Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin Wyau pob organic
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau
Article title

Cynhyrchwyr Yn Hybu Gwir Flas Cymru Yn Hotelympia

Full article
Bydd rhai o gynhyrchwyr bwyd a diod mwyaf adnabyddus Cymru yn mynd i Lundain ar gyfer un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant lletygarwch, Hotelympia (17-21 Chwefror). Bu’r digwyddiad yn rhan gyfannol o farchnad y Deyrnas Unedig am bron 75 mlynedd.
 
Bydd nifer o gwmnïau o Gymru - yn cynnwys enillwyr gwobrau’r Gwir Flas - yn arddangos yn y sioe dan faner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru.
 
Cynhelir Hotelympia yn ExCel yn Llundian, ac mae’n un o brif arddangosfeydd y byd ar gyfer cynnyrch newydd blaengar ac arloesol ac yn ddigwyddiad pwysig ar gyfer cwmnïau bwyd a diod sy’n dymuno cyflenwi’r gwasanaeth bwyd a lletygarwch.
 
Yn ogystal â’i selsig gwobrwyol, bydd The Welsh Sausage Company yn dangos ei amrediad newydd o beli cig ac yn lansio chwaer gwmni newydd - UK Food Hall.
 
Ffurfiwyd UK Food Hall i gyflenwi opsiynau prydau iach i’r sector cyhoeddus yn cynnwys cig gridyll Cig Oen Cymreig a Chig Eidion Cymreig, peli stwffin, cyw iâr wedi’i goginio a physgod.
 
Bydd The Fresh Pasta Company yn lansio cnwd swmpus o gynnyrch blaengar yn y sioe. Yr eitemau newydd fydd Ravioli Eog Mwg, Ravioli Roced, Ravioli Sbigoglys a Ricotta, Dalenni Lasagne Ffres, Gnocchi Basil a Thatws a Gnocchi Sbigoglys Bach. Hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf fydd pastas a wnaed â llaw: Tortelloni Calon Artisiog, Tortelloni Eidion Brwysedig, Tortelloni Madarch Gwyllt a Tortelloni Sbigoglys a Ricotta.
 
Bydd Princes Gate o Sir Benfro yn arddangos ei amrediad steilus a chyfoes o boteli d?r, sy’n neilltuol o addas ar gyfer y sector lletygarwch. Mae’r cwmni’n cynhyrchu mathau d?r llonydd, d?r pefriog a d?r â blas mewn amrediad o boteli. Er yn gyfoes, mae’r amrediad gwydr oll â nodweddion brand hynod ond gyda gorffeniad steilus a ffasiynol.
Hufen Sur a Garlleg Gwyllt Cotswold yw’r ychwanegiad diweddar i amrediad creision REAL Chips a wneir gan Real Crisps o Gasnewydd. Bydd y cwmni yn arddangos y rhain a’i greision naturiol a goginir â llaw, yn cynnwys eu Sglodion Llysiau newydd a ddaw mewn dau fath - Llysiau Cymysg (moron, betys, pannas a thatws melys wedi’u sesno’n ysgafn gyda halen môr) a Phannas (wedi’u sesno gyda halen môr a phupur du wedi’i falu).
 
Bydd gan Vin Sullivan Foods Cyf o Flaenafon yng Ngwent, sy’n arbenigo ar gyflenwi bwyd safon uchel i fwytai, cyflenwr bwyd safon uchel i fwytai, amrediad o gynnyrch ffres a pharod i’w bwyta. Yn ogystal â’i amrediad o Gig Oen Cymreig, Cig Eidion Cymreig, porc, bwyd môr, stoc gourmet, siytni, cadwolion a phwdinau, bydd ganddynt amrediad cynhwysfawr o charcuterie.
 
Hefyd yn cael eu dangos fydd amrediad eang o gawsiau ffermdy Cymreig a bara organig.
 
Bydd Trioni Cyf yn arddangos ei flaslaeth organig Daioni. Mae diodydd y cwmni gwobrwyol o Sir Benfro yn isel o ran braster heb unrhyw liwiau artiffisial neu gadwolion ac ar gael mewn bedwar blas - siocled, mefus, banana, a llugaeron a mafon cochion.
 
CWMNÏAU’N ARDDANGOS DAN FANER Y GWIR FLAS
 
I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysyllter â:
 
Princes Gate Spring Water
Fferm New House
Prince’s Gate
Arberth
Sir Benfro
SA67 8JD
Ffôn: 01834 831225
E-bost: nicola@princesgatespringwater.com
Gwefan: www.princesgatespringwater.com
Cyswllt: Nicola Merriman
 
The Fresh Pasta Company Cyf.
T? Compass
Parc Diwydiannol Merthyr Tudful
Merthyr Tudful
CF48 4DR
Ffôn: 0845 603 7746
E-bost: pasta@thefreshpastacompany.com
Gwefan: www.thefreshpastacompany.com
Cyswllt: Mark Garcia-Oliver
 
The Real Crisp Company / Sirhowy Valley Foods Cyf
Unedau 17 & 18, Willow Road
Stad Ddiwydiannol Pen-y-fan
Crymlyn
Casnewydd
Gwent
NP11 4EG
Ffôn: 01495 241960
E-bost: sales@realcrisps.com
Gwefan: www.realcrisps.com
Cyswllt: John Mudd
 
The Welsh Sausage Company
4 Stryd Aber-riw
Y Trallwng
Powys
SA21 7AD
Ffôn: 01938 552331
E-bost: john@langfords-foodhall.co.uk
Gwefan: www.langfords-foodhall.co.uk
Cyswllt: John Langford
 
Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
Sir Benfro
SA37 0EU
Ffôn: 01239 682572
E-bost: teleri@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com
Contact Teleri Thomas
 
Vin Sullivan Foods Cyf
2 Stad Gilchrist Thomas
Blaenafon
Torfaen
NP4 9RL
Ffôn: 01495 792792
E-bost: sales@vin-sullivan.co.uk
Gwefan: www.vin-sulllivan.co.uk
Cyswllt: John Sullivan
Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 7 February 2008