Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Caws Pob Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Cebabau oen Cymreig
Article title

Blaslaeth organig Trioni yn dod a 'Daioni' i blant ysgol

Full article

Bydd blaslaeth organig Trioni Cyf, yr hufenfa o Sir Benfro, ar gael o hyn ymlaen i blant ysgol yn Ne Cymru. Mae’r blaslaeth eisoes yn boblogaidd iawn ymhlith chwaraeon rygbi a phêl-droedwyr blaenllaw.

Caiff Trioni ei gynnwys yn y contract fframwaith ar gyfer y Consortiwm Pwrcasu Cymreig - sy’n ymdrin â phrynu ar gyfer awdurdodau unedol ledled De Cymru - a bydd blaslaeth organig Daioni a gynhyrchir gan y cwmni ar gael i ysgolion ledled Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ac mae’n bosibl y caiff ei ddefnyddio gan bob un o’r 12 cyngor.

“Rydym wrth ein bodd i fod wedi ennill y tendr hwn i gyflenwi cynnyrch Daioni i ysgolion yn ardal y Consortiwm Pwrcasu Cymreig. Cafodd y cynnyrch eu datblygu i roi diodydd iach a maethlon i bobl ifanc”, meddai Laurence Harris, cyd-sefydlydd a rheolwr gyfarwyddwr Trioni.

“Aiff cryn dipyn o waith i baratoi tendrau ar gyfer y sector cyhoeddus ac mae’n galonogol y gall cwmnïau bach fel ni gystadlu yn y farchnad yma. Rwy’n teimlo fod ethos caffaeliad cyhoeddus yn newid tuag at werth am arian yn nhermau cynnyrch iach a chyrchu lleol, ac mae cyfleoedd ar gael ar gyfer busnesau bach i gyflenwi tendrau a bod yn llwyddiannus.”

Datblygodd y busnes ffermio teuluol ei amrediad Daioni o flaslaeth organig yn lle’r diodydd llawn siwgr sydd ar gael fel arfer i blant, a chafodd ei lansio yn 2003. Cynhaliwyd y treialon blasu dechreuol mewn ysgolion yn Sir Benfro.

Mae’r diodydd yn isel mewn braster heb unrhyw liwiau artiffisial neu gadwolion ac ar gael mewn pedwar blas - siocled, mefus, banana, a llugaeron a mafon cochion.

Dywedodd Richard Leake, Uwch Swyddog Caffaeliad y Consortiwm Pwrcasu Cymreig: “Mae’r Consortiwm Pwrcasu Cymreig yn ddiweddar wedi sefydlu contract fframwaith newydd ar gyfer cyflenwi diodydd meddal sy’n rhoi amrediad helaeth ar bris cystadleuol o ddiodydd i’r awdurdodau sy’n aelodau o’r Consortiwm. Mae’r diodydd hyn yn cynnwys llawer o opsiynau ‘iachach’ megis dŵr mwynol, sudd a blaslaeth isel mewn braster a siwgr.

“Rwy’n hapus iawn i ddweud fod Trioni Cyf o Sir Benfro wedi llwyddo i gael eu cynnwys ar y fframwaith ar gyfer blaslaeth organig Daioni ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Trioni i hyrwyddo eu diodydd llaeth o fewn awdurdodau De Cymru.”

Mae’r cwmni wedi derbyn cymorth o wahanol fathau ac mae’n cymryd rhan yng nghynllun Marchnata Gwir Fwyd a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Undeb Rygbi Cymru a nifer o glybiau rygbi blaenllaw a chlwb pêl-droed Tottenham Hotspur ymhlith defnyddwyr rheolaidd Daioni.

Cafodd y Daioni mefus fedal aur yn ddiweddar yng ngwobrau Great Taste 2007, ac mae’r blas siocled yn rownd derfynol gwobrau ‘Rhagoriaeth mewn Bwyd a Diod’ yn 2007. Roedd deuddeg o blant ar y panel beirniadu ar gyfer y wobr a chyhoeddir enwau’r enillwyr ym mis Tachwedd.

Mae Daioni ar gael ledled Prydain mewn siopau bwyd da, caffes a bwytai a hefyd yn siopau Tesco a Morrison, ac yn fwy diweddar siopau’r Coop, ledled Cymru. Mae’r ddiod hefyd ar gael yng Ngwlad Groeg, Malta a Cyprus ac mor bell ag Awstralia. Mae Trioni hefyd yn dosbarthu llaeth organig ffres ledled Cymru.

Manylion : Leigh Roberts (01656) 788336
e-mail: leigh@colemanroberts.co.uk

I gael manylion pellach am y cynnyrch, cysyllter â:

Trioni Cyf
Ffosyficer
Abercych
Boncath
Sir Benfro
SA37 0EU
Ffôn: 01239 682572
E-bost: teleri@trioni.com
Gwefan: www.trioni.com
Cyswllt: Teleri Thomas

 

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 29 October 2007