r prifysgolion.
Bydd wythnos yr wyl yn cychwyn ddydd Llun 25 Chwefror 2008 ac yn parhau hyd Ddydd Gwyl Dewi ar 1 Mawrth.
Yn ystod yr wythnos, mae’r holl brifysgolion yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn cynnwys Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe, Caerdydd, Pontypridd a Chasnewydd, wedi cytuno defnyddio hyrwyddo cynnyrch a bwyd o Gymru yn eu holl weithgareddau arlwyo.
Dywedodd Peter Standfard, arweinydd caffael Gr?p Arlwyo HEPCW:
“Mewn ymateb i’r diddordeb cynyddol, byddwn yn cynnig amrediad o gynnyrch newydd a sefydledig o Gymru a byddwn hefyd yn cynnig bwydlenni a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer yr wyl.
“Byddwn hefyd yn arddangos yr hyn y mae prifysgolion yn ei wneud i helpu i hyrwyddo a datblygu bwydydd o Gymru, fel grwp prifysgol a hefyd mewn partneriaeth gyda sectorau cyhoeddus eraill yn ogystal â gweithio tuag at amcanion cynaliadwyedd megis gostwng milltiroedd bwyd tra’n cefnogi datblygiad economaidd tymor hwy sector bwyd Cymru yn ei gyfanrwydd.”
Dangosodd yr arolwg gwariant diweddar gan Strategic Marketing ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru fod Prifysgolion Cymru yn gwario dros £1.1 miliwn y flwyddyn ar gynnyrch craidd o Gymru, a bod y canran o gynnyrch o Gymru a brynir yn hytrach na chynnyrch arall o’r tu allan i Gymru wedi cynyddu gan wyth y cant dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r tueddiad hwn yn adlewyrchu’r diddordeb cynyddol mewn bwydydd o Gymru gan fyfyrwyr, staff ac arlwywyr.
Yn ystod wythnos yr wyl, disgwylir y bydd prifysgolion Cymru yn gweini mwy na 100,000 o gwsmeriaid yn eu bwytai a’u caffes.
 “Gyda thua 45 y cant o’n poblogaeth myfyrwyr yn dod o’r tu allan i Gymru, mae’r wyl hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o safon cynnyrch Cymru i gwsmeriaid o weddill y Deyrnas Unedig a phob rhan o’r byd yn ogystal â hyrwyddo bwyd o Gymru i bobl leol.
“Mae Cymru’n fyd-enwog am ei chig oen, ac wrth gwrs bydd seigiau cig oen ar y bwydlenni, ynghyd â chig safon uchel arall o Gymru. Byddwn hefyd yn defnyddio llysiau a dyfwyd yn lleol, ynghyd â chynnyrch llaeth, bwydydd sawrus a phwdinau, dwr ffynnon o Gymru a llawer o gynnyrch eraill gwych o Gymru. Yn ystod yr wythnos, bydd ein hallfannau bwyd hefyd wedi eu haddurno gyda chennin Pedr - a dyfwyd yng Nghymru wrth gwrs!”
Dywedodd Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru:
“Rwy’n falch fod HEPCW wedi cymryd yr awenau i hyrwyddo bwyd o Gymru i’n prifysgolion. Gobeithio y bydd yn annog myfyrwyr i edrych am gynnyrch o Gymru y tu allan i’r brifysgol heddiw. Mae hefyd yn dangos y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer cynhyrchwyr lleol yn y sector cyhoeddus.”

CYSWLLT: Peter Standfast, Pennaeth Caffaeliad UWIC ar 029 2041 6089 neu e-bost PStandfast@uwic.ac.uk

*Mae HEPCW yn gweithio i feithrin cydweithredu ymhlith ei aelodau a’r sectorau cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig i sicrhau gwerth am arian a rhannu a manteisio o arfer gorau ar draws pob agwedd o gaffaeliad ei aelodau.

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 21 February 2008