O fwrdd y gegin i lwyddiant byd-eang, mae gwaith Margaret Carter fel sefydlydd un o brif gwmnďau bwyd Cymru wedi ei anrhydeddu gyda Gwobr Llwyddiant Oes yng ngwobrau’r Great Taste.
“Mae derbyn y wobr hon yn anrhydedd fawr, ac rwyf wrth fy modd. Mae’n wych cael gwobr llwyddiant oes pan fyddwch yn fyw!”, meddai Margaret, a sefydlodd The Patchwork Traditional Food Company yn 1982.
Cafodd y cwmni ei greu allan o reidrwydd ariannol pan symudodd Margaret i Ogledd Cymru o Lundain gyda thri phlentyn ifanc. Fel rhiant sengl, edrychodd am ffyrdd o hybu incwm ei theulu, a dechreuodd wneud pate, gan lunio’r rysetiau yn ei chegin yn Llandegla, Sir Ddinbych.
Gan ddechrau gyda chyllideb o ddim ond Ł9 oedd wedi’i cynilo o’r arian cadw t?, gwnaeth pate i fwyty cyfaill. Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach ac mae’r busnes gwobrwyol yn allforio i bob rhan o’r byd gyda throsiant blynyddol o tua Ł2 miliwn.
“Fe wnes ddechrau gwneud cyffeithiau, ond wnaeth hynny ddim llwyddo felly fe wnaeth fy ffrind awgrymu fy mod yn rhoi cynnig ar wneud pate,” meddai Margaret.
“Doeddwn i erioed wedi gwneud peth o’r blaen ond fe es allan a phrynu iau cyw iâr a gwneud pate gyda Cointreau ac orenau.”
Roedd y pate yn llwyddiant mawr, a chynyddodd nifer y cwsmeriaid yn sydyn gydag adwerthwyr megis Owen Owen yng Nghaer yn rhoi archebion cyson.
“Fe wnaethom dyfu’r busnes yn gyntaf drwy werthu’n agos adref ac yna ehangu, mae’n ddull yr ydym wedi’i ddilyn ar draws Prydain a thu hwnt,” meddai.
Fodd bynnag mae Margaret yn cyfaddef ei bod yn ofnus iawn wrth hyrwyddo ei pates yn y dyddiau cynnar ac yn poeni na fyddai’n gwerthu.
Ond talodd ei sgiliau coginio a’i hysbryd mentrus ar ei ganfed ac mae Patchwork wedi tyfu’n sylweddol gan ennill nifer fawr o wobrau - yn cynnwys sawl Gwobr y Gwir Flas.
Ar hyd y ffordd mae Patchwork wedi derbyn amrywiaeth o gyllid gan gyrff cyhoeddus yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.
“Mae’r help a gawsom wedi bod yn wych, nid dim ond ariannol, rydym wedi cael mentora a chyngor o’r diwrnod cyntaf un. Bu i gyd mor bwysig i ni ac mae wedi’n helpu i dyfu a chyflawni cymaint ym mhob maes o’n busnes.”
Mae nifer y gwobrau a thlysau yn cynyddu bob blwyddyn, ac maent wedi ennill dros 100 o wobrau Great Taste a 20 o wahanol wobrau busnes. Yn eu plith mae tlws Cymraeg y Flwyddyn (busnes bach) a enillodd Margaret yn 1995 a theitl Allforiwr Bwyd Arbenigol y Flwyddyn 2003 Food from Britain, gyda Patchwork y cwmni cyntaf yng Nghymru i ennill y wobr.
Bu hefyd ganmoliaeth gweithle i’r cwmni yn cynnwys gwobr Cyflogydd y Flwyddyn (Cymru) Rhieni mewn Gwaith 2001.
“Rydym hefyd wedi ennill gwobr y Gwir Flas bob blwyddyn ers ei lansio yn 2002,” meddai.
Mae archebion allforio’r cwmni yn parhau i dyfu ac mae hefyd wedi dechrau gwneud ei pate yn yr Unol Daleithiau ar ôl cysylltu gyda chyd-baciwr yn Pennsylvania. Hefyd yn dilyn y Ffair Bwydydd Arbenigol a Da yn Llundain y bu Patchwork ynddi dan faner Gwir Flas Llywodraeth y Cynulliad Cymru yn ddiweddar, mae’r cwmni hefyd wedi cael troedle yn y Swistir a Canada.
Efallai fod y busnes wedi symud o gegin y teulu i safle 10,000 tr sg pwrpasol yn Rhuthun, ond mae ei ethos yn parhau'r un ag yr oedd pan gychwynnodd Margaret arni gyntaf - dim ond y cynhwysion gorau gaiff eu defnyddio a chaiff y seigiau eu coginio’n fedrus yn unigol heb ddefnyddio ychwanegion artiffisial.
Mae’r 40 o staff yn gweithio heb beiriannau awtomatig yn gwneud y pate a hefyd terinau, pasteiod, pestri sawrus, prydau a phwdinau gyda llaw.
“Os oes dwsin o quiches mewn sypyn, yna bydd deuddeg o fowlenni cymysgu gyda dwsin o beli o bestri a chynhwysion wedi eu pwyso’n unigol.”
Mae Patchwork bob amser wedi bod yn fenter deuluol gyda’i meibion Marcus a Rufus - a oedd yn Llysgennad y Gwir Flas yn 2004/05 - yn gyfrifol am redeg y cwmni o ddydd i ddydd.
“Mae gan fy mhlant yr un angerdd ac egni â fi ond gyda galluoedd 21ain ganrif, mae ganddynt ffocws rhyngwladol iawn a medrant fynd â’r cwmni i gynulleidfa hyd yn oed yn ehangach.”
MANYLION PELLACH: Sheila Coleman 01792 817532 / 07968 357474
E-bost: sheila@colemanroberts.co.uk
NODIADAU I’R GOLYGYDD
I gael gwybodaeth bellach am y cwmni cysyllter â:
The Patchwork Traditional Food Company
Llys Parcwr,
Stad Ddiwydiannol Lon Parcwr,
Rhuthun,
LL15 1NJ
Tel: 01824 705832
E-bost: info@patchwork-pâté.co.uk
Gwefan: www.patchwork-pâté.co.uk