Bydd cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn ymuno â chwmnïau bwyd a diod o rannau eraill o Ewrop yn yr Iseldiroedd yr wythnos nesaf (22-23 Mai) mewn digwyddiad masnach arbenigol.
Mae PLMA (‘Private Label Manufacturers Association’), a gynhelir yng Nghanolfan Arddangos RAI ger Amsterdam, yn ddigwyddiad neilltuol ar gyfer cwmnïau bwyd a diod a phrynwyr adwerthu safon uchel sy’n chwilio am gynnyrch newydd ar gyfer brandiau label newydd.
Bydd sioe fasnach ryngwladol “Byd Label Preifat” PLMA 2007 yn cynnwys mwy na 3,000 o stondinau arddangos yn cynnwys mwy na 30 o bafiliynau cenedlaethol a rhanbarthol. Bydd y cynnyrch a ddangosir yn cynnwys bwydydd ffres, bwydydd rhew a bwydydd oeredig, nwyddau groser sych a diodydd yn ogystal â chategorïau heblaw bwyd.
Trefnir cynrychiolaeth Cymru gan Busnes Rhyngwladol Cymru ar ran yr Isadran Bwyd a Datblygu Marchnad o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y cwmnïau o Gymru sy’n arddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau i’r sector bwyd a diod yn cynnwys Abergavenny Fine Foods, Drink Pac Cyf, FE International a Halo Foods Cyf.
Bydd Drink Pac Cyf o Sir y Fflint sy’n pecynnu cynnyrch brand ar gyfer amrediad o gwsmeriaid yn ogystal â chynhyrchu ei gynnyrch enw ei hunan yn arddangos detholiad o nwyddau yn cynnwys cynnyrch llaeth, soya, sudd, cynnyrch arbenigol, diodydd a gwinoedd,
Mae Halo Foods Cyf o Dywyn yn gwneud bariau snac, a byddant yn canolbwyntio ar eu hamrediad o ‘snaciau syml, naturiol.’
cynhyrchwyr reis, pasta a nwdls i’w coginio mewn microdon, FE International o Abertawe yn arddangos ei couscous a sawsiau.
Hefyd yn Amsterdam fydd Abergavenny Fine Foods sy’n cynhyrchu nwyddau llaeth arbenigol a bwydydd cyfleustod seiliedig ar gaws.
MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk
I gael manylion pellach am PLMA gweler www.plmainternational.com
Abergavenny Fine Foods
Parc Castle Meadows
Y Fenni
NP7 7RZ
Ffôn: 01873 850001
E-bost: brysonc@abergavenny.uk.com
Cyswllt: Bryson Craske
Drink Pac Cyf
Uned36,
First Avenue,
Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy
Sir y Fflint
CH5 2NU
Ffôn: 01244 289001
E-bost: peterquinn@drinkpac.com
Gwefan: www.drinkpac.com
Cyswllt: Peter Quinn
Halo Foods Cyf
Tywyn,
Gwynedd
LL36 9LW
Ffôn: 01654 711171
E-bost: paulcartwright@halofoods.co.uk
Gwefan:: www.halofoods.co.uk
Cyswllt: Paul Cartwright
FE International
Clark Way,
Stad Ddiwydiannol Winchwen
Abertawe
SA1 7DE
Ffôn: 01792 312918
E-bost: davidlambert@feinternational.co.uk
Gwefan: www.feinternational.co.uk
Cyswllt: David Lambert
Sheila Coleman
Partner
Coleman Roberts Communications
Tel: 01792 817532 / 07968 357474
www.colemanroberts.co.uk