Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Wyau pob organic Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr
dwr ffynnon gyda leim
Article title

Cynhyrchwyr Cymru Yn Disgleirio Mewn Arddangosfa Fwyd

Full article

Bydd cynhyrchwyr Cymru yn arddangos rhai o fwydydd a diodydd gorau Cymru mewn digwyddiad blasu arbennig i ddefnyddwyr yn y Canolbarth ddydd Sadwrn (1 Rhagfyr).

Bydd amrywiaeth eang o gynnyrch Cymreig a lleol ar gael yn cynnwys cawsiau, cigoedd, teisennau, gwinoedd a chwrw.

Mae llawer o’r cwmnïau sy’n cymryd rhan wedi ennill gwobrau, yn cynnwys Plas Farm gyda’i hufen iâ Bara Brith a Lobsgows Eidion Blas ar Fwyd, a oedd yn enillwyr yng Ngwobrau Bwyd a Diod 2007/08 Gwir Flas Cymru yn gynharach yn y mis.

Hefyd yn cymryd rhan mae’r Cwmni Wisgi Cymreig sy’n gwneud amrywiaeth o wirodydd yn cynnwys Wisgi Cymreig Brag Sengl Penderyn; Toffoc, cynhyrchwyr fodca taffi o Ynys Môn; Siwgr a Sbeis, pobwyr o Lanrwst; a The Patchwork Traditional Food Company, cynhyrchwyr pate o Ruthun.

Bydd y chef enwog Melfyn Thomas yn rhoi arddangosiad coginio yn y digwyddiad a gynhelir rhwng 11am a 1pm yn stôr Spar yn Stryd yr Eglwys y Trallwng.

“Rydym yn falch i fedru rhoi cyfle i gwsmeriaid i flasu cynnyrch lleol a rhanbarthol ac i flasu bwydydd a diodydd gwych o Gymru,” meddai Owen Davies, rheolwr rhanbarthol Spar.


Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 4 December 2007