Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo wy organig wedi?i ferwi
Pesto Caws
Article title

Viva Las Vegas - Hurns yn mynd a blas ar Gmyru i'r Unol Daleithiau

Full article

Mae’r bragwyr The Hurns Brewing Company o Gymru ar ei ffordd i America lle bydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn un o ddigwyddiadau pwysicaf y diwydiant bragu byd-eang.

Bydd y cwmni o Abertawe yn cyhwfan y faner dros Gymru yn 70ain confensiwn a sioe fasnach Cymdeithas Genedlaethol Cyfanwerthu Cwrw (NBA) yn Las Vegas (30 Medi - 2 Hydref).

Bydd y cwmni teuluol ar ganol y llwyfan yn y digwyddiad, a fydd yn cynnwys mwy na 250 o arddangoswyr drwy arwain dosbarth meistr ar arddulliau cwrw Prydeinig.

Bydd David Campell, Prif Fragiwr Hurns, yn cynnal sesiynau tiwtorial blasu arbennig ar gyfer y digwyddiad fydd yn denu arbenigwyr cwrw a swyddogion o’r diwydiant diodydd o bob rhan o Gymru.

Dyma’r tro cyntaf i’r cwmni gymryd rhan yn nigwyddiad NBWA a dyma’r unig fragiwr o Brydain a wahoddwyd i gynnal y sesiynau blasu.

“Rydym wrth ein bodd. Yn ogystal â bod yr unig gwmni o Gymru sy’n arddangos yn Las Vegas, mae cael ein gwahodd i arwain y blasu yn wych,” meddai Connie Parry, sy’n gyd-berchen Hurns gyda Philip ei brawd.

Ers prynu’r bragdy yn 2002, mae Hurns - sy’n cynhyrchu cwrw casgen, cwrw botel a Magic Lagyr dan frand Tomos Watkin - wedi ennill nifer fawr o wobrau yn cynnwys Gwobrau’r Gwir Flas a CAMRA.

Mae pedwar math o gwrw potel yn amrediad Tomos Watkin ar hyn o bryd - ac maent hefyd yn cynhyrchu sawl math tymhorol o gwrw casgen megis Cwrw Haf, Cwrw Santa a Dewi Sant yn ogystal â seidr Taffy Apples a Magic Lagyr.

Gwnaeth cwrw Tomos Watkin ei ymddangosiad cyntaf yn America yn Chicago yn 2006. Caiff eu cwrw, seidr Taffy Apples a Magic Lagyr hefyd eu gwerthu yn siopau Tesco’s, Co-op, Spar, Sainsbury’s a llawer o siopau cadwyn eraill. Fe’u hallforir hefyd i Rwsia a Dubai.

“Mae ein tîm bragu a gwerthu penodol wedi gweithio’n galed i greu Tomos Watkin fel brand cydnabyddedig. Mae’n bleser bragu cwrw o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid ac rydym wrth ein bodd i fod yn chwarae rhan mor bwysig yng nghonfensiwn yr NBWA,” meddai Connie.

Mae’r tîm brawd a chwaer, sy’n or-wyrion i sefydlydd gwreiddiol y busnes, wedi adeiladu cwmni sylweddol. Fe wnaethant arbed bragdy Tomos Watkins drwy eu profiad a’u penderfyniad mawr ar ôl ei brynu bum mlynedd yn ôl, gan ddiogelu a chreu swyddi.

Ar droad y ganrif roedd y cwmni’n cynhyrchu lemonêd, cwrw sinsir, d?r soda a diodydd ffrwythau. Mae’r poteli pop a charreg gwreiddiol yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa leol.

Dywedodd Connie, “Rydym yn angerddol am Gymru ac yn ymfalchïo yn ein bragu, ac fel canlyniad wedi rhagori ar ein disgwyliadau gwerthiant. Cawsom gefnogaeth fawr gan Lywodraeth y Cynulliad, a diolch i’r daith werthiant masnach i Efrog Newydd i ddathlu Dydd G?yl Dewi a drefnwyd gan Busnes Rhyngwladol Cymru, fe wnaethom sicrhau contract sylweddol i fewnforio a dosbarthu ein cwrw i 50 talaith yn America.”

MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk

I gael gwybodaeth bellach am y cwmni cysylltwch â:

The Hurns Brewing Company
The Kingsway
Stad Ddiwydiannol Fforestfach
Abertawe
SA5 4DLKingsway,
Cyswllt: Connie Parry
E-bost: beer@hurns.co.uk
Ffôn: 01792 560020
Gwefan: www.hurnsbeer.co.uk

Cyhoeddwyd yr erthygl ar:

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 20 September 2007