Bydd ymwelwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol (2-9 Awst) yng Nghaerdydd yn cael cyfle i flasu bwydydd a diodydd gorau Cymru yn ‘Blas’, ardal arbennig ar gyfer creu bwyd blasus a blaengar o rai o’r cynhwysion gorau sydd gan Gymru i’w cynnig.
Bydd bwyty hunanwasanaeth ‘Blas’ yn yr Eistddfod gyda lle i 180 eistedd i fwyta detholiad o brydau poeth ac oer a gynhyrchir o amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd a enillodd wobrau’r Gwir Flas, ac mae’r gwasanaeth Bwyd i Fynd yn ddelfrydol ar gyfer ymwelwyr ar frys.
Mae cynllun ‘Blas’ Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi arddangosfa ar gyfer cynnyrch Gwobrau Gwir Flas gan roi cyfle i gynhyrchwyr gyflenwi’n uniongyrchol i’r fasnach gwasanaeth bwyd a lletygarwch ac i ddefnyddwyr flasu bwydydd gwobrwyol a baratowyd i safon uchel.
Mae’r bwydlenni yn ‘Blas’ yn newid bob blwyddyn i gynnwys cynnyrch gan enillwyr diweddaraf gwobrau’r Gwir Flas.
Yn frwd i hyrwyddo manteision cynaliadwyedd, daw llawer o’r cynnyrch a ddefnyddir ym mwydlenni Blas o Gaerdydd a De Ddwyrain Cymru. Maent yn cynnwys: Becws Allens (Caerdydd), Baron's Patisserie (Caerdydd), Oakland's Organic Chicken (Tresimwn), Seidr Gwynt y Ddraig (Pontypridd), Bragdy Otley (Pontypridd), Authentic World Foods (Hirwaun), Fresh Pasta Company (Merthyr Tudful, Wisgi Penderyn ( Penderyn), Black Mountains Smokery (Crughywell), Gwin Cariad (Llantrisant), a Sudd Afal GM & GJ Morris (Crughywel).
Ymysg y danteithion fydd ar gael yn Blas fydd amrediad o seigiau Tapas megis hwyaden fwg Mynydd Du gyda compote kumquat. Mae’r bwyd poeth fydd ar gael yn cynnwys Tagine Cig Oen a sbeisys o Morocco wedi’i goginio’n hir gan Authentic World Foods, bricyll ac almonau, a weinir gyda couscous ffrwythau sbeislyd, dresin raita a bara gwastad. Mae’r seigiau a goginir i archeb yn cynnwys Tortelli Asbaragws a Pecorino Fresh Pasta Co gyda lemon a crème fraîche Rachel’s Organic, pys ffres a sbigoglys.
Mae’r gwasanaeth Bwyd i Fynd yn cynnwys opsiynau bwyd cyflym megis cig eidion rhost Celtic Pride gyda marchruddugl, marmaled nionyn coch wedi’i garameleiddio a dail salad ar bap bara garw gyda hadau, ac wy mayonnaise organig sbeislyd o Knobbly Carrot Co. gyda sbigoglys bach a thomatos eidion ar fara cyflawn.
Mae Bwydlen Cyn Cyngerdd o ddau neu dri chwrs hefyd ar gael. Mae’r seigiau’n cynnwys eog wedi’i halltu gyda Halen Môn sbeislyd a saws dil a mwstard, salad perllys bach a lemon cyffeithedig, stêc syrlwyn Cymreig Celtic Pride a torte Siocled a Penderyn - triwffl siocled cyfoethog gyda wisgi Penderyn ar sbwng siocled, a weinir gyda hufen dwbl Rachel’s Organic.
Rheolir Blas gan Ymgynghoriaeth Bwyd Howel ar ran Isadran Datblygu Bwyd a’r Farchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda Capital Cuisine yn darparu’r gweithrediad bwyd.