- Article title
Gwyl Gourmet Bwyd A Diod Canolbarth Cymru- Full article
- Mae tymor gwyliau bwyd Cymru yn cychwyn yn Llanwrtyd y mis nesaf pan groesewir tua 50 o arddangoswyr y cynnyrch bwyd, diod a chrefftau gorau i’r dref.
Cynhelir G?yl Gourmet Bwyd a Diod Canolbarth Cymru ddydd Sadwrn 5 Ebrill rhwng 10am a 5pm yn Neuadd a Chaeau Bromsgrove, Llanwrtyd. Yn ogystal â bwyd a diod o’r safon orau, bydd stondinau crefft, arddangosiadau coginio, adloniant i oedolion a phlant a cherddoriaeth yn cynnwys côr meibion. Bydd yr ?yl eleni yn cynnal rownd ranbarthol Cymru cystadleuaeth Bencampwriaeth Selsig Genedlaethol Prydain - mae gwybodaeth bellach am hyn yn cynnwys sut i gymryd rhan ar gael drwy gysylltu â Keith Brown o Gymdeithas Bridwyr Moch Cymru a Siroedd y Gororau ar 01982 552100. Bydd Roy Noble, cyflwynydd ar BBC Radio Wales a Derek Brockway, dyn tywydd BBC Cymru yn bresennol. Dywedir mai Llanwrtyd, sydd rhwng Llanfair ym Muallt a Llanymddyfri ar yr A483, yw’r dref leiaf ym Mhrydain ac mae’n ymfalchïo ar roi croeso Cymreig i ymwelwyr. Mae bwytai, gwestai a thafarndai yn ymuno â hwyl yr ?yl, gan ddarparu detholiad eang o gwrw go iawn a gwirodydd safon uchel a dewis o fwydydd ar gyfer pob dant a phoced. Bydd arddangosfa “Bywyd drwy bum degawd” am yr ardal yn cydredeg â’r ?yl Bwyd. I gael gwybodaeth bellach, yn cynnwys ymholiadau am arddangos, cysyllter â Peter R James MBE, Cadeirydd yr ?yl, ar 01591 610264 neu drwy e-bost at foodfoodfood@lycos.com.
- Cyhoeddwyd yr erthygl ar:
Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 26 March 2008
|