Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Caws Pob Crempog Cocos
dwr ffynnon gyda leim
Article title

Diod Lyfn Jubbly yn ennill gwobr bwysig yn Sbaen

Full article
Mae cwmni diodydd o Gymru yn dathlu ar ôl i’w ddiod lyfn newydd y medrir ei rhewi adref gael ei enwi’n Gynnyrch Gorau Newydd Prydain yn arddangosfa bwyd a diod Alimentaria International yn Sbaen.
Dyfarnwyd y teitl i Calypso Soft Drinks o Wrecsam gan Food for Britain, am ei Jubbly Smoothie sy’n cynnwys sudd pur a ffrwythau wedi’u gwasgu.
Mae Calypso, a ymddangosodd yn Alimentaria yn y tro cyntaf dan fantell Busnes Rhyngwladol Cymru a Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cynhyrchu amrywiaeth o ddiodydd meddal iach a diodydd rhew.
Dywedodd Richard Cooke, Cyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata Calypso fod Jubbly Smoothie “yn cyfuno siâp tetrahedraidd unigryw y Jubbly gwreiddiol a ysgogodd ymadrodd poblogaidd yn y 1960au gyda blas ac ansawdd diod lyfn, sy’n un o’r straeon llwyddiant cyfoes mewn diodydd meddal iachach.”
Gwahoddir pob cwmni sy’n arddangos i gynnig cynnyrch newydd yng nghystadleuaeth ac arddangosfa Food from Britain. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’r cynnyrch fod wedi ei lansio ers Alimentaria ’06.
Dywedodd Guillermo Alvarez de Lorenzana, Rheolwr Gyfawryddwr Food from Britain yn Sbaen: “Mae hwn yn gynnyrch blaengar iawn oherwydd y pecyn ac oherwydd ei fod yn gynnyrch y medrwch hefyd ei rewi adref i ddod yn hufen iâ,  gydag ansawdd diod lyfn.”
Dywedodd Richard Cooke, “Chawsom ni mo’n synnu ond rydym yn bendant wrth ein boddau fod y Sbaenwyr wedi cydnabod y Jubbly Smoothie am yr hyn ydyw - ffordd newydd hwyliog i fwynhau diod lyfn sudd sy’n debyg o apelio at oedolion yn ogystal â phlant.
“Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni ein targedau o ehangu’r categori diodydd rhew yn y Deyrnas Unedig i gynnwys gr?p o oedran ehangach a hefyd i ymestyn ein cyrraedd i’r farchnad diodydd meddal Ewropeaidd.”
Y mis nesaf caiff Jubbly Smoothie ei lansio ledled y Deyrnas Unedig a bydd ar gael mewn dau flas, Oren, Mango a Granadila, a Mefus a Banana.
Cynhaliwyd arddangosfa bwyd a diod ddwyflynyddol Alimentaria International ym Marcelona (10-14 Mawrth).
Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 25 March 2008