Mae halen môr gwobrwyol ar y fwydlen yn un o brif fwytai Efrog Newydd, Gordon Ramsay at The London.
Mae halen mwg a gynhyrchir gan Halen Môn yn un o’r cynhwysion mewn pwdin newydd a gynhyrchir gan y bwyty sydd â dwy seren Michelin.
Dywedodd Alison Lea-Wilson, cyfarwyddwr Halen Môn: “Rydym wrth ein bodd fod Gordon Ramsay at The London yn defnyddio ein halen mewn ffordd mor flaengar”.
Dywedodd Josh Emett, chef de cuisine Gordon Ramsay at the London: “Rydym yn defnyddio halen mwg Halen Môn mewn pwdin newydd - Crèmeux siocled gyda hufen iâ caramel gyda halen, lychee granité - ac mae’n wych.
Mae cynnwys Halen Môn ar y fwydlen yn ganlyniad cinio a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Croeso Cymru a Welsh Rarebits ym mis Chwefror yn Gordon Ramsay at The London ar gyfer cyfryngau Efrog Newydd fel rhan o Wythnos Cymru’r Unol Daleithiau.
Mae’r cwmni’n dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed, ac mae ei gynnyrch wedi ennill gwobrau Gwir Flas. Caiff eu hamrediad o halen môr a sesnin naturiol eu defnyddio gan chefs a bwytai blaenllaw ym mhob rhan o’r byd.
Dywedodd Alison, “Rydym yn gwybod fod chefs wrth eu boddau gyda blas caramel Halen Môn mwg derw Cymreig. Mae’n ychwanegu at flasau eraill ac ansawdd pwdinau, ac mae un o’n cwsmeriaid wedi’i ddisgrifio ‘fel tân gwyllt yn eich ceg’.
Y llynedd enwyd Halen Môn yn un o bum prif gynnyrch gastronmig y byd gan gyngres fyd-eang o chefs yn y Feria de Gastronomia enwog yn San Sebastian.
Dywedodd Alison, “Dros y blynyddoedd cawsom lawer iawn o help a chyngor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac rydym wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau tramor a drefnwyd gan Busnes Rhyngwladol Cymru sy’n sicr wedi helpu i godi ein proffil rhyngwladol a chynyddu ein gwerthiant dramor.
“Rydym newydd ddychwelyd o ymweliad llwyddiannus iawn i Singapore ac rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan unwaith eto yn Sioe Haf Bwyd Ffansi Efrog Newydd (29 Mehefin - 1 Gorffennaf).”
I gael manylion am gynnyrch cysyllter â:
Cwmni Halen Môn
Brynsiencyn
Llanfairpwllgwyngyll
Ynys Môn
LL61 6TQ
Ffôn: 01248 430871
E-bost: alison@seasalt.co.uk
Gwefan: www.seasalt.co.uk
Cyswllt: Alison Lea-Wilson