Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
caws wedi?i ffrďo?n ddwfn gydag eirin Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Crempog Cocos

Y Llwybr Caws

Caws o Fath Gouda

Cawsiau Teifi

Mae amrywiadau bychain yn y rysáit yn arwain at nifer fawr o wahanol fathau o gaws. Mewn caws o fath Gouda, tynnir peth o'r maidd a rhoi dwr yn ei le ac felly fe'i gelwir yn gaws ceulion wedi'i olchi. Pan fydd y ceulion wedi'u gwasgu o dan y maidd dyfrllyd hwn, caiff ei dorri a'i fowldio. Nid yw'n cael ei ansoddi fel caws o fath Cheddar.

O ganlyniad, ceir caws hyblyg, mwyn ag iddo flas menyn. Mae rhai'n dweud ei fod yn debyg i blastig. Mae'r ansawdd yn wahanol i gawsiau traddodiadol Prydain ac yn debycach i gawsiau o gyfandir Ewrop. Wrth aeddfedu, mae'r caws yn magu gwahanol fathau o flasau cymhleth, yn enwedig os yw wedi'i wneud o laeth organig amrwd.

Yn aml, mae'r meithriniad cychwynnol ar gyfer y math hwn o gaws yn cynnwys bacteria sy'n cynhyrchu nwy. Mae hwn yn crynhoi yn y ceulion ac yn y caws wrth iddo aeddfedu, gan wneud tyllau bychain. Ychydig o'r cawsiau hyn sy'n cael eu lapio. Gadewir i'r grofen ffurfio'n naturiol ond, yn aml, caiff y caws ei lanhau a'i orchuddio â chwyr cyn ei werthu i'r siop neu i'r cwsmer.