Mae cwmnïau diodydd o Gymru yn paratoi i fynd i’r Almaen ar gyfer un o’r digwyddiadau masnach mwyaf yng nghalendr y diwydiant bwydydd a diodydd yn Anuga (13-17 Hydref).
Bydd pedwar o gynhyrchwyr diodydd: Drink Pac Cyf, Llanllyr Water Company, Radnor Hills Cyf a Ty Nant Spring Water Cyf, yn arddangos yn neuadd ddiodydd yr arddangosfa dan faner Busnes Rhyngwladol Cymru a Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cynhelir y digwyddiad bob yn ail flwyddyn yn Koeln Messe yn Cologne, ac mae’n un o’r arddangosfeydd pwysicaf i gwmnïau sy’n dymuno ymuno neu ehangu eu busnes allforio. Bu bron i 6,300 o gyflenwyr a mwy na 158,000 o wledydd o 156 o wledydd yn Anuga 2005.
Mae Ty Nant Spring Water Cyf wedi ychwanegu cynnyrch adfywio allanol i’w bortffolio a bydd yn dangos ei amrediad newydd o chwistrellau wyneb pur ac adfywiol ‘Ty Nant Replenish’. Wedi’i hysbrydoli gan y botel PET wobrwyol a gynlluniwyd gan Ross Lovegrove, mae chwistrellau wyneb Replenish ar gael mewn mathau glas, coch a chlir. Bydd y cwmni o Fethania hefyd yn dangos eu hamrediad o dd?r mwynol llonydd a phefriog, yn cynnwys d?r ffynnon TAU yn ei boteli chic a minimalaidd.
Bydd Radnor Hills Cyf o Drefyclo yn lansio eu brand newydd Aqua 50. Wedi’u gwneud o dd?r ffynnon pefriog o Gymru a sudd ffrwythau a dim arall, bydd Aqua 50 ar gael mewn tri blas: Lemon a Leim, Cyrens Duon ac Afal a Ceirios a Chyrens Cochion. Mewn poteli 330ml, cynlluniwyd Aqua 50 fel diod iach ar gyfer torri syched a heb ychwanegion na siwgr.
Bydd Llanllyr Water Company o Dalsarn, sy’n cynhyrchu d?r ffynnon naturiol pur Source, yn arddangos ei fathau llonydd a phefriog sydd ar gael mewn poteli gwydr 750ml a 330ml.
Bydd Drink Pac Cyf o Ogledd Cymru yn arddangos ei amrediad o ddiodydd yn cynnwys diodydd llyfn Huckleberry, diodydd isel mewn calorïau Slim Life sy’n cymryd lle prydau bwyd, a llaeth oes hir. Mae’r cwmni o Lannau Dyfrdwy hefyd â chontractau i bacio amrywiaeth eang o gynnyrch ar gyfer llawer o adwerthwyr a brandiau blaenllaw.
Bydd gan Busnes Rhyngwladol Cymru hefyd stondin yn y neuadd fwydydd lle bydd gwybodaeth ar gael ar lu o gwmnïau bwydydd a diodydd Cymru a’u cynnyrch.
Bydd cyfle i flasu rhai o’r cynnyrch bwyd a diod gorau o Gymru sydd eisoes ar gael dramor ar y stondin dan ofal yr ymgynghorydd bwyd Jo Roberts.
MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk
CWMNÏAU’N ARDDANGOS DAN FANER Y GWIR FLAS
I gael gwybodaeth bellach am gynnyrch cysylltwch â:
Drink Pac Cyf
Uned 36
1st Avenue
Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
Glannau Dyfrdwy
CH5 2NU
Cyf: 01244 289001
E-bost: peter.quinn@drinkpac.com
Gwefan: www.drinkpac.com
Cyswllt: Peter Quinn
Llanllyr Water Company
Talsarn
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 8QB
Ffôn: 01570 470788
E-bost: patrick@llanllyrwater.com
Gwefan: www.llanllyrwater.com
Cyswllt: Patrick Gee
Radnor Hills Mineral Water Company Cyf
Heartsease
Trefyclo
Powys
LD7 1LU
Ffôn: 01547 530220
E-bost: sales@radnorhills.co.uk
Gwefan: www.radnorhills.co.uk
Cyswllt: Penny Butler
Ty Nant Spring Water Cyf
Bethania
Llanon
Ceredigion
SY23 5LS
Cyf: 01974 272111
E-bost: info@tynant.com
Gwefan: www.tynant.com
Cyswllt: Laura Dodds