Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru yn cael cyfle i arddangos eu cynnyrch i un o adwerthwyr mwyaf Prydain yn Sioe Frenhinol Cymru (23-26 Gorffennaf).
Fel rhan o’i gynllun ‘Supply Something New ...‘ sy’n weithredol ledled Prydain, bydd tîm o gynrychiolwyr o Sainsbury’s, a gaiff eu galw yn ‘Hyrwyddwyr Rhanbarthol’ yn teithio i Lanelwedd ddydd Iau 26 Gorffennaf i gwrdd â chynhyrchwyr bach a chanolig.
Bu’r adwerthwr yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n rhedeg nifer o raglenni datblygu masnach i gynghori cwmnïau bwyd a diod sut i weithio gydag adwerthwyr mawr a’u cyflwyno i’r farchnad.
“Mae cynrychiolwyr o Sainsbury’s yn mynd o amgylch y wlad bob mis i chwilio am gynnyrch newydd a blaengar, gan ei gwneud yn rhwyddach i gyflenwyr newydd gael mynediad busnes i’r adwerthwr,” meddai Rebecca Martyn, Arweinydd Tîm Rhanbarthol Cymru Sainsbury’s.
Bydd hyd at wyth cyflenwr - a oedd ymysg y rhai a wnaeth gais ar-lein - yn cael cyfle i ddangos eu cynnyrch i’r tîm yn y Sioe, ac os ydynt yn llwyddiannus medrent weld eu cynnyrch yn storau Sainsbury’s o fewn misoedd.
“Mae cynllun ‘Supply Something New...’ yn cydnabod fod llawer o gwsmeriaid eisiau prynu bwyd a gafodd ei dyfu neu ei fagu yn eu hardal sy’n adlewyrchu chwaeth a thraddodiadau rhanbarthol ac y gall prynu gan gyflenwyr llai hefyd helpu i ysgogi’r economi gwledig,” meddai Rebecca Martyn.
“Mae’r panel yn edrych am gynnyrch sydd â phwynt o wahaniaeth, treftadaeth ddiddorol ac, yn bwysicaf oll, flas gwych.”
Bydd cynrychiolwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cwrdd ag aelodau o dîm Sainsbury’s yn Sioe Frenhinol Cymru i glywed mwy am gyrchu bwyd a diod o Gymru.
Hefyd, cyn mynychu’r Sioe byddant yn ymuno â thîm Sainsbury’s pan fyddant yn cwrdd gyda chyflenwyr presennol yn Ne Orllewin Cymru yn ogystal ag ymweld â Chanolfan Fwyd Cymru yn Horeb.
Dywedodd Norma Barry, Cyfarwyddwr Is-adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru: “Mae’r Uned Datblygu Marchnad o fewn yr Is-adran yn gweithio’n agos gyda chynhyrchwyr a’r archfarchnadoedd drwy raglenni cymorth ‘Gwir Farchnata’ a ‘Mynd am Dwf’ sydd wedi eu hanelu at ddatblygu masnach o fewn y sector adwerthu.
“Mae’r ddwy raglen yn helpu cynhyrchwyr bach a mawr i ddatblygu sgiliau sy’n eu galluogi i dyfu eu busnes, yn eu cyflwyno i ddigwyddiadau penodol ‘cwrdd â’r prynwr’ ac yn eu helpu drwy’r prosesau o gael eu cynnyrch ar werth mewn storau.”
MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk
I gael gwybodaeth bellach am gynllun Sainsbury’s cysyllter â:
Rebecca Martyn
Ffôn: 0207 6958261
E-bost: rebecca.martyn@sainsburys.co.uk
neu
Martin Edwards
Ffôn: 020 7695 0475
E-bost: martin.edwards@sainsburys.co.uk
Neu edrych ar wefan:
www.supplysomethingnew.co.uk