Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Wyau pob organic
Caws Pob
Article title

Ymwelwyr I Wyl Lenyddiaeth Y Gelli Yn Dysgu Fod Bwyd Lleol Yn Allweddol Yn Y Frwydr Yn Erbyn Newid Yn Yr Hinsawdd

Full article

Bydd cynhyrchwyr bwyd lleol yng Nghymru yn cael cyfle i arddangos yn un o ddigwyddiadau diwylliannol enwocaf y byd, G?yl Lenyddiaeth y Gelli (22 Mai - 1 Mehefin).

Bydd y gr?p o gynhyrchwyr bach yn cymryd rhan mewn arddangosfa ar safle’r ?yl ar bwnc newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd.

Caiff yr arddangosfa ei noddi gan bartneriaeth Gaia, sefydliad sy’n anelu i ysbrydoli unigolion a busnesau i addasu mewn ffordd gadarnhaol a difyr i’r newid yn yr hinsawdd, gan ddefnyddio gwybodaeth o’r gwyddorau newydd a chreadigrwydd y celfyddydau.

Bydd yr arddangosfa a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnwys nifer o gynhyrchwyr bwyd bach ac yn annog pobl i ystyried eu gweithredoedd mewn cyd-destun amgylcheddol a byd-eang ac edrych ar ‘y darlun mwy’.

“Mae sicrhau cynnyrch lleol yn rhan allweddol o’r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, gan gefnogi ffermwyr lleol a hefyd ostwng milltiroedd cynnyrch,” meddai Elaine Brook, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gaia.

Mae nifer o weithgareddau ar y gweill o amgylch yr arddangosfa’n cynnwys darlithoedd, gweithdai eco-ymwybyddiaeth a gemau ôl-troed carbon.

Mae arddangosfa Gaia hefyd yn cynnwys arddangosiadau gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen, Graig Farm Organics a’r elusen Ymddiriedaeth Gwenyn dros Ddatblygu o sir Fynwy sy’n codi arian gyda’r nod o liniaru tlodi yn rhyngwladol drwy gadw gwenyn.

I gael mwy o wybodaeth am Bartneriaeth Gaia a’r arddangosfa yng Ng?yl Lenyddiaeth y Gelli, cysyllter â:

Elaine Brook
Partneriaeth Gaia
56 Castle Road
Llanandras
Powys
LD8 2EB
Ffôn: 0845 4584718
Gwefan:  www.gaiapartnership.org

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 13 May 2008