Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
caws wedi?i ffrďo?n ddwfn gydag eirin Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Wyau pob organic
Article title

Cwmni Bragu A Enillodd Wobr Y Gwir Flas Yn Codi Gwydr I Gynnydd Gwerthiant

Full article

Mae cwmni bragwyr gwobrwyol o Dde Cymru yn dathlu ei flwyddyn orau eto ymysg adroddiadau fod gostyngiad mewn gwerthiant cwrw mewn tafarndai.

Enwyd The Hurns Brewing Company yn gynhyrchydd rhanbarthol gorau De Orllewin Cymru yng Ngwobrau Bwyd a Diod y Gwir Flas 2007/08, ac mae wedi gweld ei dwf mwyaf erioed gyda chyfanswm y gwerthiant wedi cynyddu’r ffigur gan 137%.

Mae’r cwmni teuluol o Abertawe yn cynhyrchu amrediad o fathau cwrw dan frand Tomos Watkin, ac mae ganddo 20 tafarn ar draws De Orllewin Cymru The Robin Hood a’r Clarence yn Abertawe, Kings Arms yn Hwlffordd a’r PS Bar ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

“Rydym wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau, ac ar adegau dros yr haf bu bron i ni redeg allan o gwrw oherwydd bod cymaint o alw,” meddai Connie Parry, sy’n cyd-berchen Hurns gyda’i brawd Philip.

“Er y bu adroddiadau fod gwerthiant cwrw ym Mhrydain yn gostwng, bu ein gwerthiant cwrw casgen yn gyson; yn wir mae cyfanswm ein gwerthiant dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cynyddu’n enfawr, felly mae’n sicr yn edrych ein bod yn mynd yn groes i’r tueddiad.”

Mae pum math o gwrw potel yn amrediad Tomos Watkin ar hyn o bryd yn ogystal â seidr cynyddol boblogaidd Taffy Applies a sawl math tymhorol o gwrw casgen fel Cwrw Haf, Cwrw Santa a Dewi Sant.

“Rwy’n credu mai’r rheswm yw bod ein cwsmeriaid yn gwerthfawrogi cynnyrch safon uchel ac yn hapus i yfed ein cwrw yn eu cartrefi yn ogystal ag mewn tafarndai,” ychwanegodd Connie. Sefydlwyd y busnes gan ei hen dad-cu.

Mae Hurns wedi mwynhau llawer o lwyddiant bragu, ym mis Hydref Magic Lager y bragdy oedd enillydd rhanbarthol Cymru 2008 Tesco pan flaswyd cwrw potel newydd o Gymru. Maent hefyd wedi ennill dwy wobr flaenorol y Gwir Flas am ei gwrw potel a nifer fawr o wobrau CAMRA (Ymgyrch Cwrw Go Iawn) am gwrw casgen.

Hefyd, yn dilyn cytundeb gyda St Killian, dosbarthydd o America, bydd cwrw Hurns ar werth yn fuan yn 50 talaith yr Unol Daleithiau - credir mai ef yw’r bragwr cyntaf o Gymru i sicrhau dosbarthiad mor  eang yng Ngogledd America mor fuan ar ôl ennill cytundeb.

“Cawsom flwyddyn wych ac ennill gwobr y Gwir Flas oedd yr hufen ar y deisen. Aeth llawer o waith caled i wneud 2007 yn gymaint o lwyddiant, a chawsom gefnogaeth wych gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar hyd y ffordd.”

Dechreuodd Hurns ar droad y 19eg ganrif drwy wneud lemonęd, cwrw sinsir, d?r soda a diodydd ffrwythau. Caiff y poteli pop a charreg gwreiddiol eu dangos mewn amgueddfa yn Abertawe.

Arbedodd y tîm o frawd a chwaer fragdy Tomos Watkin yn 2002, ac mae Hurns yn  cyflogi 106 o bobl.

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 4 December 2007