Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau Crempog Cocos
Pesto Caws
Article title

Bwyta Allan Yng Nghymru 2005

Full article

Penodwyd Simon Wright yn olygydd rhifyn 2005 Bwyta Allan yng Nghymru. Mae’n arwain tîm o arolygwyr i baratoi ail rifyn y llawlyfr fydd yn cynnwys 150 o’r lleoedd gorau i fwyta yng Nghymru.

Cyhoeddir y llawlyfr gan Awdurdod Datblygu Cymru gyda’r nod o dynnu sylw’r cyhoedd at y lleoedd gorau i fwyta yng Nghymru ac i roi hwb pellach i safonau ym mwytai Cymru.

Mae Simon yn byw yn Sir Gaerfyrddin, a bu’n olygydd yr AA Restaurant Guide ac mae’n awr yn gweithio fel ysgrifennwr bwyd ac ymgynghorydd ar ei liwt ei hun. Yn fwyaf ddiweddar bu’n gweithio fel ymgynghorydd bwyty ar gyfres Channel 4, Ramsay’s Kitchen Nightmares,

Dywedodd, “Rwy’n credu y dylid llongyfarch y WDA am ei weledigaeth yn deall rôl llawlyfr da, wedi ei arolygu’n annibynnol, wrth gyfrannu at iechyd y diwydiant bwytai yng Nghymru. Byddwn yn gweithio’n galed i adeiladu ar lwyddiannau llawlyfr 2004 ac i gryfhau hygrededd y llyfr ymhellach gyda’r cyhoedd a gyda’r diwydiant fel ei gilydd.”

Mae tîm o arolygwyr bwytai profiadol Simon wrthi’n cynnal dau gant o arolygiadau anhysbys ar gyfer rhifyn 2005 y llawlyfr, a lansir ar 19 Tachwedd 2004 yng Ngwobrau Bwyd a Diod y Gwir Flas 2004 yn y Celtic Manor, Casnewydd.

Bwyta Allan yng Nghymru - Meini Prawf ar gyfer 2005

Yn dilyn rhifyn cyntaf Bwyta Allan yng Nghymru yn 2004, adolygwyd a diwygiwyd y system dyfarniadau ac ychwanegwyd lefel dyfarniad ychwanegol o Seren Aur ar gyfer 2005. Mae cyflwyno’r lefel dyfarniad Seren Aur yn caniatáu ymestyn y cynllun, gan wneud y lefelau dyfarniad yn fwy eglur i ddefnyddwyr a rhoi cyfle mwy realistig o ddyrchafiad i’r bwytai eu hunain.

Yn 2004 cafodd y rhan fwyaf o sefydliadau ddyfarniad aur a fedrai ddrysu defnyddwyr gan ei fod yn cynrychioli safon eang iawn o fwytai. Bydd y meini prawf diwygiedig ar gyfer pob lefel yn help i ddatrys hyn a bydd hefyd yn gwella’r rhagolygon ar gyfer bwytai yn anelu i gyflawni dyfarniad uwch.

Y Meini Prawf

Mae’r brand Gwir Flas yn dathlu Cymru fel cartref diwylliant bwyd modern. Fe’i hadeiladwyd ar ddilysrwydd, purdeb ac ansawdd a’i werthoedd brand yw integriti, arbenigedd, naturioldeb a phleser. Yn gyffredinol, dylai bwytai Bwyta Allan yng Nghymru gyfnerthu neges y Gwir Flas a chynnig profiad pleserus i ddefnyddwyr.

Efydd: Caiff cynhwysion eu dewis yn ofalus ar gyfer ansawdd gyda phwyslais ar ddefnyddio cynnyrch lleol ffres. Gyda mân eithriadau caiff y rhan fwyaf o elfennau’r pryd eu cynhyrchu yng nghegin y sefydliad ei hun. Caiff sgiliau technegol, amseriad, sesno a chydbwyso blasau eu trafod mewn modd cymwys. Caiff seigiau eu cyflwyno yn ofalus. Bydd gwasanaeth yn brydlon a brwdfrydig.

Arian: Bydd y gegin yn arddangos ymrwymiad clir i gael a defnyddio’r cynhwysion ffres gorau oll gyda phwyslais ar gynnyrch tymhorol lleol. Gydag ychydig iawn o eithriadau, caiff holl elfennau y pryd eu cynhyrchu yng nghegin y sefydliad ei hun. Bydd sgiliau technegol, amseriad, sesno a chydbwyso blasau yn gyson gywir. Bydd dealltwriaeth amlwg o dechnegau clasurol. Caiff seigiau eu cyflwyno gyda gofal a sgil. Bydd gwasanaeth yn sylwgar, gwybodus a brwdfrydig.

Aur: Bydd sefydliadau yn arddangos ymroddiad i gyrchu’r cynhwysion gorau sydd ar gael gan roi sylw amlwg i natur dymhorol a chanfod y cynnyrch lleol gorau. Mae’n debygol y bydd holl elfennau y pryd wedi eu cynhyrchu yng nghegin y sefydliad ei hun yn cynnwys stociau a patisserie. Bydd sgiliau technegol, amseriad, sesno a chydbwyso blasau yn fanwl gywir. Bydd elfen o arloesedd ac arddull goginio neilltuol. Bydd y gwasanaeth yn broffesiynol, gwybodus a brwdfrydig.

Seren Aur: Bydd y coginio o’r safon uchaf un sydd ar gael yng Nghymru a bydd yn cymharu’n ffafriol gyda safonau yn y sefydliadau gorau ym Mhrydain yn gyffredinol ac yn fwy eang yn Ewrop. Bydd chefs yn ymroddedig i gyrchu’r cynhwysion ansawdd uchaf sydd ar gael yn y farchnad ac yn debygol o ddefnyddio cynhwysion lleol o’r safonau rhyngwladol gorau oll. Mae’n annhebyg y bydd y ceginau hyn yn prynu unrhyw gynnyrch o gwbl wedi’i baratoi ymlaen llaw. Bydd sgiliau technegol, amseriad, sesno a chydbwyso blasau yn ddifai. Bydd y coginio yn wybodus, arloesol ac esblygedig iawn o ran arddull. Bydd safonau gwasanaeth yn gyfartal â’r hyn a gynigir yn sefydliadau bri uchaf ym Mhrydain.

Manylion pellach: Menna Evans, 01686 613175 neu Mandi Wilson, 02920 828986

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 7 September 2004