Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Pastai filo sbiboglys a chaws Bara lawr ffres gyda lemon
Caws Little Acorn (plaen)
Article title

Cynhyrchwyr Cymru ar y llwyfan rhyngwadol yn yr IFE

Full article

Yr IFE yw arddangosfa fwyaf y DU yn llwyr ar gyfer bwydydd a diodydd. Fe’i cynhelir yn Excel, Llundain rhwng 18-21 Mawrth, ac mae’n gyfle i ddarganfod cynnyrch newydd, cwmnïau, syniadau a blaengaredd o DU a phob rhan o’r byd.

Bydd nifer o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn arddangos yn yr IFE dan faner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru: Melin Dd?r Bacheldre, Baraka Foods Cyf, Clark Foods Cyf,  Decantae Mineral Water Cyf, Easibake Foods, Ferrari’s Coffee,  Plas Farm, Prince's Gate Spring Water, Radnor Hills Mineral Water Company Cyf, Caws Eryri Cyf, Hufenfa De Arfon Cyf, Halen Môn Cyf., The Fresh Pasta Company, The Patchwork Traditional Food Company, The Real Crisp Company, The Welsh Sausage Company, Toffoc Cyf, Trioni Cyf, a Ty Nant Spring Water Cyf.

Dywedodd Norma Barry, Pennaeth Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru: “Mae digwyddiadau fel yr IFE yn gyfle delfrydol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru ddangos ansawdd ac amrywiaeth ei gynnyrch.
Caiff y neges honno hefyd ei chryfhau ymhellach gan gwmnïau’n dod ynghyd dan faner y Gwir Flas, a gaiff ei hunan ystyried fel bathodyn rhagoriaeth.”

Yn ymddangos yn y tro cyntaf yn IFE mae’r melinwyr Matt ac Anne Scott o Sir Drefaldwyn gyda’u blawd organig gwobrwyol Bacheldre Watermill. Mae’r cwpl, sy’n defnyddio dulliau traddodiadol yn eu melin hynafol, yn cynhyrchu 13 math gwahanol o flawd yn cynnwys blawd 5 Hadyn Brag Cryf Mâl, a enillodd wobr y Gwir Flas ac sydd newydd fynd ar werth yn Waitrose.

Bydd Baraka Foods Cyf o’r Pentre yn Rhondda Cynon Taf, cynhyrchwyr bwydydd a phrydau parod safon uchel oeredig ac wedi’u rhewi safon uchel, yn canolbwyntio ar ei amrediad o asennau bras ar gyfer prif gadwyni ynghyd â’i brydau parod sousvide.

Bydd Clark Food Cyf o’r Rhisga yn mynd ag amrywiaeth o gynnyrch newydd i’r IFE, yn cynnwys llinell hamper premiwm, amrediad o bwdinau parod i’w bwyta, sawsiau pwdin a sawsiau pasta. Hefyd yn ymddangos bydd prydau parod oeredig brand ‘Bob the Builder’ a Cavi-art a wneir o wymon ac sydd â blas tebyg i caviar.

Bydd Decantae Mineral Water Cyf o Fae Cinmel yn arddangos ei amrediad cyfan o dd?r mwynol llonydd a phefriog a hefyd yn dangos ei boteli ‘clasurol’ newydd.

Bydd y cwmni cynnyrch pobi rhew ac oeredig Easibake Foods yn arddangos ei amrediad o fara wedi’i ran-bobi, bara garlleg a bara arbenigol a orffennwyd ac a lenwyd gyda llaw. Yn rhan o Gr?p Bwydydd Evron, mae’r cwmni yn seiliedig mewn ffatri fwyd newydd 38000 tr² ym Mhontypwl.

Ynghyd â’i flendiau presennol, bydd Ferrari’s Coffee yn cyflwyno cynulleidfa’r IFE i’w goffi Ultra Gourmet Venezuelaidd a Mecsicanaidd. Pan gyflwynodd Ferrari’s y coffi'r hydref diwethaf dyma’r tro cyntaf i’r coffi o Venezuela y mae mawr ofyn amdano gael ei weld yn y DU. Tyfir y ffa coffi gwerthfawr yn ardal Codillera Sur yn Venezuela cyn cael eu crasu yng Nghymru gan y cwmni o Gwm Ogwr. Bydd ymwelwyr yn y digwyddiad yn cael cyfle i flasu’r coffi.

Bydd Plas Farm o Ynys Môn yn canolbwyntio ar ei iogwrt rhew - ac mae’n anelu bod yn siop un stop ar gyfer iogwrt a bariau llyfn. Bydd yn dangos ei amrediad  cynnyrch yn cynnwys cymysgedd ar gyfer peiriannau a ffrwythau rhew y mae’r cwmni o Gaerwen yn eu gwerthu dan labeli Denbigh Farmhouse a Celtic Yoghurt.

Bydd  Prince's Gate Spring Water o Arberth yn dangos ei frand newydd ar gyfer ei amrediad o dd?r llonydd a phefriog a d?r blas, ynghyd â phecynnau elusennol plant yn gysylltiedig ag Apêl Arch Noa.

Bydd Radnor Hills Mineral Water Company Cyf o Drefyclo yn ychwanegu dau flas newydd - Grawnwin Gwyn a Chyrens Cochion a Grawnwin Gwyn a Lemon - i’w amrediad gwobrwyol Jufru o sudd ffrwythau a d?r ffynnon. Bydd hefyd yn dangos diodydd ffrwythau GI y cwmni a detholiad Honest to Goodness o ddiodydd d?r ffynnon a ffrwythau.
Bydd Caws Eryri Cyf yn gwerthu eu hamrediad poblogaidd o gawsiau Cymreig. Mae’r cwmni o Ddinbych yn cynnwys amrywiaeth o flasau yn cynnwys Caws Gwreiddiol Eryri neu Little Black Bomber, Red Devil, Green Thunder, Ginger Spice, Amber Mist a Pickle Power. Lansiwyd Pickle Power yn yr IFE diwethaf a daeth yn un o gynnyrch mwyaf poblogaidd y cwmni. Mae gan y cwmni hefyd becyn ‘gwedd newydd’ ar gyfer ei fasnach arbenigol mewn cadwyni siopau groser a fydd ar werth y mis nesaf, gyda blasau newydd yn cael eu cyflwyno ym mis Mai.
Bydd Hufenfa De Arfon o Bwllheli yn dangos ei becynnau newydd ar gyfer caws gwobrwyol yr Hen Sir - a enwyd y Caws Cheddar Tra Aeddfed Gorau yng Ngwobrau Caws y Byd - ynghyd â’r bagiau llaeth a lansiodd yn ddiweddar. Hefyd yn cael eu harddangos bydd detholiad o amrediad ehangach y cwmni o gaws cheddar Cymreig Moneray Jack, cheddar mwg, llaeth a hufen.

Yn yr IFE, bydd Cwmni Halen Môn yn arddangos ei halen fanila newydd, a bydd hefyd yn dangos ei amrediad o halen pur, sbeislyd a mwg yn ogystal â bowliau rhodd a wnaed â llaw.

Bydd The Fresh Pasta Company o Abertawe yn ychwanegu amrediad newydd a wneir â llaw o basta oeredig at ei ddetholiad gwobrwyol o bastas wedi’u rhewi. Daw’r pum blas ym mhecyn newydd y cwmni sy’n adlewyrchu defnydd dulliau Eidalaidd traddodiadol wrth wneud y pasta, a naws gyfoes yn y detholiad o flasau cyfoeth unigryw yn y llenwad.

Yn gynhyrchydd amrediad gwobrwyol o pâtés, pies, terinau a quiches a wneir â llaw, bydd The Patchwork Traditional Food Company yn arddangos ei amrediad newydd o brydau newydd de luxe ynghyd â’i amrediad Heavenly Houmous - sy’n cynnwys blasau Pesto, Madarch Gwyllt, Pupur Coch Rhost ac Olewydd Du. Bydd y cwmni o Ruthun hefyd yn arddangos ei Parfait Cyw Iau, ac yn cyflwyno ei becynnau arlwyo newydd 1 kilo a fydd ar gael ar draws ei amrediad pate .

Bydd The Real Crisp Company o Gaerffili, yr unig gwmni sy’n cynhyrchu creision o Gymru, yn lansio ei amrediad Chip n’Dip newydd i ymwelwyr yn yr IFE. Mae’r cynnyrch yn gysyniad newydd mewn snaciau gan roi 45g o Real Crisps gyda dip blasus yn yr un pecyn. Mae dau fath, creision gyda dip salsa a chreision gyda dip mêl-mwstard ac mae eisoes yn ymddangos y bydd yn boblogaidd iawn gyda thafarndai. Caiff amrediad Real Crisps eu coginio gyda llaw ac fe’u gwneir o’r cynhwysion naturiol gorau mewn amrediad eang o flasau ac maent wedi eu hanelu at y sector gwasanaeth bwyd a siopau deli. Sicrhawyd cytundeb a lofnodwyd yn ddiweddar i gyflenwi  storau Asda ym mhob rhan o’r wlad.

Bydd The Welsh Sausage Company  yn cyflwyno ei amrediad o selsig allforio ar gyfer y fasnach frecwast a hefyd belenni stwffin moethus. Gall ymwelwyr flasu selsig label newydd y cwmni o’r Trallwng gyda blasau megis y Ddraig Goch ac Eidion Sbeislyd Celtic Pride a rhuddygl poeth.

Gyda’i gyfuniad anarferol o fodca a thaffi, bydd Toffoc Cyf o Ynys Môn yn cyflwyno Toffoc - sydd yn 27.5% alcohol yn gryf ond heb fod yn rhy felys, ac o liw euraid clir. Wedi’i ysbrydoli gan ddiod alcoholig sydd ar gael ar lethrau sgïo’r Alpau, datblygodd y cwmni ei fodca blas taffi ar ôl blynyddoedd lawer o gymysgu a chyfuno.

Bydd Trioni Cyf o Foncath yn dangos ei amrediad Daioni poblogaidd o flaslaeth organig Cymreig. Mae blas newydd Llugaeron a Mafon Cochion yn ategu’r blasau traddodiadol presennol o Siocled, Mefus a Banana. Mae Daioni bellach ar werth mewn storau Tesco, Morrisons ac Asda ledled Cymru.

Yn enwog am ei boteli glas a choch tywyll eiconig, bydd Ty Nant Spring Water Cyf yn arddangos ei amrediad o dd?r mwyn llonydd a phefriog, yn cynnwys y botel PET siapus. Hefyd yn cael ei arddangos yn IFE fydd d?r nant chic a minimalaidd TAU mewn potel unlliw sydd ar gael mewn mathau llonydd a phefriog.

Bydd nifer o *gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn cymryd rhan yn Arddangosfa Deli Cymru yn yr IFE gyda Gwir Farchnata Bwyd - cynllun a gefnogir gan Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cynnig cyngor a hyfforddiant teilwredig i helpu busnesau i ddatblygu ym marchnad y DU ac a gyflenwir gan Menter a Busnes.

Ddydd Llun lansir Rhaglen Sgiliau Marchnata Ryseitiau Celtaidd - cyfres o weithdai a gynhelir ledled Cymru ar draws Cymru dros y misoedd nesaf.

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

*CWMNÏAU SY’N CYMRYD RHAN YN ARDDANGOSFA DELI CYMRU

Trioni Cyf, Tomos Watkin, Llaeth Bethesda, Harvies Cyf, Cwrt Newydd, Derimon Smokery, The Knobbly Carrot Organic Food Company, Llaeth y Llan, Seren Foods, Aldera Bread, Kid Me Not, Bwydlyn, Brookes Farmhouse Dairy Ice Cream, Sancler,  Edwards o Gonwy.        

CWMNIAU’N ARDDANGOS GYDA’R GWIR FLAS

Bacheldre Watermill
Baraka Foods Cyf
Clark Foods Cyf 
Decantae Mineral Water Cyf
Easibake Foods
Ferrari’s Coffee 
Plas Farm
Prince's Gate Spring Water
Radnor Hills Mineral Water Company Cyf
Caws Eryri Cyf
Hufenfa De Arfon Cyf
Cyswllt: Angharad Jones
Cwmni Halen Môn  
The Fresh Pasta Company
The Patchwork Traditional Food Company
The Real Crisp Company / Sirhowy Valley Foods Cyf.
The Welsh Sausage Company
Toffoc Cyf.
Trioni Cyf
Ty Nant Spring Water Cyf

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 15 March 2007