Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion caws wedi?i ffrďo?n ddwfn gydag eirin
Hufen Iâ Bara Brith gyda Gwirod Hufen
Article title

Cynhyrchwyr O Gymru Ar Y Sgrin Ar Ddydd Gwyl Dewi

Full article
Mae rhai o gynhyrchwyr bwyd mwyaf adnabyddus Cymru yn paratoi i ymddangos ar y sgrin fach am y tro cyntaf mewn rhifyn arbennig o Sioe Gwir Flas Cymru ar QVC, y sianel siopa deledu Brydeinig, a ddarlledir Ddydd Gwyl Dewi.
 
Bydd y sioe ar 1 Mawrth yn cynnwys amrywiaeth o gynnyrch o Gymru yn cynnwys cig, caws, teisennau a phasteiod, ond hwn fydd y tro cyntaf i’r cynhyrchwyr eu hunain gymryd rhan.
 
Rhoddir sylw i bedwar cwmni o Gymru: Welsh Farm Organics, Clams Cakes, Cheeses From Wales a Harvies Pies yn y rhaglen awr o hyd a ddarlledir ar 12 canol-dydd ac a gyflwynir gan Anthony Heywood o QVC.
 
Cafodd y cynhyrchwyr brawf sgrin a  hyfforddiant. Dywedodd Jonathan Rees o Welsh Farm Organics ei bod yn gyffrous darlledu i gynulleidfa fyw.
 
“Mae’n gyfle gwych i roi gwedd bersonol i’n cynnyrch ar gyfer y gwylwyr. Bydd cwsmeriaid QVC yn gweld fod y cig yn mynd yn syth o’n fferm i drothwy eu drws, a pha ddiwrnod gwell i’w ddangos na Dydd Gwyl Dewi.”
 
Bydd Jonathan yn ymddangos am y tro cyntaf ar y teledu ynghyd â Carol Harvie o Harvies Pies, Carwyn Adams o Caws Cenarth a fydd yn cynrychioli Cheeses From Wales, a Jane Philips o Clams Cakes.
 
NODIADAU I’R GOLYGYDD
 
Manylion Sianeli
Sky Digital - Sianel 630
Freeview - Sianel 16
Virgin TV - Sianel 740
0800 50 40 30
www.qvcuk.com
 
I gael gwybodaeth bellach am QVC cysylltwch â:
Elinor Lloyd
Ffôn: 0207 705 5565
E-bost: elinor_lloyd@QVC.com
 
CYNNYRCH A DDANGOSIR
 
Welsh Farm Organics (Eitem rhif: 826549)
20 x 100g Byrgyrs Cig Eidion Gwartheg Duon Cymreig a Nionyn Coch
 
Welsh Farm Organics (Eitem rhif: 827704)
3KG Ham Aer-sychu Sir Drefaldwyn
 
Harvies Pies (Eitem rhif: 826081)
10x 200g Pasteiod Sawrus; 2x stęc, marchruddygl a mwstard cyflawn, 2x stęc brandi a phupur du craced, 2x stęc ac aren, 2x stęc a chwrw, 2x stęc Wellington.
 
Harvies Pies (Eitem rhif: 826510)
10 x 160g Detholiad Pasteiod Ffrwythau Cymysg Sweet Things; 2x pastai riwbob a chwstard, 2x pastai gellyg a sinsir, 2x pastai afal bramley, 2x afal a chyrens duon, 2x tarten champagne mefus.
 
Welsh Farm Organics (Eitem rhif: 827468)
Blwch Cig Oen Organig Cymysg; 1x 1kg ysgwydd cig oen, 2x stęc coes oen, 1x500g briwgig oen a 4xgolwyth cig oen.
 
Cheeses from Wales (Eitem rhif: 828101)
Blwch cawsiau gwobrwyol o Gymru gyda 5 blas cymysg.
 
Welsh Farm Organics (Eitem rhif: 827971)
Blwch Byrgyr - 10x cig oen a mintys, & 10x byrgyr stęc eidion
 
Welsh Farm Organics (Eitem rhif: 827972)
Stęc Brechdan; 2x Stęc Ffolen, 2xStęc Ffolen Uchaf, 2x Stęc Coes Oen; x stęc Coes Porc.
 
Clams Cakes (Eitem rhif: 827917)
Casgliad o deisennau - Bara Brith, Cyffug Siocled, Almon a Marzipan
 
Harvies Pies (Eitem rhif: 827979)
Cymysgedd o basteiod melys a sawrus; 1x 200g Stęc a Chwrw, 1x 200g Cig Oen Mintys a Phys, 1x 200g Cyw Iâr, Gwin Gwyn a Tarragon,  1x 180g Tutti Frutti, 1x 180g Riwbob a Chwstard.
Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 26 February 2008