Logo Bwyd Cymru
Bwyd a diod Cymru.
Cyfrinach sy'n werth ei rhannu.
Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr Caws Pob
Fflowlyn wedi?i rostio gyda stwffin caws llaeth gafr a pherlysiau

Pant Mawr Farmhouse Cheeses
Pant Mawr Farm
Rosebush
Clynderwen
Pembrokeshire
SA66 7QU

Cawsiau Ffermdy Pant Mawr
David, Cynthia a Jason Jennings sy’n rhedeg busnes Cawsiau Ffermdy Pant Mawr, a sefydlwyd ym 1983, o’u fferm ar lethrau mynyddoedd y Preseli yn Rosebush, Sir Benfro. Dysgu eu hunain i wneud caws a wnaethant ac yn awr maent wedi datblygu eu ryseitiau eu hunain ar gyfer nifer o gawsiau traddodiadol blasus.  Datblygwyd Cawsiau Pant Mawr yn lleol, gan ddefnyddio llaeth o’r ardal.  Gwneir yr holl gawsiau â cheuled nad yw’n gynnyrch anifeiliaid a llaeth pasteureiddiedig 

Math o Gaws
Mae saith math o gaws Pant Mawr :-

Caws Cerwyn : Caws ysgafn, hufennog sydd â blas mwyn tebyg i gnau a menyn.

Caws Preseli : Caws meddal wedi’i aeddfedu gan lwydni, blas cyfoethog, ychydig yn siarp ac yn ffrwythus.

Caws Mwg Derw Cerwyn : Ceir iddo’r un ansawdd hufennog â chaws gwreiddiol Cerwyn, a sawr mwg ysgafn.

Cerwyn Aeddfed : Ansawdd tebyg i’r Caws Cerwyn gwreiddiol ond ei fod wedi’i aeddfedu am bump neu chwe mis.

Caws Ceuled Meddal Llaeth Buwch : Caws ceuled ffres, melys, di-halen, ag iddo ansawdd a blas mwyn.

Caws-y-Graig (Caws Llaeth Gafr : Caws llaeth gafr caled, sydd yn eithaf briwsionllyd ag iddo flas ychydig bach yn siarp.

Ceuled Meddal Llaeth Gafr : Blas ysgafn, meddal, di-halen, ag iddo adflas siarp.

 Ar gael
I archebu trwy’r post, ffoniwch: 01437 532627; I archebu dros y we, ewch i www.pantmawrcheeses.co.uk