Mae gwneuthurwyr seidr yng Nghymru yn dathlu eu llwyddiant ar ôl y nifer fwyaf o erioed o geisiadau ym Mhencampwriaethau Gellygwin a Seidr Cymru eleni, a mwy o ddiddordeb gan ddefnyddwyr yn y ddiod draddodiadol.
Daw’r gwobrau ar gyfnod pan fo seidr yn mwynhau cynnydd mawr mewn poblogrwydd, gydag ymchwil newydd yn hawlio y medrai gwydraid o seidr bob dydd gadw’r meddyg i ffwrdd.
Mae’r ymadrodd “Iechyd Da” yn cael ystyr newydd i yfwyr seidr, gyda gwyddonwyr yn awr yn dweud y gallai seidr fod â manteision iechyd.
Mae hyn yn newydd da i ddiwydiant seidr a gellygwin Cymru. Bu’r nifer uchaf erioed o 87 o gynigion gan wneuthurwyr seidr o bob rhan o Gymru yn eu pencampwriaethau blynyddol yn y Fenni a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Richard Williams o Lyn Nedd yw’r cyntaf i ennill Gwobr Aur Gellygwin Gorau Cymru 2007 am ddwy flynedd o’r bron am ei “Silver Lady” Bragdy Brodyr.
Yn athro yn Ysgol Bechgyn Aberdâr, dechreuodd Richard wneud seidr a gellygwin fel hobi bedair blynedd yn ôl. Dim ond digon i’w deulu a’i ffrindiau y mae’n ei gynhyrchu ac mae ei wrth ei fodd i fod wedi ennill dwywaith o’r bron.
“Roeddem yn meddwl mai ffliwc oedd y llynedd oherwydd ein bod yn cystadlu yn erbyn enwau adnabyddus yn y diwydiant seidr a gellygwin”, meddai.
Enillodd Gwobr Aur Seidr Gorau Cymru 2007 oedd Seidr Springfield o Drefynwy am eu “Old Barn”.
Yn seidr cryf a ffrwythus, ar 7.2% abv, caiff ei wneud o un math o afalau Dabinett tymor hwyr. Detholir yr afalau yn ofalus a’u casglu â llaw cyn cael eu golchi mewn d?r ffynnon naturiol.
Cânt wedyn eu gwasgu’n ffres gan ddefnyddio dulliau traddodiadol heb unrhyw ychwanegion neu gadwolion.
Mae arbenigwyr yn awr yn dweud fod gwydraid o seidr yn llawn o wrthocsidyddion, yn aml gymaint ag sydd mewn gwin coch a gaiff ei gydnabod am ei allu i helpu atal rhai afiechydon.
Mae’r ddwy ddiod yn gyfoethog mewn ffenoleg, math o wrthocsidydd y dywedir ei fod yn gallu atal canser, afiechyd calon a strociau.
Medrai’r canfyddiadau fod â goblygiadau pwysig i iechyd ac i’r diwydiant seidr. Mae hyn yn newyddion da i’r diwydiant seidr yng Nghymru yn ôl Alan Golding o Gymdeithas Gellygwin a Seidr Cymru.
“Mae’r cynnydd yn y galw am seidr yn galonogol oherwydd bod seidr go iawn ar fin dilyn y cynnydd mewn proffil a gafodd cwrw go iawn dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae’n awr yn bwysig fod gastro-dafarndai a bwytai o’r radd flaenaf yng Nghymru’n cefnogi’r diodydd drwy eu gwerthu gan y byddai hyn yn help mawr i godi ymwybyddiaeth,” dywedodd.
“Mae’n anffodus fod llawer o’r mathau seidr mwyaf adnabyddus ym Mhrydain yn gynnyrch oer a llawn swigod a dywelltir o faril, sydd wedi’u cynhyrchu’n artiffisial yn hytrach nag yn naturiol.
“Gobeithiwn y bydd y gwobrau yn annog pobl i roi cynnig ar fathau go iawn o seidr a gellygwin o Gymru a gaiff eu gwneud yn naturiol ac sy’n unigryw o aeddfed a gydag arogl gwych. Does dim byd gwell i dorri syched.”
Gyda’r cynnydd ym mhoblogrwydd seidr, medrau fod â buddion cadarnhaol ar gyfer ardaloedd gwledig Cymru heddiw gyda thyfwyr yn adnewyddu perllannau presennol ac yn plannu rhai newydd.
“Bydd plannu mwy o berllannau seidr yn cael effeithiau cadarnhaol ar gyfer diwydiant bwyd-amaeth Cymru a’r economi gwledig yn ei gyfanrwydd,” meddai Tony Griffiths, Rheolwr Bwyd-Amaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
“Yn ogystal â bod plannu coed newydd yn dda i’r amgylchedd, mae cynhyrchu nwyddau o’r radd flaenaf yn cyfrannu at ddelwedd naturiol Cymru sy’n hollbwysig wrth ddenu twristiaid a busnesau fel ei gilydd.”
MANYLION PELLACH: Leigh Roberts ar (01656) 788336
I gael gwybodaeth bellach ar seidr a gellygwin Cymru gweler www.welshcider.co.uk.
Canlyniadau llawn y cystadlaethau:
SEIDR GORAU CYMRU 2007
Aur = Seidr Springfield - Old Barn
(Alan Wordsworth, Llangofan, Sir Fynwy 01291 691018 /www.springfieldcider.co.uk )
Arian = Old Monty - Kingston Black
(John Jenkins, Garthyml, Trefaldwyn 01686 640899)
Efydd = Toloja - Drunk Dewi
(Kevin a Nikki Sweet, Llanbedr Pont Steffan, 01570 471295 www.welshcider.com)
GELLYGWIN GORAU CYMRU 2007
Aur = Bragdy Brodyr - Silver Lady
(Richard Williams, Glyn Nedd, 01639 720693)
Arian = Seidr Dai - Burgundy
(Dave Matthews, Caerdydd, 02920 758 193)
Efydd = Troggi - Hen
(Mike Penney, Earlswood, Sir Fynwy, 01291 650653)
NEWYDD DDYFODIAD GORAU 2007
Melin Seidr Rhaglan
(James Perks, Rhaglan, Sir Fynwy, 01600 780258)
ENILLWYR CATEGORI
SEIDR SYCH
Aur = Seidr Springfield - Old Barn
Arian = W.M.Watkins - Tom Putt
Efydd = Seidr Dai - Monmouthshire Heritage
SEIDR CANOLIG
Aur = Old Monty - Kingston Black
Arian = Seidr Gwynt-y-Ddraig - Old Timer
Efydd = Seidr Blaengawney - Blindfold
SEIDR MELYS
Aur = Perllenni Toloja - Drunk Dewi
Arian = Seidr Blaengawney- National Treasure
Efydd = Seidr o Sir - Cantrefdy
SEIDR CASGEN WIROD
Aur = Old Monty - Traddodiadol
Arian = Seidr Blaengawney - Braster Llawn
Efydd = CJ’s - Oak Barrel
SEIDR POTEL
Aur = W.M.Watkins - Seidr T? Bryn
Arian = Seidr Springfield - Ffermdy
Efydd = T? Gwyn - Seidr Sych
GELLYGWIN SYCH
Aur = Seidr Dai - Burgundy
Arian = Melin Seidr Rhaglen - Barn Owl
Efydd = Seidr Ralph - Gellygwin Sych
GELLYGWIN CANOLIG A MELYS
Aur = Bragdy Brodyr - Silver Lady
Arian = Three Saints - Laughing Juice
Efydd = Bragdy Brodyr - Crystal Lady
GELLYGWIN POTEL
Aur = Troggi - Old
Arian = Troggi - Broom
Efydd = W.M.Watkins - Gellygwin T? Bryn
GELLYGWIN CASGEN WIROD
Aur = Troggi - Kilgwrrwg Glen