Bydd gwledd i siopwyr sy’n paratoi ar gyfer y Nadolig wrth i fwyd Cymru fynd ar y sgrin fach yr wythnos nesaf (19 Tachwedd) mewn sioe arbennig ar QVC, y sianel deledu Brydeinig, gan nodi pen-blwydd cyntaf ei sioe gyntaf Gwir Flas Cymru.
Aeth blwyddyn heibio ers rhaglen gyntaf Gwir Flas Cymru ar QVC ac mae’r cwmnďau sy’n cymryd rhan wrth eu bodd gyda’r ymateb gan wylwyr a edrychodd yn eiddgar ar y tair sioe flaenorol ar fwyd Cymreig.
Rhoddir sylw i saith cwmni o ymru: Welsh Farm Organics, Clams Cakes, Castle Chocolates, Siwgr a Sbeis, Cheeses From Wales, Harvies Pies a The Patchwork Traditional Food Company, yn y sioe fyw awr o hyd a ddarlledir am 5pm.
Gyda chyflwynydd QVC bydd yr ymgynghorydd bwyd, awdur a darlledwraig Angela Gray, a fydd yn arddangos yr amrediad blasus o gynnyrch o gig a theisennau i siocledi a chaws.
Bydd Castle Chocolates o Gaerffili yn ymddangos am y tro cyntaf ar Sioe’r Gwir Flas gyda’i flwch mawr moethus o siocledi, a bydd The Patchwork Traditional Food Company o Ruthun hefyd yn ymddangos ar y sioe am y tro cyntaf gydag amrediad o seigiau sawrus a melys.
Bydd cynulleidfa QVC hefyd yn gweld pytiau ffilm o gwmnďau Cymru yn y BBC Good Food Show yn Olympia, Llundain a gaiff ei ffilmio ddydd Gwener (16 Tachwedd).
Ar ddiwrnod cyntaf y sioe bydd Dale Franklin, cyflwynydd QVC, yn cwrdd gyda chynhyrchwyr a chwsmeriaid, a bydd pwt ffilm o hynny yn cael ei gynnwys yn y sioe arbennig ‘Gwir Flas Cymru’ a ddarlledir ar QVC am 5pm ddydd Llun 19 Tachwedd.
Mae’r cwmnďau sy’n cymryd rhan yn y ffilmio yn cynnwys: Stad Rhug, Siwgr a Sbeis, Cheeses From Wales, Castle Chocolates, Clam’s Cakes Harvies Pies, The Patchwork Traditional Food Company, a Welsh Farm Organics.
Manylion Darlledu
Sky Digital - Sianel 630
Freeview - Sianel 16
Virgin TV - Sianel 740
www.qvcuk.com
I gael gwybodaeth bellach am QVC cysyllter â:
Jennifer Bramley
Ffôn: 0207 705 5600
E-bost: jennifer_bramley@QVC.com
CYNNYRCH A DDANGOSIR
Patchwork Traditional Foods: Heavenly Hamper (Eitem rhif: 827539)
yn cynnwys: 120g pate iau cyw iâr gyda brandi a pherlysiau, 4 x tarten eog mwg gyda crčme fraiche & dil mewn pestri sbelt lemon, 1x 120g ffondl siocled a champagne,
Siwgr a Sbeis: Blwch Melysfwydydd Nadolig (Eitem rhif: 827557) yn cynnwys: Pwdin Nadolig, mins peis, macar?ns a theisen siocled gyfoethog.
Castle Chocolates: Pecyn blwch mawr moethus (Eitem rhif: 827673)
yn cynnwys: 6 detholiad ar wahân o siocledi Cymreig yn cynnwys detholiadau siâp ‘castell’ gyda mintys ac oren, champagne a thriwfflau Bailey a dewisiadau traddodiadol cymysg.
Cheeses From Wales (Eitem rhif: 826083)
Detholiad o gawsiau gwobrwyol yn cynnwys Caws Cenarth Caerffili a Perl Las, Cilowen gan Caws Llanboidy, Caws y Graig a Cerwyn Mwg Derw gan Pant Mawr.
Clams Cakes (Eitem rhif: 827703)
Pecyn o dair teisen foethus a grefftiwyd â llaw yn cynnwys teisennau lemon, siocled ac almon.
Welsh Farm Organics (eitemau rhif: 827704, 826077, 826078)
Darnau ham aer-sychu Sir Drefaldwyn 3kg (digon i 11)
20 x 100g byrgyrs rhosmari a chig oen
24 Selsig porc gwahanol flasau
Harvies Pies (Eitemau rhif: 826595, 826081)
4 x 400g detholiad Pasteiod Cig Teulu
10 x 200g Pasteiod Stęc Organig Sawrus
Dewis o Stęc Wellington, Stęc a Chwrw, Stęc Marchruddygl a Mwstard Cyflawn, Stęc Brandi a Phupur Du Craciedig a Stęc ac Aren.