Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Wyau pob organic Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion
wy organig wedi?i ferwi
Article title

Kid Me Not yn lansio caws gafr mwyn a hufennog yn Sioe Frenhinol Cymru

Full article

Bydd Kid Me Not , y cwmni blaengar o Sir Gaerfyrddin, yn profi pa mor hyblyg yw ei laeth gafr pan fydd yn lansio ei gaws cyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf (23-26 Gorffennaf).

Cysylltir y cwmni fel arfer gyda’i gyffug llaeth gafr a diodydd llyfn probiotig, ond mae nawr wedi dechrau cydweithio gyda Chwmni Caws Caerfyrddin , sydd eisoes yn adnabyddus am ei gaws meddal Pont Gâr a chaws ffermdy caled Llangloffan.

Datblygwyd y caws newydd i fanyleb ac amserlen dyn iawn yn defnyddio cyfleusterau Cwmni Caws Caerfyrddin yng Nghanolfan Bwyd Cymru yn Horeb, ger Llandysul. Caiff y ganolfan ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Dywedodd Loraine Makowski-Heaton, sefydlydd Kid Me Not “Y brif nod oedd creu caws mwyn a hufennog gyda theimlad llyfn ac ysgafn a fyddai’n apelio at bob oedran a phob dant, eto gyda’r holl fanteision a geir o laeth ffres geifr.”

Defnyddir y llaeth o eifr ei theulu yn Ffynnongrech Fferm, Talyllychau ger Llandeilo, i wneud y caws. Cafodd ei brofi gyntaf gan y cyhoedd mewn digwyddiadau bwyd yng Nghaerfyrddin ac Abertawe, gan werthu’r holl gyflenwadau oedd ar gael yno.

“Rydym wrth ein bodd gyda’r caws ac mae wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau”, meddai Loraine, sy’n rhedeg y busnes mewn partneriaeth gyda’i g?r Mike a’i rhieni June a Sid Heaton.

“Bu gweithio gyda Steve a Sian yng Nghwmni Caws Caerfyrddin yn gyfle gwych ac mae’r ymateb dechreuol a’r gwerthiant wedi cadarnhau llwyddiant y caws, diolch i staff a thechnoleg Cwmni Caws Caerfyrddin a safon uchel y llaeth ein geifr, sydd bennaf o fathau Anglo Nubian, Toggenburg a Saanen.”

Dywedodd Steve Pace, Cyfwryyddwr Cwmni Caws Caerfyrddin: “Rydym bob amser wedi dweud ein bod eisiau gweithredu fel catalydd i eraill ac rydym yn credu’n gryf mewn cydweithredu i helpu busnesau eraill i ddod â chynnyrch blaengar i’r farchnad.

“Roeddem yn hyderus gyda’r dasg a gawsom, gan ddod ar gefn ein cynnyrch eraill a’r gweithgynhyrchu contract arall a wnawn. Bu gweithio gyda Loraine yn Kid Me Not yn llawer iawn o hwyl, os nad yn her!”

Bydd caws mwyn a hufennog newydd Kid Me Not ar werth yn y Neuadd Fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru ynghyd â’u hamrediad o gyffug llaeth gafr a diodydd llyfn iogwrt probiotig.

Bydd amrediad cawsiau meddal Pont Gâr Cwmni Caws Caerfyrddin hefyd ar werth yn y Sioe.

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

NODIADAU I’R GOLYGYDD

I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch, cysyllter â:

Kid Me Not
Fferm Ffynnongrech
Talyllychau
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 7BZ
Ffôn: 01558 685935
E-bost: info@kidmenot.co.uk
Gwefan: www.kidmenot.co.uk
Cyswllt: Loraine Makowski-Heaton

Cwmni Caws Caerfyrddin
Neuadd Boksburg
Llanllwch
Sir Gaerfyrddin
SA31 3RN
Ffôn: 01267 221168 / 07971 248421
E-bost: steve@carmarthenshirecheese.co.uk
Gwefan: www.carmarthenshirecheese.co.uk
Cyswllt: Steve Peace

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 18 July 2007