Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Filed a oen Cymreig gyda saws rhyfon cochion Cig Eidion Cymreig rhost a phwdinau bara lawr
Caws Castle Dairies Caerffili

Y Llwybr Caws

Caws Arbenigol - Caws ag Ychwanegion

Ceir cant a mil o'r rhain fel y gwelir yn rhestrau'r gwahanol gynhyrchwyr. Gellir ychwanegu perlysiau fel saets i'r ceulion wrth wneud y caws. Slawer dydd roedd lliw gwyrdd (cloroffyl) fel bresych neu sbigoglys (spinach) wedi'i dorri'n fân a'i hidlo yn cael ei ychwanegu at y caws. Erbyn hyn, os ychwanegir y lliw hwnnw o gwbl, defnyddir fersiwn fasnachol ohono. Caiff y rhan fwyaf o'r ychwanegion - melys neu safri - eu cymysgu â'r caws ar ôl ei wneud. Caiff y caws ei dorri neu ei falu'n ddarnau, cymysgir yr ychwanegion iddo ac fe roddir y cyfan yn ôl at ei gilydd ar ffurf caws. Cymysgir ychwanegion i mewn i gaws meddal neu gellir rolio'r caws ynddynt i wneud iddo edrych yn dda.