Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau wy organig wedi?i ferwi
Caws llaeth gafr wedi?I bobi
Article title

'Gwnaethpwyd yn America' - Cynhyrchydd pate o Gymru yn agor yn yr Unol Daleithiau

Full article

Mae’r cwmni cynhyrchu pate o Gymru, The Patchwork Traditional Food Company, wedi cychwyn cynhyrchu ar draws yr Iwerydd mewn symudiad y mae’n gobeithio fydd yn cychwyn perthynas hir gyda defnyddwyr yn America.

Aeth y cwmni o Ruthun a’i gynnyrch i farchnad America am y tro cyntaf yn Fancy Food Fair Efrog Newydd yn 2005. Mynychodd dan fantell baner Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’i cyflwynwyd i Marlin Grimes, arbenigydd ar pâté ac ymgynghorydd i Savoury Connections, Pennsylvania.

“Mae Pennsylvania yn lle gwych i gwmni o Gymru fod yn seiliedig gan fod presenoldeb mawr iawn o Gymru yn yr ardal, ac mae diddordeb America yng Nghymru yn tyfu,” meddai Marcus Carter, Cyfarwyddwr Gwerthiant Patchwork (a mab y sefydlydd).

Mae cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau yn ddilyniant naturiol i’r cwmni a lansiodd ei pâté i farchnad bwydydd oeredig America y llynedd.

“Nid yw’r Unol Daleithiau yn caniatáu i gig crai gael ei fewnforio i’r wlad, felly rydym wedi cyrchu ein cynhwysion yn America”, meddai Marcus. “Er bod y cynhwysion yn dod o America, caiff ein pâté ei wneud yr un rysáit ag a ddyfeisiodd fy mam yng Nghymru.

“Rydym yn defnyddio iau cywion organig a menyn i greu pâté lled-fras sydd yn annhebyg i unrhyw un arall ar y farchnad. Mae ganddo flas cyfoethog a llawn, ac mae cwsmeriaid sy’n ei brynu unwaith bob amser eisiau mwy.”

Gwneir y pâté yn America gan Rick a’i dîm yn Savoury Connections yn Sellinsgrove, Pennsylvania i’r un safonau uchel â’r tîm yn Rhuthun.

Wedi’i frandio fel ‘Welsh Country Style Pâté’, mae’r amrediad yn cynnwys: Iau Cyw Iâr, Pâté Brandi a Pherlysiau; Iau Cyw Iâr, Pâté Triple Sec & Oren; Pâté Iau Cyw Iâr, Tequila a Llugaeron; Pâté Cyw Iâr, Bourbon a Mafon Glesion; Pâté Cyw Iâr, Madarch a Garlleg a Pâté Draig Goch (iau cyw iâr gyda chilli).

“Bydd ein pâté ar gael ar draws Gogledd America, ac rydym yn edrych ar farchnadoedd posibl yng Nghanada.”

Cafodd pâte Patchwork ei werthu ar brawf mewn siopau yn Efrog Newydd megis Eli’s Manhattan, Westerly Natural Market, Forages Market yn Brooklyn a River City Cellar yn Richmond VA.  Bu ymateb cwsmeriaid hyd yma yn anhygoel. Mae Patchwork yn awr yn dymuno gweithio gyda dosbarthwyr ar draws America i gyflenwi siopau gourmet a neuaddau bwyd a siopau arbenigol eraill.

Ym mis Medi cafodd detholiad o pâté Patchwork ei weini yn adeilad hanesyddol Harriton House yn Philadelphia pan agorwyd arddangosfa ‘Keeping up with the Joneses - the Story of Wales and the Welsh in the USA’  Llywodraeth Cymdeithas a Chymdeithas Harriton.

Mae Harriton House yn un o’r tai hynaf sy’n dal i sefyll yn America. Fe’i hadeiladwyd gan y Crynwr Rowland Ellis yn 1704. Enw gwreiddiol y t? oedd Brynmawr.

Dywedodd Marcus, “Mae’r ymateb a’r diddordeb a gawsom gan Americaniaid a’r gymuned o Gymry alltud yma wedi bod yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at fynd â’n pâté  i gynulleidfa ehangach fyth.”

Ffurfiwyd Patchwork yn 1982 gan Margaret Carter, mam i dri o blant a ddechreuodd wneud pâté  yn ei chegin fel modd o hybu incwm y teulu. Gan ddechrau gyda chyllideb ddechreuol o ddim ond Ł9 a gadwodd o arian cadw t?’r teulu, cynhyrchodd pâté ar gyfer bwyty cyfaill.

Chwarter canrif yn ddiweddarach mae gan y busnes gwobrwyol drosiant o tua Ł2 miliwn, ac mae’n cynhyrchu amrediad eang o pâté, pasteiod, prydau bwyd a thartenni oll wedi’u gwneud gyda llaw.

Mae rysetiau blaengar Patchwork wedi ennill llu o wobrau bwyd a busnes i’r cwmni yn cynnwys tlysau’r Gwir Flas a Great Taste. Ond mae ei ethos yn parhau'r un â phan gychwynnodd Margaret gyntaf, a chafodd ei hanrhydeddu yn ddiweddar am ei gwaith i ddiwydiant bwyd Prydain gyda Gwobr Llwyddiant Oes yng ngwobrau’r Great Taste.

Dim ond y cynhwysion gorau a ddefnyddir a chaiff seigiau eu gwneud yn fedrus â llaw ar sail unigol heb ddefnyddio ychwanegion na lliwiau artiffisial.


MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost sheila@colemanroberts.co.uk

I gael gwybodaeth bellach am y cwmni, cysyllter â:

The Patchwork Traditional Food Company
Llys Parcwr,
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1NJ
Ffôn: 01824 705832
E-bost: marcus@patchwork-pate.co.uk
Gwefan: www.patchwork-pate.com

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 25 September 2007