Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
wy organig wedi?i ferwi Crempog Cocos
Bara lawr ffres gyda lemon
Article title

Cwmni Grawnfwydydd Oat-So-Good Yn Sicrhau Cytundeb Gyda Tesco

Full article

Mae ymgyrch cwmni grawnfwydydd o Dde Cymru i hyrwyddo byw’n iach wedi ei hybu gan gytundeb i gyflenwi Tesco.

Bydd cwmni Oat-So-Good sy’n gwneud grawnfwydydd granola (clystyrau ceirch a hadau) yn awr yn gweld ei gynnyrch ar silffoedd 45 o siopau Tesco yng Nghymru.

Sefydlwyd y cwmni teuluol yn 2006 ac mae’n cynhyrchu ei amrediad o granola a wneir â llaw yn ei ganolfan ar gyrion Abertawe

“Rydym yn gwmni ifanc a blaengar a’n nod yw cynhyrchu cynnyrch grawnfwyd maethlon ac sydd hefyd yn ddewis iach ar gyfer defnyddwyr nad ydynt eisiau cynnyrch creisionllyd neu gyda llawer o siwgr sy’n eu gadael yn teimlo’n newynog erbyn canol y bore,” meddai Andrew Grey, Rheolwr Marchnata’r cwmni.

“Drwy dreialon a phrofi cyson rydym wedi llwyddo i gynhyrchu cyfres o gynnyrch sy’n cyflawni hyn”.

Gwneir y cynnyrch o’r cynhwysion gorau heb unrhyw halen ychwanegol. Maent yn uchel mewn ffibr, yn cynnwys siwgr ffrwythau yn unig ac yn addas ar gyfer rhai sydd â diabetes a rhai’n dilyn diet GI (mynegai glycemig).

Mae’r granola Gwreiddiol a Ffrwythog yn awr ar gael mewn pecynnau ffoil 500g y medrir eu hail-selio ac yn ddiweddar lansiodd y cwmni becynnau un dogn ffoil 50g sy’n ddelfrydol ar gyfer siopau coffi mewn-stôr neu’r sector lletygarwch.

Ychwanegodd Andrew Grey, “Rydym yn hynod falch fod Tesco wedi penderfynu gwerthu ein granola. Nawr gall hyd yn oed fwy o bobl sy’n dymuno dilyn cynllun byw’n iach fwynhau ein cynnyrch.”

Ar hyd y ffordd mae’r cwmni wedi derbyn help ac arweiniad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chafodd grawnfwyd Granola, Sultana a Rhesin Oat-So-Good ei gymeradwyo yng Ngwobrau Bwyd a Diod Gwir Flas Cymru 2007/08.”

Dywedodd Enfys Fox, Rheolwr Marchnata Cymru Tesco, “Mae mwy a mwy o bobl yn hoffi gwybod o ble daw eu bwyd a gyda’r grawnfwydydd granola hyn a gynhyrchir yn lleol, bydd cwsmeriaid yn medru blasu cynnyrch gwych a gynhyrchir yn Abertawe”.

I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysyllter â:

The Oat-So-Good Company
Llwyn-y-Graig
Stad Ddiwydiannol Garngoch
Abertawe
SA4 9WG
Tel: 01792 899552
Email: oatsogood21@yahooo.com
Contact: Andrew Grey

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 24 July 2008