Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
wy organig wedi?i ferwi Crempog Cocos
Hufen Iâ Bara Brith gyda Gwirod Hufen

Gwneud Caws

Gwneud Caws

Er mwyn gwneud caws, mae angen ceulo protein llaeth ac yna wahanu'r ceulion a'r maidd (y defnydd soled a'r hylif). Erbyn hyn, rydym yn deall mwy nag erioed am wyddoniaeth gwneud caws ond mae'r broses yn parhau'n dipyn o grefft. Ceir ryseitiau ar gyfer llu o fathau o gaws ond mae llawer yn dibynnu o hyd ar grefft y gwneuthurwr. Gall nifer o wahanol bethau effeithio ar y cynnyrch terfynol e.e. newidiadau yn y llaeth, y tymhorau, sut y mae'r meithriniadau'n ymddwyn, ac amodau'r broses aeddfedu. Un o'r pethau mwyaf difyr am wneud caws yw'r ffaith y gellir gwneud llu o wahanol fathau o gaws gan ddefnyddio'r un cynhwysion a'r un broses sylfaenol.