Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Pastai filo sbiboglys a chaws Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr
Caws llaeth gafr wedi?I bobi
Article title

Cynhyrchwyr Cymru yn anelu i lenwi silfffoedd archfarchnad

Full article

Medrai’r amrediad o fwydydd a diodydd o Gymru sydd ar gael ar silffoedd archfarchnad gynyddu gyda chynhyrchwyr o bob rhan o Gymru yn mynychu digwyddiad arbennig i brynwyr yr wythnos nesaf.

Bydd cynrychiolwyr o Asda yn cwrdd ddydd Mawrth (13 Tachwedd) gyda chynhyrchwyr yng Ngwinllan Llanerch ym Mro Morgannwg i drafod cyflenwi’r archfarchnad.

Trefnwyd y cyfarfod gan Levercliff fel rhan o gynllun adwerthu ‘Mynd am Dwf’ Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n helpu cynhyrchwyr i gyflawni anghenion adwerthwyr mawr.

Bydd pum cyflenwr presennol yn ymuno â deg darpar gyflenwr sy’n dymuno ehangu eu hamrediad, a byddant yn cwrdd â Mark Townsend, Prynwr Rhanbarthol Asda a Wendy Hey, Rheolwr Technegol Asda.

“Rydym yn edrych ymlaen at ein cyfarfod a dysgu mwy am yr amrediad o gynnyrch sydd ar gael o Gymru,” meddai Mark Townsend.

Ychwanegodd, “Yn wir, os oes unrhyw gynhyrchwyr yng Nghymru sy’n teimlo y byddent yn hoffi cyflenwi Asda yn y dyfodol, medrant anfon eu manylion ataf yn ein stôr yn Heol Llewelyn yng Nghwmbran.”

Ymysg y cyflenwyr newydd sy’n gobeithio ennill busnes mae Kid me Not o Dalyllychau ger Llandeilo sy’n cynhyrchu melysfwydydd a chaws llaeth gafr a Baraka Foods o Pentre gydag amrediad o asennau barbiciw wedi eu coginio ymlaen llaw.

Mae’r cyflenwyr presennol sy’n dymuno ehangu eu hamrediad cynnyrch yn Asda yn cynnwys Welsh Cottage Cakes o Landeilo, sy’n cyflenwi Bara Brith i’r archfarchnad ar hyn o bryd, a Llaeth y Llan sy’n cyflenwi rhan fach o’u hamrediad helaeth o iogwrt.

Mae nifer o gynhyrchwyr o Gymru sy’n cyflenwi Asda yn mynd drwy’r dosbarthwyr Castell Howell Foods Cyf sydd yn ddiweddar wedi agor eu canolfan ddosbarthu newydd yn Cross Hands.

Yn cychwyn yr wythnos nesaf yn y cyfnod cyn y Nadolig, bydd Asda yn lansio 10 o linellau o Gymru ar gyfer y Nadolig sy’n cynnwys amrediad helaethach o Parsons Pickles, pecyn rhodd ganThe Hurns Brewing Company, pwdin Nadolig Cymreig gan Baron Patisserie, a hamper o fwyd Cymreig.

MANYLION: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk


Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 8 November 2007