Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod yn cychwyn ar raglen hyfforddiant newydd yr wythnos nesaf (2 Hydref) gyda’r nod o gael eu cynnyrch ar silffoedd yr archfarchnadoedd.
Datblygwyd y rhaglen ‘Ennill Busnes Newydd’ dan raglen ‘Mynd am Dwf’ Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n helpu cynhyrchwyr i ateb gofynion adwerthwyr mawr.
Gyda galw cynyddol gan ddefnyddwyr am fwyd a gynhyrchir yn lleol a rhanbarthol, felly hefyd mae’r cyfle i gynhyrchwyr llai i sicrhau troedle yn yr arena cyflenwi archfarchnadoedd.
Dywedodd Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig: “Mae’r nifer o gynnyrch o Gymru sydd ar silffoedd archfarchnad yn cynyddu drwy’r amser. Fodd bynnag, mewn marchnad mor gystadleuol mae angen i gynhyrchwyr fedru ateb gofynion prif adwerthwyr ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymroddedig i’w helpu i gyflawni eu nod drwy hyfforddiant a chefnogaeth.”
Dros y chwe mis nesaf bydd un ar ddeg o gynhyrchwyr o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai a sesiynau cynghori busnes un-i-un.
Cefnogir y rhaglen ‘Ennill Busnes Newydd’ gan bob un o’r archfarchnadoedd mawr, a fydd yn cymryd rhan yn y gwahanol gamau. Cynhelir y gweithdy cyntaf ddydd Mawrth nesaf (2 Hydref) wedi’i noddi gan Morrisons yn ei stôr yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd.
Mae’r rhaglen yn gweithio gyda’r cwmnďau ar feysydd yn cynnwys: yr hyn y mae’r prynwr adwerthu yn edrych amdano, dynodi cyfleoedd gydag adwerthwyr, sut i deilwra cynnyrch/datblygu cynnyrch newydd, sut i gael y cynnyrch i’r farchnad, sut i adeiladu perthynas hirdymor/gynaliadwy gydag archfarchnadoedd, a deall cymhelliant defnyddwyr.
Bydd y rhaglen, a gynlluniwyd gan Levercliffe ar ran Llywodraeth y Cynulliad, yn dod i ben gyda chyflwyniad i’w hadwerthwyr targed gan y cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan.
MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk