Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Wyau pob organic Pastai filo sbiboglys a chaws
Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo
Article title

Gwobrau Cenedlaethol Yn Ychwanegu Pefriad Arbennig I Gynhyrchwyr Gwin O Gymru

Full article

Mae gwinllan yng Nghymru yn dathlu ar ôl ennill pedwar allan o bum gwobr yng ngwobrau Gwin y Flwyddyn Lloegr a Chymru.

Bu Judith a Colin Dudley yn cynhyrchu gwin yng ngwinllan Parva Farm ger Tyndyrn yn Sir Fynwy ers 1997. Cafodd y winllan ei phlannu yn 1979 gan y perchnogion blaenorol.

Mae’r gwobrau blynyddol, a drefnir gan Gymdeithas Gwinllannau’r Deyrnas Unedig, yn cydnabod y gwinoedd gorau yn Lloegr a Chymru, a chyflwynir y gwobrau mewn derbynfa yn Nh?’r Arglwyddi gan yr Arglwydd Montagu o Beaulieu.

Enillodd gwinllan Parva Farm wobr arian am ei gwin gwyn ‘bron yn sych’, Tintern Parva Bacchus 06. Enillodd eu gwin gwyn canolig, Tintern Parva Ty Gwyn sy'n gyfuniad o rawnwin Muller Thurgau a Seyval Blanc, wobr efydd.

Enillodd gwin pefriog Tintern Parva Dathliad Rosé 06, a gwin pefriog gwyn, Tintern Parva Dathliad 04 ddyfarniad Cymeradwyaeth Uchel gan y saith beirniad sydd oll yn Feistri Gwin.

“Rydym wrth ein bodd gyda’r gwobrau, fe wnaethom gynnig pedwar gwin ac ennill pedair gwobr”, meddai Judith Dudley, sydd hefyd yn trefnu Wythnos Gwin Cymru bob blwyddyn.

“Mae’n rhoi pleser arbennig gan nad oeddem wedi cynnig unrhyw winoedd pefriog o’r blaen. Mae gwinoedd pefriog o Loegr a Chymru ar y ffordd i fod yr un safon â champagne ac mae’n braf ennill gwobrau amdanynt.

“Nid oes llawer o winllannau yng Nghymru ond mae gwinoedd Cymru yn dechrau cael cydnabyddiaeth ac mae pobl yn sylweddoli fod gwin o Gymru gystal â gwin o unrhyw le arall.”

Dywedodd Judith: “Roeddem hefyd wrth ein bodd i Martin Fowke o winllan Three Choirs gael ei enwi’n Wneuthurydd Gwin y Flwyddyn yn y gwobrau.”

Mae llun ar gael ar gais gan:

Sheila Coleman
Ffôn: 01792 410994 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

Llun:
Judith a Colin Dudley o winllan Parva Farm yn derbyn eu gwobrau gwin yn Nh?’r Arglwyddi.

I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysyllter â:

Gwinllan Fferm Parva
Tyndyrn
Cas-gwent
Sir Fynwy
NP16 6SQ
Ffôn: 01291 689636
E-bost: parvafarm@hotmail.com
Cyswllt: Judith Dudley

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 28 July 2008