Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Bara lawr ffres gyda lemon Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Bara lawr ffres gyda lemon
Article title

Tesco yn dewis Hurns magic lager yn enillydd rhanbarthol Cymru 2008

Full article

Mae cwmni bragdy The Hurns Brewing Company o Abertawe yn dathlu ar ôl i’w Magic Lagyr potel gael ei ddewis yn enillydd rhanbarth Cymru Tesco 2008 o blith cwrw potel newydd Cymru.

Bu’r beirniaid yn cynnwys panel o arbenigwyr y diwydiant a gohebwyr bwyd blaenllaw wrth eu gwaith yn gynharach eleni ar ran Gwobrau Diodydd blynyddol archfarchnad Tesco a chynhaliwyd y seremoni ei hunan yn y Kensington Roof Gardens yn Llundain ddydd Gwener diwethaf (19 Hydref).

“Rydym wrth ein bodd. Clywsom y newyddion pan oeddem yn Las Vegas yng nghonfensiwn Cymdeithas Genedlaethol Cyfanwerthwyr Cwrw America. Ni oedd yr unig fragdy o Gymru yn y digwyddiad, a bu David Campbell ein prif fragwr, yn diwtor mewn nifer o sesiynau blasu llwyddiannus iawn yno ar arddulliau cwrw Prydeinig ar gyfer ein cefndryd ‘Americanaidd’”, meddai Connie Parry, sy’n gydberchen Hurns gyda’i brawd Philip.

“Roedd clywed am y wobr bwysig gan Tesco yn benllanw gwych i wythnos lwyddiannus iawn ac roedd llawer yn dathlu gyda ni yn Vegas. Gwnaeth y wobr argraff fawr ar ein cwsmeriaid yno gan eu bod yn gwybod yn iawn am y proffil uchel sydd gan Tesco ym Mhrydain.”

Dim ond ers mis Ebrill y mae’r eleni y mae’r cwmni teuluol yn cynhyrchu Magic Lagyr, ar ôl blwyddyn gron o dreialon bragu. Bu’n ychwanegiad llwyddiannus iawn i amrediad presennol y bragdy o gwrw gwobrwyol a gynhyrchir dan frand Tomos Watkin.

Gwneir Magic Lagyr o hopys o’r Almaen, barlys brag o Loegr, burum o Ddenmarc a d?r pur o Gymru, ac mae’n rhagorol am dorri syched gyda’i flas  crisp a glân, ac mae’n cydfynd yn ardderchog gyda amrywiaeth o brydau bwyd.

Dyma’r 15fed tro y cynhaliwyd Gwobrau Diodydd Tesco, a dyma’r un fwyaf eto gyda dros 400 o gynnyrch - y cyfan heb erioed eu rhestru ar lefel genedlaethol.

Dywedodd Dan Jago, Cyfarwyddwr Categori Cwrw Gwinoedd a Gwirodydd Tesco: “Mae Tesco yn ymroddedig i ddod â chynnyrch newydd a chyffrous i’r farchnad. Mae diodydd gwych yn haeddu lle ar y silffoedd a chyfle i gyrraedd y defnyddwyr ym Mhrydain, a dyma’n union nod y  Gwobrau hyn.”

Ers achub bragdy Tomos Watkin yn 2002, mae Hurns wedi mwynhau llawer iawn o lwyddiant yn y byd bragu, yn cynnwys dwy wobr Gwir Flas Cymru am ei gwrw potel a nifer fawr o wobrau CAMRA (‘Campaign for Real Ale’) am ei gwrw casgen.

Mae pum math o gwrw potel yn amrediad Tomos Watkin ar hyn o bryd yn ogystal â seidr cynyddol boblogaidd Taffy Apples, a nifer o fathau tymhorol o gwrw casgen megis Cwrw Haf, Cwrw Santa a Dewi Sant.

Fel canlyniad i’r ymweliad i Las Vegas, mae Hurns ar fin anfon ei archeb gyntaf o gwrw i’w mewnforwyr newydd yn yr Unol Daleithiau, yn dilyn cytundeb gyda St Killian, dosbarthydd diodydd o Boston, ac adroddiad rhagorol o’r ‘Beer Advocate’, cyfeiriadur awdurdodol cwrw yn America.

“Mae’n amser cyffrous iawn i ni. Roedd ein contract cyntaf am ddosbarthu yn yr Unol Daleithiau ar gyfer 12 talaith ond mae’r contract newydd yn golygu y caiff ein cwrw ei werthu ar draws America ym mhob un o’r 50 talaith mewn adwerthwyr annibynnol, bwytai a siopau delicatesen ac yn awr gobeithio y bydd y wobr hon gan Tesco yn arwain at bresenoldeb llawer mwy i ni yma gartref hefyd”, meddai Connie.

“Bu’n llawer o waith caled a chawsom gefnogaeth wych gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd, drwy ddigwyddiadau megis dathliadau G?yl Dewi yn Efrog Newydd, wedi’n galluogi i gael sylw i’n cwrw yn America”.

Mae’r tîm o frawd a chwaer, gorwyrion sefydlydd gwreiddiol y busnes, wedi adeiladu cwmni sylweddol. Fe wnaeth eu profiad a’u penderfyniad achub bragdy Tomos Watkin pan wnaethant ei brynu bum mlynedd yn ô, ddiogelu a chreu swyddi.

Ar droad y ganrif roedd y cwmni yn cynhyrchu lemonêd, cwrw sinsir, d?r soda a diodydd ffrwythau. Caiff eu poteli pop a charreg gwreiddiol eu harddangos yn yr amgueddfa leol.

MANYLION: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

NODIADAU I’R GOLYGYDD

Llun: Hurns yn derbyn y wobr.
(Chwith i’r Dde)  Dan Jago, Cyfarwyddwr Cwrw Gwionedd a Gwirodydd Tesco; David Campbell, Prif Fragwr Hurns; a Philip Parry, cyd-berchennog Hurns.

I gael gwybodaeth bellach am y cwmni cysylltwch â

The Hurns Brewing Company
The Kingsway
Stad Ddiwydiannol Fforestfach
Abertawe
SA5 4DLKingsway,
Cyswllt: Connie Parry
E-bost: beer@hurns.co.uk
Ffôn: 01792 560020
Gwefan: www.hurnsbeer.co.uk

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 26 October 2007