Mae Gwynt y Ddraig, y cynhyrchydd seidr o Gymru, yn torri syched hyd yn oed mwy o bobl yn dilyn lansiad y brand yng nghadwyn tafarndai JD Wetherspoon.
Gwynt y Ddraig yw cynhyrchydd seidr mwyaf Cymru a gwelodd gynnydd o 196% mewn gwerthiant dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn eithriadol ar gyfer gwerthiant seidr ac mae’n dangos fod galw am seidr ansawdd uchel o Gymru yn hytrach na chynnyrch a gaiff ei farchnata ym mhobman”, meddai Bill George, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwynt y Ddraig.
Bydd yr ychydig fisoedd nesaf yn gyfnod neilltuol o brysur i’r cwmni sy’n cael y rhan fwyaf o’i ffrwythau o berllannau yng Nghymru.
“Yn ystod yr hydref, bydd ein casglwyr yn hel y ffrwythau yn y perllannau ac wedyn fydd ein hadeg prysuraf o’r flwyddyn gan fod yn rhaid gwasgu’r cyfan.”
Dywedodd Richard Bond, Rheolwr Ardal JD Wetherspoon: “Rydym yn falch iawn i gefnogi cynnyrch lleol safon uchel arall, sy’n ychwanegu at yr amrediad o gynnyrch Cymreig sydd ar gael yn nhafarndai JD Wetherspoon a bariau Lloyds No. 1 ledled Cymru.”
Ffurfiwyd Gwynt y Ddraig gan Bill George a’i nai Andrew Gronow, a dechreuwyd cynhyrchu seidr yn Fferm Llest yn Llanilltud Faerdref ger Pontypridd yn hydref 2001.
O’r ychydig gannoedd o alwyni cyntaf hynny, mae cynhyrchiant wedi cynyddu bob blwyddyn ac mae’r cwmni’n awr yn cynhyrchu dros 350,000 litr o seidr a wneir yn bennaf o afalau a dyfir yn Sir Fynwy yn ogystal â rhai o Swydd Henffordd a Gwlad yr Haf.
Mae’r cwmni’n cynhyrchu 15 o wahanol fathau o seidr a gellygwin a defnyddir tua 600 tunnell o afalau a gellyg i wneud yr amrediad drafft a photeli.
Yn addas ar gyfer llysieuwyr a feganiaid, maent oll wedi eu heplesu’n naturiol heb unrhyw siwgr ychwanegol neu felysyddion artiffisial.
Prynwyd y wasg seidr gyda chymorth Grant Prosesu a Marchnata Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chaiff yr afalau eu melino a’u pwyso a’u gwasgu ar y fferm cyn gadael y sudd afal i eplesu ac aeddfedu mewn casgenni derw. Cafwyd cymorth hefyd gyda’r dyluniad corfforaethol a llenyddiaeth.
Ni chynhyrchir gwastraff o’r seidr a’r gellygwin a gynhyrchir gan y caiff yr holl sgil-gynnyrch eu bwydo i fuchesi eidion y fferm o wartheg Henffordd a Belgian Blues.
Mewn cyfnod cymharol fyr, mae’r cwmni wedi llwyddo i ennill nifer fawr o wobrau gan Gymdeithas Gellygwin a Seidr Cymru a’r Ymgyrch Cwrw Go Iawn (CAMRA), gyda’u seidr ffermdy traddodiadol wedi ennill medal Aur i’r cwmni yn 2004, y cynhyrchydd seidr cyntaf o Gymru i dderbyn y wobr.
Dywedodd Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig: “Mae contract newydd Gwynt y Ddraig yn newyddion gwych ac unwaith eto wedi dangos y galw cynyddol yn y farchnad am gynnyrch bwyd a diod o Gymru.”
MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
Email: sheila@colemanroberts.co.uk
I gael gwybodaeth bellach am y cynnyrch cysyllter â:
Seidr Gwynt y Ddraig
Fferm Llest
Llanilltud Faerdref
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF38 2PW
Cyswllt: Bill George
Ffôn: 0779 1066240
E-bost: bill.george@gwyntcider.com
Gwefan: www.gwyntcider.com