Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Caws Pob wy organig wedi?i ferwi
Pastai filo sbiboglys a chaws
Article title

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau'r Gwir Flas

Full article

Cyhoeddwyd enwau enillwyr Gwobrau Bwyd a Diod Cymru, y Gwir Flas / True Taste 2003-4 mewn seremoni fawreddog yng ngwesty moethus y Celtic Manor, Casnewydd.

Cynllun gan Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) yw'r Gwobrau a'r nod yw clodfori technegau a phrofiadau mwyaf cyffrous y diwydiant bwyd a diod.

Roedd yn noson llwyddiannus iawn i gwmni dwr ffynnon Ty Nant o Fethania, Ceredigion, gan fod y rheolwr cyffredinol, Nick Taylor, wedi'i enwi'n Llysgennad y Flwyddyn 2003 - 4 a bod y cwmni wedi ennill gwobr efydd Gweithgynhyrchydd Gwir Flas (busnesau mawr).

Enillodd Caws Cenarth, Boncath, Sir Benfro ddwy wobr (gwobr aur ar gyfer Cynhyrchydd Gwir Flas a gwobr efydd Gweithgynhyrchydd Gwir Flas / busnesau bach - canolig) am gosyn bach Perl Las sydd, yn ôl y beirniaid, "yn gaws glas hyfryd, llyfn a hufennog".

Bacheldre Watermill, Yr Ystog, Powys, enillodd y wobr aur yn y dosbarth organig. Roedd y beirniaid wedi'u plesio'n fawr â'r tri math o flawd organig a gyflwynwyd i'r gystadleuaeth.

Y cwmnïau eraill a enillodd wobr aur oedd: Cwmni Caws Eryri, Llanrwst; Romy Cuisine, Y Gelli Gandryll; William Lloyd Williams a'i Fab, Machynlleth; Capital Cuisine, Caerdydd; Ye Old Bulls Head Inn, Biwmares; Ynyshir Hall, Machynlleth; Edwards o Gonwy a Phlas Rhug, Corwen.

Roedd y noson yn gyfle i glodfori'r diwylliant Cymreig yng nghwmni'r enillwyr, cynrychiolwyr o'r diwydiant bwyd, noddwyr a'r cyfryngau.

Roedd y fwydlen, a gynlluniwyd gan brif gogydd y Celtic Manor, Mike Bates, yn cynnwys cranc Sir Benfro, eog mwg Cymreig, a ffiled rost o Gig Eidion Cymreig.

Diddanwyd y gynulleidfa gan y gantores Siân James a dangoswyd clipiau fideo o rhai o brif sêr Cymru yn sôn am eu hoffter o fwydydd Cymreig, yn eu plith Bryn Terfel, Matthew Rhys, Sue Roderick a Catrin Finch.

Uchafbwynt y noson oedd y seremoni wobrwyo - yng nghwmni Hywel James o HTV a Rachel James o Ffermio, pan gyflwynwyd gwobrau aur, arian ac efydd mewn 11 categori (gweler y nodiadau i'r golygyddion) i'r enillwyr. Roedd y tlysau wedi'u cynllunio'n arbennig a'u creu â llaw gan y dylunydd gwydr dawnus Jane Beebe.

Dywedodd cadeirydd WDA, Roger Jones: "Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr eleni - fe ddylent i gyd fod yn falch iawn o'u llwyddiant."

"Bydd yr enillwyr yn elwa ar ymgyrch farchnata genedlaethol a fydd yn cynnwys arddangosfa yn y BBC Good Food Show cyn diwedd y mis ac arddangosfa Blas sydd wedi ei leoli yng nghanol Caerdydd, ac wedi croesawu dros hanner miliwn o ymwelwyr dros y flwyddyn diwethaf. Byddant hefyd yn cael cyfle i gydweithio ag ASDA, un o noddwyr y gystadleuaeth, yn y flwyddyn newydd.

"Ar ben hynny, bydd yr enillwyr yn cael dangos logo Gwobrau'r Gwir Flas ar eu nwyddau a'u llenyddiaeth - a fydd yn dangos i'r cwsmer eu bod o safon uchel iawn."

Os hoffech ragor o fanylion am y gwobrau neu am fwyd yng Nghymru, ffoniwch 0845 777 5566, e-bostiwch: neu ewch i www.walesthetruetaste.com

Bydd HTV 1 Wales yn darlledu rhaglen arbennig awr o hyd am y Seremoni Wobrwyo ar nos Wener, Tachwedd 21, o 11.30pm - 12.30pm.

Eleni, noddir Gwobrau Bwyd a Diod y Gwir Flas / True Taste gan ASDA, HTV a Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales ac fe'u cefnogir gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru / Wales, Undeb Amaethwyr Cymru a Capper & Co.

AM RAGOR O WYBODAETH

Gan gynnwys cyfleuon cyflweld, astudiaethau achos yr enillwyr a lluniau - cysylltwch â Sheona Roberts, Lisa Durston neu Catrin Mears ar 029 20 304050 neu e-bostiwch lisa@merlin-digital.co.uk neu Menna Davies neu Cath Midgley o Awdurdod Datblygu Cymru ar 01686 613175. YR ENILLWYR Llysgennad y Flwyddyn y Gwir Flas / True Taste 2003-4 Nick Taylor Ty Nant

Gwobr Aur 2003-4
Cynhyrchydd Gwir Flas

Caws Cenarth
Cynnyrch: Cosyn Bach Perl Las

Cysylltwch â: Thelma Adams
Cyfeiriad: Caws Cenarth, Fferm Glyneithinog, Lancych, Boncath, Dyfed SA37 0LH
Rhif ffôn: 01239 710432
www.cawscenarth.co.uk

Gwobr Arian 2003-4
Cynhyrchydd Gwir Flas

Bethesda Fresh Farm Meats - Home Cured Bacon

Cysylltwch â: BG & CS Bowen
Cyfeiriad: Bethesda Fresh Farm Meats, Trefwynt Farm, Bethesda, Arberth, Sir Benfro SA677 8HF
Rhif ffôn: 01437 563312/090
www.fresh-welsh-meat.co.uk

Gwobr Efydd 2003-4
Cynhyrchydd Gwir Flas

Stubbins Marketing Ltd - Santa Baby Plum Tomatoes

Cysylltwch â: Peter Turone
Cyfeiriad: Stubbins Marketing, Station Approach, Waltham Cross, Herts ENB 7LY
Rhif ffôn: 01992 713200
www.stubbins.com

Gwobr Aur 2003-4
Gwir Flas Organig

Bacheldre Watermill - Bacheldre Watermill Organic Flours

Cysylltwch â: Matt & Anne Scott
Cyfeiriad: Bacheldre Watermill, Yr Ystog (Churchstoke), Trefaldwyn, Powys SY15 6TE
Rhif ffôn: 01588 620489
www.bacheldremill.co.uk

Gwobr Arian 2003-4
Gwir Flas Organig

Graig Farm Organics - Welsh Lamb Tagine with Apricots, Welsh Beef with Prunes, Welsh Beef with Coconut and Black Peppers, Welsh Lamb with Coconut and Black Peppers

Cysylltwch â: Bob Kennard
Cyfeiriad: Graig Farm Organics, Dolau, Llandrindod, Powys
LD1 5TL
Rhif ffôn: 01597 851655
www.graigfarm.co.uk

Gwobr Efydd 2003-4
Gwir Flas Organig

The Knobbly Carrot Food Company - llenwadau brechdanau:
Pesto Pastiche, Creamy Crunch, Creamy Alpine Sausage salad, Crunchy Vegetable Tikka, Mexican Hat Dance, Two Cheese and Onion, Creamy Tandoori Chicken, Chicken Parisienne, a Creamy Spiced Egg.

Cysylltwch â: Julian Evans
Cyfeiriad: Uned 18, Parc Busnes Llambed, Llambed, Ceredigion SA48 8LT
Rhif ffôn: 01570 422064
www.theknobblycarrot.co.uk

Gwobr Aur 2003-4
Partneriaeth Gwir Flas

Snowdonia Cheese Company Ltd - Indulgent Ready Wedge

Cysylltwch â: John Newton-Jones
Cyfeiriad: Snowdonia Cheese Company Ltd, PO Box 6, Llanrwst, LL26 0ZA
Rhif ffôn: 01745 813388
www.snowdonia-cheese.co.uk

Gwobr Arian 2003-4
Partneriaeth Gwir Flas

Rachel's Organic Dairy Ltd - Rachel's Organic Yoghurts

  • Rachel's Organic Greek Style Yoghurt (gyda mêl)
  • Rachel's Organic Wholemilk Yoghurt (mefus, banana)
  • Rachel's Organic Low Fat Yoghurt (rhiwbob)
  • Rachel's Organic Fat Free Yoghurt (mafon)
  • Cysylltwch â: Neil Burchell
    Cyfeiriad: Rachel's Organic Dairy, Glanyrafon, Aberystwyth SY23 3JQ
    Rhif ffôn: 078111 46633
    www.rachelsorganic.co.uk

    Gwobr Efydd 2003-4
    Partneriaeth Gwir Flas

    Cynnyrch: Welsh Beef in Brains Dark Ale

    Cysylltwch â: Paul Trotman
    Cyfeiriad: The Authentic Curry Company Ltd, Unedau 46/47, Stad Ddiwydiannol Hirwaun, Hirwaun, Aberdâr CF44 9UP
    Rhif ffôn: 01685 810044
    www.currycompany.fsnet.co.uk

    Gwobr Aur 2003-4
    Gweithgynhyrchydd Gwir Flas - Busnesau Bach

    Romy Cuisine F.F.W - Pate Terrine (7 varieties)

  • Celtic Pate
  • Farmer Terrine
  • Duck Terrine
  • Rillette
  • Pheasant Pate
  • Wild Rabbit Terrine
  • Pigeon Terrine
  • Cysylltwch â: Romy Simon
    Cyfeiriad: Romy cuisine FFW, PO Box 106, Hay On Wye HR3 5YH
    Tel: 07855 531550
    www.romycuisine.co.uk

    Gwobr Arian 2003-4
    Gweithgynhyrchydd Gwir Flas - Busnesau Bach

    Trethowan's Gorwydd Caerphilly - Caerphilly cheese

    Cysylltwch â: Maugan Trethowan
    Cyfeiriad: Gorwydd Farm, Llandewi Brefi, Tregaron, Ceredigion SY25 6NY
    Tel: 01570 493516
    http://www.gorwydd.com

    Gwobr Efydd 2003-4
    Gweithgynhyrchydd Gwir Flas - Busnesau Bach

    Caws Cenarth - miniature Perl Las

    Cysylltwch â: Thelma Adams
    Cyfeiriad: Caws Cenarth, Fferm Glyneithinog, Lancych, Boncath, Dyfed SA37 OLH
    Tel: 01239 710432
    www.cawscenarth.co.uk

    Gwobr Aur 2003-4
    Gweithgynhyrchydd Gwir Flas - Busnesau Mawr

    William Lloyd Williams & Son - Cushion of Welsh Lamb filled with lemon and mixed herbs

    Contact - William Lloyd Williams
    Cyfeiriad - William Lloyd Williams and Son, Central Buildings, 5 Maengwyn Street, Machynlleth, Powys, SY20 8AA
    Rhif ffôn - 01654 702106

    Gwobr Arian 2003-4
    Gweithgynhyrchydd Gwir Flas - Busnesau Mawr

    Tiger Bay Beverages Company
    Tiger Smoothies (4 Variaties)

  • Vitalize (Apple, Apricot & Spirulina)
  • Energize (Cranberry/raspberry & Spirulina
  • Enrich (Strawberry/Banana with added Vitamin A, C & E)
  • Chillout (Mango/Orange with added Avena Sativa)
  • Cysylltwch â: Tracey Powell
    Cyfeiriad: Tiger Bay Beverages Company, 20 Cowbridge Road West, Cardiff CF5 5BS
    Rhif ffôn: 029 20 555059
    www.tigerbaybev.co.uk

    Gwobr Efydd 2003-4
    Gweithgynhyrchydd Gwir Flas - Busnesau Mawr

    Ty Nant Spring Water Ltd

  • Ty Nant Natural Mineral Water-750ml, 330ml &250ml glass bottles
  • Ty Nant Natural Mineral Water-1.5 litre, 1 litre, 500ml PET Bottles
  • Cysylltwch â: Catherine Henley
    Cyfeiriad: Ty Nant Spring Water, Bethania, Llanon, Ceredigion SY23 5LS
    Rhif ffôn: 01974 272111
    www.tynant.com

    Gwobr Aur 2003-4
    Lletygarwch Gwir Flas - Arlwyo

    Capital Cuisine

    Cysylltwch â: Colin Gray & Mike Coram
    Cyfeiriad: Capital Cuisine, Unit 7 Tyndal Street Industrial Estate, Cardiff, CF10 4BG
    Rhif ffôn: 02920 464090
    www.capitalcuisine.co.uk

    Gwobr Arian 2003-4
    Lletygarwch Gwir Flas - Arlwyo

    Blas ar Fwyd

    Cysylltwch â: Deiniol ap Dafydd
    Cyfeiriad: Blas ar Fwyd, Llanrwst, LL26 0BT
    Rhif ffôn: 01492 640215
    www.blasarfwyd.co.uk

    Gwobr Efydd 2003-4
    Lletygarwch Gwir Flas - Arlwyo

    Party Cooks

    Cysylltwch ag: Ann Williams
    Cyfeiriad: Party Cooks, 38 Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NT
    Rhif ffôn: 01758 612140
    E-bost: partycooks@aol.com

    Gwobr Aur 2003-4
    Lletygarwch Gwir Flas - Tafarndai/Bistros/Caffis/Siopau Te

    Ye Olde Bulls Head Inn - Brasserie

    Cysylltwch â: David Robertson neu Keith Rothwell
    Cyfeiriad: Ye Olde Bulls Head Inn, Castle Street, Biwmares, Ynys Môn, LL58 8AP
    Rhif ffôn: 01248 810329
    www.bullsheadinn.co.uk

    Gwobr Arian 2003-4
    Lletygarwch Gwir Flas - Tafarndai/Bistros/Caffis/Siopau Te

    The Bell at Skenfrith Ltd

    Cysylltwch â: Janet a William Hutchings
    Cyfeiriad: The Bell at Skenfrith, ger y Fenni, Sir Fynwy NP7 8UH
    Rhif ffôn: 01600 750235
    www.skenfrith.co.uk

    Gwobr Efydd 2003-4
    Lletygarwch Gwir Flas - Tafarndai/Bistros/Caffis/Siopau Te

    Drovers Rest Tea Rooms

    Cysylltwch â: Peter James
    Cyfeiriad: Drovers Rest Tea Rooms, The Square, Llanwrtyd, Powys, LD5 4RA
    Rhif ffôn - 01591 610264
    www.foodfoodfood.co.uk

    Gwobr Aur 2003-4
    Lletygarwch Gwir Flas - Bwytai/Gwestai

    Ynyshir Hall

    Cysylltwch â: Joan neu Rob Reen
    Cyfeiriad: Ynyshir Hall, Eglwys Fach, Machynlleth, Powys, SY20 8TA
    Rhif ffôn: 01654 781209
    www.ynyshir-hall.co.uk

    Gwobr Arian 2003-4
    Lletygarwch Gwir Flas - Bwytai/Gwestai

    Tyddyn Llan

    Cysylltwch â: Bryan Webb
    Cyfeiriad: Tyddyn Llan, Llandrillo, LL21 0ST
    Rhif ffôn: 01490 440264
    www.edwardsofconwy.co.uk

    Gwobr Arian 2003-4
    Manwerthwr Gwir Flas

    Cambrian Organics - Gwefan siopa

    Cysylltwch â: Bill Lawrence
    Cyfeiriad: Cambrian Organics, Parc Busnes Horeb, Llandysul, Ceredigion, SA44 4XE
    Rhif ffôn: 01559 363151
    www.cambrianorganics.com

    Gwobr Efydd 2003-4
    Manwerthwr Gwir Flas

    Plas Rhug - Siop fferm

    Cysylltwch â: Philip Hughes / Peta Baxter
    Cyfeiriad: Rhug Estate Office, Cefn Rhug, Corwen, Sir Ddinbych LL21 OEH
    Rhif ffôn: 01490 413000
    www.rhugorganicfarm.co.uk

    Gwobr Aur 2003-4
    Newydd-ddyfodiad Gwir Flas

    Plas Rhug - mentrau manwerthu

    Cysylltwch â: Philip Hughes / Peta Baxter
    Cyfeiriad: Rhug Estate Office, Cefn Rhug, Corwen, Sir Ddinbych LL21 OEH
    Tel: 01490 413000 ext 1
    www.rhugorganicfarm.co.uk

    Gwobr Arian 2003-4
    Newydd-ddyfodiad Gwir Flas

    Gwesty'r Harbwr

    Cysylltwch â: Menna Heulyn
    Cyfeiriad: Gwesty'r Harbwr/Harbourmaster Hotel, Pen Cei, Aberaeron SA46 OBA
    Rhif ffôn: 01545 570755
    www.harbour-master.com

    Gwobr Efydd 2003-4
    Newydd-ddyfodiad Gwir Flas

    Fferm Tyllwyd

    Cig Eidion Du Cymreig
    Cysylltwch â: John James
    Cyfeiriad: Fferm Tyllwyd, Felingwm-Uchaf, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA32 7QE
    Rhif ffôn: 01267 290537
    www.organicwelshbeef.co.uk

    Cefndir

    Lansiwyd Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas / True Taste yn 2002 ac, yn y flwyddyn gyntaf, cafwyd dros 300 o geisiadau mewn wyth categori.

    Cafwyd llawer o sylw i'r Gwobrau yn y cyfryngau a chafwyd cefnogaeth pobl ddylanwadol yn y diwydiant bwyd-amaeth yng Nghymru.

    Yn 2003, cynhaliwyd digwyddiadau lansio yn Llundain a Chaerdydd a phedwar diwrnod ymwybyddiaeth rhanbarthol ledled Cymru.

    Prif noddwyr y Gwobrau yn 2003 yw Asda, Hybu Cig Cymru/ Meat Promotion Wales ac HTV, ac mae Capper & Co Ltd, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn eu cefnogi hefyd.

    Mae'r beirniaid yn arbenigo mewn nifer o wahanol feysydd ac maent yn cynnwys pobl sy'n ysgrifennu am fwyd a diod, cogyddion blaenllaw, beirniaid yn y maes a noddwyr. O dan arweiniad cadeirydd Partneriaeth Bwyd-Amaeth Cymru, Bill Goldsworthy OBE, mae'r panel beirniaid yn cynnwys Colin Pressdee, Franco Taruschio, Dudley Newbery, Lynda Brown, Elisabeth Luard, a chynrychiolwyr y noddwyr, Elis Owen, HTV; Jonathan Moore, ASDA; Rees Roberts, Hybu Cig Cymru/ Meat Promotion Wales, Peter Jackson, Cadeirydd y Wales Culinary Association a Wendy Crisp, a etholwyd yn Menyw fel Entrepreneur, 2001 yng Ngwobrau Busnes Cymru y Western Mail.

    Ceir gwobrau aur, arian ac efydd mewn 11 o gategorïau:

  • Cynhyrchydd Gwir Flas
  • Gwir Flas Organig
  • Partneriaeth Gwir Flas
  • Gweithgynhyrchydd Gwir Flas (dosbarthiadau ar gyfer busnesau mawr a bach)
  • Lletygarwch Gwir Flas (wedi'i rannu'n dri is-ddosbarth)
    (E1 Arlwyo/gwasanaethau bwyd, E2 tafarndai/ bistros/ caffis/ siopau te, E3 bwytai/ gwestai)
  • Manwerthwr Gwir Flas
  • Newydd-ddyfodiad Gwir Flas (busnesau a sefydlwyd ers 1 Ionawr 2001)
  • Llysgennad y Flwyddyn
  • Mae meini prawf y beirniaid wedi'u seilio ar ansawdd a blas y cynnyrch terfynol neu'r gwasanaeth, ynghyd â thystiolaeth fod y busnes neu'r fenter yn talu'r ffordd yn ariannol a bod ganddo botensial i ddatblygu. Yn ogystal, roedd y beirniaid yn chwilio am wreiddioldeb, dyfeisgarwch a brwdfrydedd masnachol.

    Cynhelir seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 14 Tachwedd 2003. Bydd y gynulleidfa'n cynnwys y rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, cynrychiolwyr o'r diwydiant, y wasg a'r cyfryngau ac enwogion.

    Bydd yr enillwyr yn cael dangos logo newydd Gwobrau'r Gwir Flas ar eu cynnyrch a'u llenyddiaeth. Nod brand newydd y diwydiant "Cymru: y Gwir Flas", a lansiwyd ym mis Awst 2002, yw uno'r diwydiant a chyfleu neges bwerus i bawb sy'n dod ar draws bwyd a diod o Gymru.

    Bydd yr enillwyr yn elwa ar ymgyrch hyrwyddo'r WDA ar Wobrau'r Gwir Flas / True Taste, (Sylwch: ymgyrch am y cynllun Gwobrau a'r enillwyr yn gyffredinol yw hon, nid y cwmnïau unigol).

    Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

    Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 17 November 2003