Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
caws wedi?i ffrďo?n ddwfn gydag eirin Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion
Teisen lap

Gwneud Caws

Ansoddi

Proses o drafod y ceulion yn y cawslestr ar ôl tynnu'r maidd yw hon. Mae'r rhan fwyaf o gawsiau caled traddodiadol Cymru yn cael eu hansoddi. Ar ôl i'r ceulion wasgu at ei gilydd, caiff y caws ei dorri a'i droi, gan ei gadw'n gynnes a chaniatáu i'r bacteria a'r ensymau droi'r caws o fod yn friwsionllyd i fod yn galed a sidanaidd neu, ar gyfer rhai mathau, yn sych ac yn haenog. Mae'r gwneuthurwr yn cadw golwg yn rheolaidd ar asidrwydd a sychder y ceulion a'r newid yn eu hansawdd. Wrth amrywio'r nodweddion hyn, gellir penderfynu pa fath o gaws a wneir. Defnyddir proses o'r enw 'cheddaring' ar gyfer caws o fath Cheddar. Mae'r ceuled yn barod i gael ei falu pan fydd yn sidanaidd ac yn rhwygo'n hawdd, yn debyg ei ansawdd i frest cyw iâr.