Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Ffagots gyda stwnsh pys a mint Caws Pob
Ffagots gyda stwnsh pys a mint

Gwneud Caws

Malu, Halltu a Mowldio

Caiff y ceulion eu malu â pheiriant neu, ar raddfa fach, gellir eu torri â llaw. Yna, ychwanegir halen a'i gymysgu ac yna wasgu'r ceulion i siâp. Ychwanegir yr halen i roi blas i'r caws, i atal rhagor o asid rhag ffurfio ac i wneud iddo gadw'n well. Gellir ychwanegu'r halen cyn mowldio'r caws neu ei rwbio i mewn i wyneb y caws ar ôl ei fowldio a'i gywasgu. Fel rheol, golchir caws Caerffili â dwr halen ond mewn rhai hen ryseitiau roedd halen sych yn cael ei gymysgu â'r ceulion. Caiff caws sydd heb ei ansoddi e.e. math Gouda ac Edam, ei halltu trwy ei fwydo mewn dwr halen ar ôl ei gywasgu. Mae'r ryseitiau'n amrywio llawer yn hyn o beth. Mae traddodiad, hwylustod trafod y caws terfynol, a'r math o gaws y bwriedir ei wneud oll wedi chwarae rhan wrth benderfynu ar siâp a maint y gwahanol fathau o gaws. Mae'r archfarchnadoedd a'r angen am ddarnau o gaws wedi'u pacio'n barod wedi arwain ag gynnydd yn y galw am flociau o gaws o bwysau penodol heb grofen. Mae'r offer modern a ddefnyddir i ffurfio blociau caws yn defnyddio gwactod i grynhoi'r ceulion yn hytrach na'r dulliau cywasgu traddodiadol. Mae hyn yn rhoi caws mwy dwys gydag ychydig neu ddim agoriadau mecanyddol fel y ceir mewn caws traddodiadol.

Gyda datblygiad dulliau cynhyrchu modern, ychwanegwyd dimensiwn newydd at ansawdd cawsiau ac mae hyn, ynghyd â'r adfywiad a gafwyd mewn dulliau cynhyrchu traddodiadol, yn golygu bod gan y cwsmer fwy o ddewis nag erioed.