Mae mynd ag alpaca am dro yn un o’r cynigion arnarferol wrth i winllanau ledled Cymru agor eu drysau i ymwelwyr i ddathlu Wythnos Win Cymru (26 Mai - 3 Mehefin).
Mae Gwinllan Wernddu ym Mhen-y-Clawdd yn Nhrefynwy yn cynhyrchu gwin gwyn, gellygwin a seidr, ond hefyd yn cadw nifer o alpacas - gyda dau o’r anifeiliaid wedi eu hyfforddi’n arbennig i fynd â hwy am dro.
Bydd y winllan organig sy’n enwi eu diodydd ar ôl yr alpacas hefyd yn cynnig sesiynau blasu a theithiau mwy traddodiadol, yn yr un modd â llawer o winllanoedd ledled Cymru.
Nod Wythnos Win Cymru yw ysgogi diddordeb yng nghynhyrchwyr gwin Cymru a bydd gwinllanoedd ym mhob rhan o’r wlad yn cynnig sesiynau blasu, teithiau a hyrwyddiadau arbennig i ddangos ansawdd gwin Cymreig.
Er mai yn gymharol ddiweddar y dechreuwyd cynhyrchu gwin yng Nghymru, mae’r diwydiant eisoes yn tyfu ac yn ennill parch a chlod gan y byd gwin.
Mae’r tywydd hefyd yn cael effaith, gyda’r cynnydd mewn tymheredd cyfartalog ym Mhrydain yn porthi’r twf yn y diwydiant gwin yng Nghymru.
Mae bellach dros 20 o winllanoedd yng Nghymru yn cynhyrchu tua 100,000 o boteli gwin bob blwyddyn. Gwin gwyn yw’r rhan fwyaf, ond mae cynnydd mewn gwin coch a gwin ros? yn ogystal â mathau gwyn pefriog a wneir yn null Champagne.
Mae gwinllanoedd yn aml yn atyniadau twristiaeth ynddynt eu hunain ac mae gan lawer eu caffes a’u siopau eu hunain.
Bydd y gwinllanoedd dilynol ar agor i’r cyhoedd ac yn cynnal digwyddiadau arbennig yn ystod Wythnos Win Cymru (26 Mai - 3 Mehefin).
Gwinllan Wernddu, Pen-y-clawdd, Trefynwy
Cyswllt - Leigh Strawford 01600 740104
www.wernddu-wine.co.uk
Gwinllan organig ar agor Sadwrn 26 Mai - Sul 3 Mehefin
Llun - Gwener 12 - 7pm
Penwythnosau 2 - 7 pm
Cynhyrchir gwin gwyn, hefyd seidr a gellygwin o ffrwythau lleol, ar werth yn y siop.
Celf a chrefft lleol ar werth.
Sesiynau blasu gwin, teithiau o amgylch y winllan a chyfle i fynd ag alpaca am dro (penwythnosau’n unig - ffoniwch i archebu)
Te a choffi
Castell sboncio (os yw’r tywydd yn caniatau)
Gwinllan Parva Farm, Tyndyrn, Sir Fynwy
Cyswllt - Judith Dudley 01291 689636
Ymwelwch â’r winllan am deithiau, blasu a phrynu gwin 10.30 - 6.30pm bob dydd. Arddangosfa gelff gyda gweithiau gan artistiaid lleol a ddangosir rhwng 26 Mai - 3 Mehefin.
Disgownt arbennig a gwin ros? pefriog newydd, Tintern Parva.
Cyfle i flasu cawsiau Cymreig.
Gwinllan Padig, Cemaes, Ynys Môn
Cyswllt - Tom Barlow 01407 710416
www.llanbadrigvineyard.com
Cynhyrchir gwin gwyn, a bwriedir cynhyrchu gwin coch a gwin pefriog yn y dyfodol.
Ar agor 12 - 6pm bob dydd ar gyffer teithiau o amgylch y winllan a sesiynau blasu gwin yn y siop a chwpanaid o goffi yn y caffe.
Gwinllan Llanerch, Hensol, Pendwylan, Bro Morgannwg
Cyswllt - 01443 225877
www.llanerch-vineyard.co.uk
Cariad Ros? 2006 ar gael i’w flasu
Siop ar agor bob dydd 10 - 4
Sesiwn blasu gwin £4
Siop goffi yn cynnig ciniawau ysgafn, tapas, te hufen
Gwinllan Gelynis, Treforgan, Caerdydd
Cyswllt - Roger Watt 02920 844440
www.gelynisfarm.co.uk
Gwinllan erw o faint ar y fferm ffrwythau hon sy’n cynhyrchu gwinoedd gwin a phefriog i’w blasu a’u prynu. Ar agor 11am - 5pm bob dydd.
Casglwch eich mefus eich hunain o 26 Mai.
Gwinllan Sugar Loaf, Y Fenni, Sir Fynwy
Cyswlltt - Louise Ryan 01873 853066
www.sugarloafvineyards.co.uk
Cynhyrchir 3 math o win gwyn, 1 coch, 1 ros? ac 1 pefriog
Ar agor Llun g?yl banc, Mawrth - Sadwrn 10.30am - 5pm a Sul 12- 5pm ar gyfer teithiau, blasu gwin, gwerthu gwin a’r siop goffi.
Gwinllan Cwm Deri, Martletwy, Sir Benfro
Cyswllt - Michael Caine 01834 891274
www.cwm-deri.co.uk
Mae’r winllan ar agor Llun - Sadwrn 11am - 5pm a Sul 12 - 5pm ar gyfer teithiau o’r winllan, cornel anifeiliaid anwes, y caffe a blasu eu gwinoedd a’u gwirodydd. Mae’r bwyty ar agor nos Wener a nos Sadwrn ac amserau cinio Sul, rhaid archebu ymlaen llaw.
MANYLION PELLACH: Leigh Roberts ar (01656) 788336