Cafodd cwmni Halen Môn ei enwi yn un o bum gynnyrch gastronomegol pennaf y byd gan gyngres fyd-eang o chefs.
Cynhelir y Feria de Gastronomia bob mis Tachwedd yn ninas San Sebastian yng Ngwlad y Basg. Yn y gyngres dridiau mae rhai o chefs enwocaf y byd yn cystadlu am y gwobrau pwysig sy’n dathlu popeth gastronomegol.
Mae rhan o’r Feria yn cynnwys y detholiad o’r pum prif gynnyrch yn y byd y barnwyd iddynt fod wedi codi safon gastronomeg yn sylweddol. Gr?p elite eleni oedd gwneuthurydd siocled, gwneuthurydd cawsiau, tyfwr reis, tyfwr wystrys a Halen Môn.
Dywedodd Alison Lea-Wilson, cyfarwyddwr Halen Môn, ‘Rydym yn neilltuol o falch i gael y gydnabyddiaeth yma gan ei fod yn tanlinellu’r parch sydd gan Sbaen at gymryd cynhwysyn sylfaenol fel halen môr a’i wneud y gorau sydd i’w gael o ran blas, purdeb ac ansawdd”.
Ychwanegodd David Lea-Wilson, cyd-sefydlydd Halen Môn, “Rydym yn falch o’n hamgylchedd, staff, systemau a’n hymagwedd safon uchel at bopeth a wnawn yn Halen Môn ond nid ydym yn datgan hynny’n aml.
“Felly mae derbyn yr anrhydedd blaenllaw hwn gan gyngres gastronomegol Ewrop yn un y medrwn i gyd ymfalchïo’n fawr ynddi mewn marchnad cynyddol gystadleuol lle mae tarddiad, blas, cyflenwi ar amser ac enw da yn hollol hanfodol.”
Mae’r cwmni, sy’n enillydd gwobr Gwir Flas, yn dathlu ei ddegfed pen-blwydd eleni. Caiff ei amrediad o halen a sesnin naturiol eu defnyddio gan chefs a bwytai blaenllaw ym mhob rhan o’r byd.
Meddai Alison, “Dros y blynyddoedd cawsom lawer iawn o help a chyngor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac rydym wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau tramor a drefnwyd gan Busnes Rhyngwladol Cymru sydd yn sicr wedi’n helpu i godi ein proffil rhyngwladol a thyfu ein hallforion.
“Er enghraifft, y llynedd buom yn sioe fwyd ryngwladol Alimentaria ym Marcelona, a fis Mawrth nesaf byddwn yn ymweld â’r sioe eto drwy Busnes Rhyngwladol Cymru fel rhan o gr?p o arddangoswyr Cymru ar stondin Gwir Flas Cymru.”