Bu gwneuthurwyr caws Cymru yn llwyddiannus iawn yn yr Wythnos Gaws Prydeinig gan ennill rhai o’r prif wobrau.
Cynigiwyd 867 o gawsiau gan 175 o wneuthurwyr caws, gyda 98 o’r cynigion o Gymru, ar gyfer y gwobrau blynyddol.
Aeth teitl Caws Gorau Cymru, a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Thlws Dougal Campbell i gaws Pantysgawn Organig a wneir gan Abergavenny Fine Foods. Fe enillodd y cwmni o sir Fynwy hefyd ddwy fedal aur a thair medal efydd am ei gawsiau.
“Mae’n anrhydedd i ennill gwobr er cof Dougal Campbell, un o wneuthurwyr caws enwocaf Cymru,” meddai Bryson Craske, Cyfarwyddwr Masnachol Abergavenny Fine Foods. “Mae hefyd yn dangos fod llawer iawn o grefftwyr yn gwneud caws yng Nghymru.”
Wrth gyfeirio at y cyfnod anodd sy’n wynebu ffermwyr a’r angen i ddefnyddwyr gefnogi cynnyrch o Gymru, dywedodd Mr Craske, “Mewn cyfnod pan mae prisiau llaeth yn codi’n gynt nag erioed a chynhyrchwyr yn mynd allan o fusnes, os yw caws i oroesi mae angen i bobl gydnabod gwir gost cynhyrchu a’u cefnogi.”
Ymysg enillwyr y gwobrau roedd Caws Ffermdy Teifi am ei gaws Teifi gyda Danadl Poethion a enwyd yn Caws Blas Ychwanegol Gorau. Fe enillodd y cwmni o Landysul hefyd fedalau aur, arian a dwy efydd. Enwyd Eurwen Richards, ymgynghorydd caws o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Berson Caws y Flwyddyn.
Y gwneuthurwyr caws eraill o Gymru a enillodd fedalau oedd: Caws Cenarth, The First Milk Cheese Company, Cwmni Caws Caerfyrddin, Llanboidy Cheesemarkers, Quirt Farm a Hufenfa Llandyrnog.
MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk
NODIADAU I’R GOLYGYDD
* Cyhoeddwyd y gwobrau blynyddol ddydd Gwener 28 Medi 2007
I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysyllter â:
Abergavenny Fine Foods
Parc Castle Meadows
Y Fenni
Sir Fynwy
NP7 7RZ
Ffôn: 01873 850001
E-bost: brysonc@abergavenny.uk.com
Cyswll: Bryson Craske
Caws Ffermdy Teifi
Glynhynod
Llandysul
Ceredigion
SA44 5JY
Ffôn: 01239 851 528
Cyswllt: John Savage-Onstwedder
E-bost: john@teificheese.com