Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Wyau pob organic Crempog Cocos
caws wedi?i ffrďo?n ddwfn gydag eirin

Y Llwybr Caws

Mozzarella - Dansco, Glanbia Llangefni

Mae caws Mozzarella traddodiadol yn gaws ceulion ffres sydd wedi'i ymestyn. Fe'i gwneir o laeth y byfflo dwr. Caiff y ceulion eu tylino mewn dwr poeth i roi'r ansawdd arbennig sy'n edrych fel brest cyw iâr wedi'i rolio. Caiff ei wneud yn beli maint llaw a werthir mewn cymysgedd o ddwr halen a maidd. Mae'r caws ffres yn flasus iawn - ceir iddo flas ysgafn, llaethog. Gellir ei fwyta fel afal neu ei dorri'n sleisys a'i fwyta gyda thomatos, basil ac ychydig o olew olewydd. Mae'n fwyaf poblogaidd, fodd bynnag, fel caws ar bizza.

Nid yw peli mozzarella traddodiadol yn addas ar gyfer eu cynhyrchu ar raddfa fawr am nad ydynt yn para'n hir. Mae Mozzarella ar ffurf blocyn, sy'n para'n hirach ac sydd ag ansawdd tebycach i rwber, yn cael ei wneud ar raddfa fasnachol yn ffatri Dansco yng Nghastellnewydd Emlyn. Mae poblogrwydd pizzas wedi sicrhau llwyddiant y caws hwn a pharhad y diwydiant gwneud caws yng Nghastellnewydd Emlyn.