Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Pastai filo sbiboglys a chaws Bara lawr ffres gyda lemon
caws wedi?i ffrďo?n ddwfn gydag eirin
Article title

Cyfle I Ymwelwyr Brofi Bwyd A Diod Cymru Gyda Blas

Full article

Bydd ymwelwyr i ddau o brif ddigwyddiadau diwylliannol Cymru yn cael cyfle i brofi bwydydd a diodydd gorau Cymru yn ‘Blas’, ardal a neilltuwyd i greu bwyd blasus a blaengar a wneir o rai o’r cynhwysion gorau sydd ar gael yng Nghymru.

Mae G?yl Lenyddiaeth y Gelli (22 Mai - 1 Mehefin) yn denu llęn-garwyr o bob rhan o’r byd i’r Gelli Gandryll, a’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir yng Nghaerdydd eleni (2-9 Awst) yw prif ffocws gweithgareddau diwylliannol Cymraeg.

Bydd bwyty hunanwasanaeth ‘Blas’, gyda lle i 180 fwyta ar y tro, yn y ddau ddigwyddiad lle gall ymwelwyr brynu detholiad o brydau poeth ac oer a gynhyrchir o amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd a enillodd wobrau’r Gwir Flas, gyda gwasanaeth Bwyd i Fynd yn ddelfrydol ar gyfer ymwelwyr ar frys.

Mae’r cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi arddangosfa ar gyfer enillwyr gwobrau Gwir Flas gan roi’r cyfle i’r cynhyrchwyr gyflenwi’n uniongyrchol i’r diwydiant gwasanaeth bwyd a lletygarwch ac i ddefnyddwyr flasu bwydydd gwobrwyol y Gwir Flas a baratowyd i safon uchel.

Mae’r bwydlenni yn y bwyty yn newid bob blwyddyn i gynnwys cynnyrch enillwyr diweddaraf gwobrau Gwir Flas.

Gwelwyd Blas ar ei newydd wedd yng Ng?yl y Gelli'r llynedd ac eleni gall ymwelwyr ddewis o blith detholiad o blatiau salad yn cynnwys seigiau megis terîn ham Cwm Gwaun gyda siytni gellyg, hwyaden fwg Mynydd Du gyda compote kumquat, pate corbys coch a thomatos wedi eu haul-sychu Patchwork Pate a phate pysgod cregyn cranc Dash gyda lemon cadw.

Mae’r detholiad bwyd poeth yn cynnwys cawl bwyd môr Blas gyda chocos Penclawdd a chregyn gleision, hadog mwg a chennin Mynydd Du, tagine cig oen Cymreig Authentic Foods gyda couscous a bara gwastad a stęc asen eidion Cymreig Celtic Pryde gyda thatws mâl o Sir Benfro a llysiau gwanwyn. Ar gyfer pwdin mae torte siocled a wisgi Penderyn, jeli ffrwythau haf Cariad rosé a detholiad o gawsiau gwobrwyol y Gwir Flas.

I ymwelwyr ar frys mae Bwyd i Fynd yn cynnig detholiad o frechdannau, wraps, saladau a theisennau blasus gyda diodydd poeth ac oer. Mae’r amrediad yn cynnwys brechdan ham rhost męl Cymreig Cwm Gwaun gyda mayo had mwstard, brechdan pysgod cregyn cig cranc brown a gwyn tiwna a leim, wrap cyw iâr mwg Black Mountain, brechdan wy mayo organig sbeislyd Knobbly carrot Company gyda sbigoglys ar fara cyflawn.

Rheolir Blas gan Ymgynghoriaeth Bwyd Howel ar ran Adran Bwyd a Datblygu Marchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda Capital Cuisine yn gyfrifol am y gweithrediad bwyd.

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 7 May 2008