Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Ffagots gyda stwnsh pys a mint caws wedi?i ffrïo?n ddwfn gydag eirin
wy organig wedi?i ferwi
Article title

Gwyl Siocled Nefolaidd yn lledaenu naws yr wyl

Full article

Bydd siocledgarwyr yn anelu i Landeilo'r mis nesaf ar gyfer yr wyl Siocled, Pwdin a Hufen Iâ Nadolig  (Tachwedd 20-24).

Dyma’r trydydd tro i Heavenly, cwmni arbenigol mewn hufen iâ a melysfwydydd gynnal ei ddathliad tymhorol, ond eleni bydd yr holl dref yn ymuno i wneud Llandeilo'r man i fod ar gyfer bwyd ac adloniant gyda naws yr wyl.

“Rydym wedi codi gêr yr wyl, gan ei gwneud yn ddigwyddiad cymunedol go iawn,” meddai Tracey Kindred, sy’n rhedeg ‘Heavenly’ a hefyd Gwesty a Bistro’r Angel drws nesaf gyda’i gwr Paul.

“Am y ddwy flynedd ddiwethaf, cawsom ein siocledi gan lawer o gyflenwyr safon uchel, ond eleni byddaf yn gwneud detholiad mawr o siocledi ecsliwsif fy hunan, na fyddant ar gael unrhyw le arall,” meddai Tracey, a gymhwysodd mewn gwneud siocled - yn cynnwys arloesedd dylunio a cherflunio - yn Academi Siocled Callebaut yn Banbury, Swydd Rhydychen.

Ymysg y danteithion siocled ar gael fydd addurniadau coeden, sanau Santa enfawr a dynion eira siocled gwyn - wedi eu haddurno a’u llaw a’u gorffen gyda neges i’w dewis gan y cwsmer. Hefyd ar gael i’w archebu fydd y canolbwynt eithaf i fwrdd yr wyl, coeden Nadolig siocled 3D, 21” o uchder wedi’i gorffen mewn aur neu arian.

“Byddwn yn cynnal dosbarthiadau ar siocled yn cynnwys hanes siocled a chyfle i flasu siocled couverture a siocled un tarddiad o wledydd y cyhydedd, ynghyd â pharu siocledi gyda bwydydd anarferol”.

Mae ‘Heavenly’ wedi ennill gwobr aur y Gwir Flas, ac mae’n adnabyddus am greu hufen iâ unigryw a neilltuol mewn ‘labordy’ arbennig ar y safle lle medrant greu unrhyw flas a ddymunir gan y cwsmer o gael dim ond 48 awr o rybudd.

“Bydd gennym rai o’r blasau a oedd yn llwyddiannus iawn y llynedd megis Aur, Thus a Myrr, Sorbet Gwin Cynnes a Phwdin Nadolig, ac rydym wedi ychwanegu rhai arall eleni ar gyfer rhai o’n cwsmeriaid sydd yn hoffi arbrofi - Siytni Nadolig Sbeislyd neu Dwrci a Saws Llugaeron. Mae’r blas melys a sur yn mynd yn rhyfeddol o dda gyda’i gilydd.”

Bydd y dewis mawr o bwdinau a theisennau yn cynnwys un ar gyfer y rhai sy’n hoffi teisen gyfoethog drwchus ond nad ydynt yn hoffi ffrwythau. Mae’r deisen yn seiliedig ar siocled ac yn cynnwys bisgedi bara byr Heavenly a diliau mêl.

“Rydym wrth ein bodd yn rhoi cyfle i ymwelwyr brofi ein cynnyrch ac eleni bydd pobl hefyd yn cael cyfle i gynnig eu pwdin Nadolig eu hunain mewn cystadleuaeth blasu pwdin a gaiff ei chynnal gan siambr fasnach Llandeilo fel rhan o wyl Synhwyrau Llandeilo sy’n rhedeg wrth ochr ein gwyl siocled,” ychwanegodd Tracey.

MANYLION: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

NODIADAU I’R GOLYGYDD

I gael mwy o fanylion am gynnyrch a digwyddiadau yn ystod yr wyl cysylltwch â:

Heavenly
Ty Llundain
Stryd Rhosmaen
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 6EN
Ffôn: 01558 822 800
Cyswllt: Tracey Kindred
Gwefan: www.heavenlychoc.co.uk

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 25 October 2007