Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
wy organig wedi?i ferwi Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Wyau pob organic

Y Trywydd Caws. Canolbarth Cymru

Merlin Cheeses
Tyn-y-Llwyn
Ystrad Meurig
Ceredigion

Tel: 01974 282636

Mae Caws Gafr Merlin wedi ei gynhyrchu ar y fferm gan Gill Pateman a'r teulu ers 1986. Datblygwyd Merlin gan ddefnyddio Llaeth Gafr pan ddatblygodd y ferch hynaf alergedd i laeth buwch.

Type of Cheese
Caws Llaeth Gafr Cheddar Merlin, wedi ei wasgu'n galed gan ddefnyddio llaeth amhasteuraidd, cwyr llysieuol ac wedi eu pacio dan wactod gyda chyfnod silff o 2 flynedd. Ar gael mewn dau faint 900g a 200g ac mewn 15 gwahanol fath: cymedrol aeddfed, olifau wedi mygu, cnau Ffrengig a garlleg a sifys, perlysiau, seleri, afal a bricyll, sinsir, garlleg a sinamon, pinafal, eirin gwlanog a phupur cymysg.

Availability
Ledled y wlad drwy gyfanwerthwyr caws, siopau bwyd a siopau caws arbenigol, hefyd ar gael drwy'r post.

Cyfeiriadau
Ewch ar ffordd yr arfordir allan o Aberystwyth tuag at Aberteifi. Yng ngorsaf gwasanaeth Southgate trowch i'r chwith ac yna'n syth i'r dde am Trawsgoed. Ddilynwch y ffordd am 8 milltir i Abermagwr. Trowch i'r chwith am Pont-rhyd-y-groes, trowch i'r dde dros y bont ac i mewn i'r pentref. Ewch heibio'r Miners Arms am 200 llath i ffordd un llwybr ar y chwith. Ewch ar ei hyd i ffermdy Tyn-y-Llwyn.